Please select your page

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Ddeilen Goch, 2004 gan Delyth (Sarah Stevenson)


Chwedl Ddau Gymydog

Amser maith yn ôl, cyn clociau a chyn cenhedloedd, roedd y wlad yn lân, a'r nefoedd yn llawn heulwen drwy'r dydd a golau'r sêr gyda'r nos. Crwydrodd anifeiliaid heb ofn bodau dynol. Dyna adeg pan gafodd Morwyn-y-Llyn a Crwt-y-Coed eu geni.

Wrth i Grwt-y-Coed adeiladu tai tegan o ffyn a phren ar lannau'r llyn, roedd Morwyn-y-Llyn yn chwarae dan y dyfroedd dyfnion, yn adeiladu cestyll tywod oedd yn codi eu tyrau i'r heulwen uwchben.

Daeth tro ar fyd. Adeiladodd Crwt-y-Coed dy nad oedd yn degan, ty digon mawr i ddau. Ond dim ond fe oedd yn byw rhwng ei furiau, yn cael ei swper ar ei ben ei hunan bob nos, yn meddwl am ei goedwig annwyl a weithiau am y Forwyn dlos oedd yn byw dan y dŵr.

Nid fe oedd yr unig un i sylwi ar y Forwyn. Un dydd, dechreuodd ymwelwyr cyrraedd lan y llyn, dynion o bedwar ban byd. Ond doedd dim diddordeb gyda Morwyn-y-Llyn ynddyn nhw. Cyn bo hir fe adawon nhw'r tir fel yn y dyddiau cynnar—yn ddistaw ar wahân i'r anifeiliad a'r gwynt.

Bob bore, roedd Crwt-y-Coed yn arfer gweiddi ar Forwyn-y-Llyn gyfarchiad llawen, a bob bore, dywedodd Morwyn-y-Llyn "Bore braf ydy e, yntefe?" wrth iddi hi nofio mewn cylchau araf o gwmpas y llyn. Fe welodd y bachgen bob tro fod y ferch yn brydferth fel y blodau. Ond roedd y Crwt yn swil, a dim ond "bore da" a "noswaith da" ddywedodd e bob dydd.

Un bore daeth dyn tal i weld Morwyn-y-Llyn. Fe aeth e bob dydd i'r llyn a gofyn i'r ferch, "Wnei di fy mhriodi?" Bob tro dywedodd hi ddim byd wrtho. Ar ôl wythnos, gwylltiodd y dyn, a dechreuodd e weiddi a rhegi - nid dyn caredig iawn oedd e. Roedd ofn ar Forwyn-y-Llyn. Pan welodd Crwt-y-Coed hynny, gwylltiodd e hefyd ar ran y Forwyn, a rhedodd e fel cath ar dân i lannau'r llyn.

Gwelodd y dyn tal y bachgen crac 'ma yn rhedeg tuag ato, gyda ffyn yn ei wallt a dail ar ei ddillad, yn edrych fel rhywun o tu hwnt i'r byd cyffredin, a rhedodd y dyn tal. Ond daeth e o hyd i goedwig yn llawn mieri a changhennau, ac wrth iddo fe ffoi roedd y Crwt a'r Forwyn yn gallu ei glywed yn rhegi eto ac yn melltithio'r coed.

Yn ffodus, doedd dim diddordeb gyda'r Crwt na'r Forwyn mewn melltithion di-rym dyn fel ‘na. Gwenodd y ddau ar ei gilydd, roedd y goedwig a'r llyn yn ddistaw ac yn heddychol unwaith eto. Doedd yr un ohonyn nhw wedi dweud dim byd eto. O'r diwedd, torrwyd y tawelwch gan Crwt-y-Coed.

"Bore da," dywedodd e wrth Forwyn-y-Llyn.

"Bore braf ydy e, yntefe?" atebodd hi. A chydiodd hi ym mraich Crwt-y-Coed am y tro cyntaf.

Y Diwedd ... neu'r Dechrau

Delyth


The Story of Two Neighbours

A long time ago, before clocks and before countries, the land was pure, and the skies full of sunshine throughout the day and starlight at night. Animals wandered without fear of human beings. That was the time when the Lake Maiden and the Forest Boy were born.

While the Forest Boy built toy houses of sticks and wood on the shores of the lake, the Lake Maiden played beneath the deep waters, building sand castles that raised their towers to the sunlight overhead.

Things changed. The Forest Boy built a house that wasn't a toy, a house big enough for two. But only he lived between its walls, having dinner on his own each night, thinking about his beloved forest and sometimes about the lovely Maiden who lived under the water.

He wasn't the only one to notice the Maiden. One day, visitors began to arrive at the banks of the lake, men from the four corners of the world. But the Lake Maiden had no interest in them. Before long, they left the land as in those early days - silent, apart from the animals and the wind.

Every morning, the Forest Boy used to shout a cheerful greeting to the Lake Maiden, and every morning, the Lake Maiden said "It's a fine morning, isn't it?" as she swam in slow circles around the lake. The lad saw, each time, that the girl was as lovely as the flowers. But the Boy was shy, and he said only "good morning" and "good evening" each day.

One morning, a tall man came to see the Lake Maiden. He went to the lake every day and asked the girl, "Will you marry me?" Each time, she said nothing to him. After a week, the man was enraged, and he began to shout and swear - he was not a kind man. The Lake Maiden was frightened. When the Forest Boy saw this, he too was enraged, on behalf of the Maiden, and he ran like the wind (lit. "like a cat on fire") to the lakeshore.

The tall man saw that angry lad running towards him, with sticks in his hair and leaves in his clothing, looking like someone from out of this world, and the tall man ran. But he found the forest full of briars and branches, and as he fled, the Boy and the Maiden could hear him swearing still and cursing the trees.

Fortunately, neither the Boy nor the Maiden had any interest in the powerless curses of a man like that. The two smiled at each other, the forest and the lake quiet and peaceful once again. Neither one had said anything yet. Finally, the silence was broken by the Forest Boy.

"Good morning," he said to the Lake Maiden.

"It's a fine morning, isn't it?" she answered. And she took the arm of the Forest Boy for the first time.

The End ... or The Beginning

Sarah Stevenson
Cyfieithiad gan / Translation by Sarah Stevenson