Please select your page

Mae Steve Morris wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru, mae o'n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma argraffiadau Steve ar Gwrs Cymraeg Y Mynnyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.


Llythyr O Gymru

Dyma'r tro cyntaf i fi fod yn yr Unol Daleithiau yn fy mywyd! A dyna sioc oedd cyrraedd Efrog Newydd yng ngwres mawr mis Gorffennaf ar ôl hedfan yn syth o Gaerdydd. Sut byddai'r pythefnos nesaf yn America? Pa fath o bobl fyddai ar y cwrs? Oeddwn i wedi paratoi digon o waith iddyn nhw? Wrth lwc, roedd dau o'r tiwtoriaid eraill wedi dysgu ar y Cwrs Cymraeg o'r blaen (Heini ac Emyr yn Atlanta) ac roedd digon o gyngor a help i gael gyda nhw. Truelion ni rai diwrnodau yn yr Afal Mawr cyn teithio ar Amtrak i dalaith hyfryd Vermont a chael ein croesawu gan Mary Ellen Palmer, Meredith Roberts ac eraill yn Green Mountain College, Poultney.

Roedd Vermont mor wahanol i Efrog Newydd ond roedd yn glir i fi yn syth pam oedd cymaint o Gymry wedi synud i'r ardal yn y ganrif ddiwethaf: y llechi, wrth gwrs, ond y wlad brydferth hefyd - y mynyddoedd, y llynnoedd a phopeth sy'n atgoffa rhywun o harddwch Gogledd Cymru. Roeddwn yn teimlo'n gartrefol iawn ymysg y capeli, y baneri a'r enwau Cymraeg yno. Cafwyd croeso twymgalon gan aelodau Cymdeithas Madog ar ôl cyrraedd ond yr un mor wresog oedd croeso trigolion Poultney a'r cylch a'u balchder yn eu gwreiddiau Cymreig.

Bues i'n ffodus iawn - fel tiwtor - gyda'r dosbarth hefyd. 16 o ddysgwyr brwd iawn heb fawr o Gymraeg o gwbl oedd yn gweithio'n galed iawn, iawn trwy'r wythnos. Roedd cysylltiadau Cymreig gyda llawer o'r dosbarth ac eraill yn dysgu oherwydd diddordeb mewn ieithoedd. Mae'n galonogol iawn fod llawer ohonyn nhw yn dal i gysylltu try'r e-bost ac yn dal i ddysgu Cymraeg (gan gwnnwys grwp yn nhalaith Vermont a dyn arall sydd yma yn dysgu yng Nghymru ar hyn o bryd). Gobeithio'n wir y byddan nhw'n dod nôl i gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog yn y dyfodol. Rhaid peidio ag anghofio chwaith y criw bach ffyddlon o ddawnswyr oedd yn dod i'r sesiynau dawnsio gwerin bob prynhawn: roedden nhw'n sêr go iawn!

Erbyn 1997, beth sy'n aros yn y cof? Well pobl yn bennaf - y dysgwyr oedd wedi gweithio mor galed (yn ystod y dydd - a'r nos!!) ac yn rhoi 100% i bopeth. Roedd eu diddordeb di-derfyn a'r awydd i ddysgu cymaint ag oedd yn bosibl am Gymru a'r Gymraeg mewn wythnos yn ysbrydoliaeth. Mae'n wir dweud fod llawer ohonyn nhw yn dal i ysgrifennu a chysylltu ar ôl y cwrs ac wedi dod yn ffrindiau mawr: gobeithio gweld rhai ohonynt yn ystod 1997. Roedd y grefnwyr hefyd - yn enwedig Loretta a Mel - yn hynod o garedig a chymwynasgar: diolch eto iddyn nhw a phawb arall yng Nghymdeithas Madog am y croeso a chymorth parod a gafwyd. Yn olaf, bydd Vermont ei hunan a'i chysylltiadau â Chymru yn aros yn y cof - roedd dod i wybod am y Cymry aeth i'r rhan honno o'r Unol Daleithiau yn ddiddorol dros ben yn enwedig ar ôl cwrdd â William Williams yn Granville oedd yn dal i siarad Cymraeg (ac wedi'i enwi yn yr Unol Daleithiau!). Mae'r rhan hon o America yn rhan o Loegr Newydd fydd yn Gymru am byth.