Please select your page

Dyma stori fer am y detecif byd enwog Herciwl Pwaro. Cafodd y stori hon ei hysgrifennu yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta'n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Llofruddiaeth Yn Y Manordy

Wrth lwc roedd Hercule Poirot, y ditectif Belgaid enwog, yn aros yng Ngogledd Cymru pan ddigwyddodd y trasiedi yno. Onibai am hyn, basai'r dirgelwch hwn yn dal heb ei esbonio hyd heddiw.

Ond gadewch if fynd yn ol i'r dechrau...

Bu rhaid i Monsieur Poirot adael ei fflat yng nghanol Llundain pan benderfynodd awdurdodau y ddinas ail-balmantu ei stryd. Roedd sŵn y peiriannau dan ei ffenestri yn ofnadwy, a'r llwch yn dod i mewn ac yn setlo ym mhobman. Dyn twt a thaclus ydy M. Poirot, fel mae pawb yn gwybod, ac yn casáu anrhefn a sw+n a llwch yn anad dim. Yn dilyn cyngor ei ffrind Colonel Hastings, felly, aeth M. Poirot i Gymru, i dreulio pythefnos yn yr awyr iach, ymhell o sŵn a mwg y ddinas fawr. Cyn hir roedd Poirot ymysg y mynyddoedd Cymreig, yn aros mewn Gwely a Brecwast mewn pentref gwledig yng nghysgod yr Wyddfa.

Er ei fod yn ddyn dinesig o'i gorun i'w sawdl, llwyddodd M. Poirot i fwynhau ei drigiad yn y pentref. Y diwrnod cyntaf, aeth i mewn i'r siopau, ymweld â'r hen gapel, ac edmygu'r maenordy gwych o'r ddeunawfed ganrif; yn fyr, gwelodd Poirot y golygefeydd i gyd. A'r dyddiau dilynol, beth a wnaeth? Mynd am dro yn y mynyddoedd, cerdded allan yn y cefn gwlad, edrych ar y ffermwyr yn hel eu defaid gyda chymorth eu cwn defaid du a gwyn. Byddai Poirot yn mynd allan bob dydd gyda'i het a'i ymbarel i grwydro rhyw lwybr mynyddig, gan gymryd gofal i ddod adre mewn pryd i gael te, a bob tro yn sychu ei esgidiau'n ofalus, rhag ofn iddo fe fod wedi sefyll yn rhywbeth cas roedd rhyw ddafad wedi'i osod ar y llwybr.

Un prynhawn tua diwedd ei drigiad yn y pentref, tra roedd M. Poirot yn cael te a bisgedi yn y Gwely a Brecwast, rhuthrodd y bwtler o'r maenordy i mewn. Roedd e wedi rhedeg o ben draw'r pentref i ofyn i M. Poirot ddod i'r maenordy ar unwaith: roedd rhywun wedi cael ei ladd!

Cydiodd M. Poirot yn ei het a'i ymbarel a brysio allan o'r tŷ, yn dilyn y bwtler trwy'r pentref i'r maenordy, lle trigodd yr Arglwyddes Prydderch-Jones are ei phen ei hen (gyda'i bwtler a'i chogyddes, hynny yw). Ar y ffordd, adroddodd y bwtler y hanes i M. Poirot: bachgen deg oed, mab y gogyddes, oedd wedi cael ei ladd. Roedd y gogyddes wedi dod o hyd i'w mab yn gorwedd ar lawr y gegin, yn farw. Nid oedd hithau na'r bwtler wedi gweld neu glywed dim byd o'i le ar y pryd.

Pan gyrhaeddodd M. Poirot, roedd yr heddlu wedi dod a mynd yn barod, ar ôl chwilio am gliwiau a gofyn cwestiynnau o bob math, ond yn ofer - ymadawodd y plismyn heb ddod o hyd i'r un prawf i ddangos pwy oedd wedi llofruddio'r bachgen.

Dechreuodd M. Poirot holi'r gogyddes; beichiodd hithau wylo a gallodd o'r braidd siarad. "Pardon, Madame," meddai M. Poirot, "Rydw i'n deall bod hyn yn anodd iawn i chi, ond mae rhaid i fi ofyn ychydig o gwestiynau, ac mae'n angenrheidiol i chi ateb mor fanwl ‚ phosib. Yn gyntaf, Madame, ble roedd eich mab pan ddaethoch chi o hyd iddo fe?"

