Please select your page

Mae Mark Stonelake wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.  Ysgrifennodd yr erthygl hon ar ôl gwibdaith i Harper's Ferry yn ystod Cwrs Dyffryn Shenandoah, 2011.


Gwibdaith i Harpers Ferry

Ro’n i’n breuddwydio am seidr oer a hufen iâ pan stopiodd y bws a dihunais i weld ein bod wedi cyrraedd y dre fach hanesyddol ar *‘brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’. Yn wahanol i’r ‘Bardd Cwsg’, doedd dim * ‘spienddrych’ gyda fi ‘i helpu fy ngolwg egwan, i weled pell yn agos, a phetheu bychain yn fawr’. Diawch, roedd hi’n dwym! Dwedodd rhywun ei bod yn 94 gradd. Felly, ni *‘chymerais hynt i ben un o fynyddoedd’ yr ardal ac arhosais yn y dref gyda fy sbectol haul. Cawson ni ein tywys o gwmpas y dref gan ddau ddyn gwybodus, wedi’u gwisgo mewn dillad y 19eg ganrif gan gynnwys drylliau’r cyfnod. Clywon ni am ba mor bwysig oedd safle strategol y dref yn ei datblygiad, ar aber dwy afon – y Shenandoah a’r Potomac, rhwng tair talaith – Virginia, West Virginia a Maryland ac ar gamlas Chesapeake ac Ohio heb sôn am reilfordd Baltimore ac Ohio a Winchester a Potomac a’r arfdy a godwyd yn 1790. Dim syndod bod John Brown wedi ceisio dechrau ei wrthryfel yn erbyn caethwasiaeth yma drwy ymosod ar yr arfdy i ddwyn ei gynnwys yn 1859, a bod y lle wedi newid dwylo wyth gwaith rhwng 1861 a 1865 yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae Llwybr Appalachia yn mynd trwy’r dref a thwristiaeth, nid diwydiant sy’n cadw’r blaidd o’r drws erbyn hyn.

Wedi dysgu llwyth o bethau am y lle a’i hanes, aethon ni am dro o gwmpas y dref gan alw heibio i’r siop lyfrau. Diolch byth am yr aerdymheru, meddwn i. Cyrhaeddodd pawb y bws mewn da bryd a dechreuon ni ein taith yn ôl i’r brifysgol. Roedd pawb yn rhy flinedig i ganu, felly setlais yn ôl yn fy sedd…

*‘ac wedi â 'm Meddwl daeth blinder, ac ynghyscod Blinder daeth fy Meistr Cwsc yn lledradaidd i 'm rhwymo; ac â 'i goriadeu plwm fe gloes ffenestri fy Llygaid a 'm holl Synhwyreu eraill yn dynn ddiogel.’

Mewn geiriau eraill, ro’n i wedi blino’n lân ac es i i gysgu. Rwy’n gwybod nad yw hwnnw mor bert a geiriau Ellis Wynne, ond beth dych chi’n ei ddisgwyl, nid y ‘Bardd Cwsg’ mohonof.

*Gweledigaethau’r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne


Geirfa

  • hanesyddol - historical
  • talaith - state
  • spienddrych - spyglass
  • camlas - canal
  • tywys - to lead/guide
  • gwrthryfel - revolt
  • gwybodus - knowledgeable
  • caethwasiaeth - slavery
  • dryll - gun
  • rhyfel cartref - civil war
  • safle - site
  • aerdymheru - air conditioning