"Roedd e'n gorwedd ar y llawr, wrth y bwrdd, a chyllell yn ei gefn," egurodd y gogyddes, gan sychu ei dagrau.

"Mae'n debyg na welodd e ddim o'r llofrudd, felly," meddai M. Poirot. "Fasai fe wedi ei glywed, tybed?"

"O na fasai," atebodd y gogyddes yn bendant. "Dwi'n siwr na chlywodd e ddim byd? Roedd e'n bwyta cawl ar y pryd, ac yn llyncu'n swnllyd, fel arfer. Byddai fy meistres, yr Arglwyddes Prydderch-Jones, yn dweud y drefn wrth y bachgen truan o hyd ac o hyd am iddo wneud cymaint o sw+n wrth fwyta."

"Aha!" criodd Monsieur Poirot. "Rydw i wedi darganfod y llofrudd! Ffoniwch yr heddlu, a dywedwch iddyn nhw restio yr Arglwyddes Prydderch-Jones ar unwaith!"

Ar ôl i'r plismyn fynd â'r foneddiges ddiedifar i orsaf yr heddlu, cerddodd M. Poirot yn feddylgar yn ôl i'w Wely a Brecwast. "Gobeithio na chaiff yr Arglwyddes Prydderch-Jones ddyfarniad llym," meddyliodd Poirot. "Nid arni hi oedd y bai, wedi'r cwbl. Mae'n hollol warthus i rywun lyncu ei gawl yn swnllyd fel 'na o hyd ac o hyd. Dim rhyfedd i'r arglwyddes gracio dan y straen!"


Geirfa

  • llofruddiaeth (masc.) - murder (also, llofruddio - to murder, and llofrudd, m - murderer)
  • Maenordy (m) - manor house
  • ymddiheuriad (m) - apology
  • dirgelwch (m) - mystery
  • dal heb ei esbonio - to remain unexplained
  • awdurdod (m) - authority
  • dinas (fem.) city (also, dinesig - urban)
  • ail-balmantu - to re-pave
  • peiriannau - machines (singular: peiriant, m)
  • llwch (m) - dust
  • ym mhobman - everywhere
  • twt a thaclus - neat and tidy
  • casáu - to hate (also, cas - nasty, hateful)
  • anrhefn (f) - disorder (cf. trefn - order)
  • yn anad dim - above all
  • cyngor (m) - advice
  • ymysg - among
  • gwledig - rural (cf. gwlad - coutry; also cefn gwlad - countryside)
  • cysgod (m) - shadow
  • o'i gorun i'w sawdl - from head to foot
  • llwyddo i - to succeed in
  • mwynhau - to enjoy
  • trigiad (m) - a stay (also, trigo - to stay)
  • edmygu - to admire
  • gwych - splendid
  • deunawfed ganrif - 18th century
  • golygfeydd - sights (sing. golygfa, f)
  • hel - to herd
  • cymorth (m) - help
  • crwydro - to wander
  • llwybr (m) - path
  • mewn pryd - in time (also, ar y pryd - at the time)
  • sychu - to dry
  • rhag ofn - in case
  • gosod - to drop or set
  • rhuthro - to rush
  • pen draw - the far end
  • cael ei ladd - to be killed (cf. lladd - to kill)
  • cydio yn - to grab
  • yr Arglwyddes (f) - Lady
  • cogyddes - cook
  • adrodd - to recount
  • marw - dead
  • o'i le - wrong
  • yr heddlu (m) - police (also, gorsaf yr heddlu - police station)
  • pob math - every kind
  • yn ofer - in vain
  • ymadael - to leave
  • yr un prawf - (not) a single proof
  • holi - to interrogate
  • beichio wylo - to sob
  • o'r braidd - scarcely
  • angenrheidiol - necessary
  • mor fanwl â - as precisely as...
  • tebyg - likely
  • tybed - I wonder
  • pendant - emphatic
  • cawl (m) - soup
  • llyncu - to swallow
  • swnllyd - noisy (cf. sŵn, m - sound)
  • fel arfer - as usual
  • dweud y drefn - to scold
  • truan - poor
  • o hyd ac o hyd - again and again
  • bonheddiges (f) - lady, noblewoman
  • diedifar - unrepentant
  • na chaiff - she will not get (from cael)
  • dyfarniad (m) llym - harsh sentence
  • bai (m) - blame
  • wedi'r cwbl - after all
  • gwarthus - disgraceful
  • fel yna - like that
  • dim rhyfedd - no wonder