Scholarships – Scholarship Endowment Fund

The Cymdeithas Madog Scholarship Endowment Fund

For more than 30 years, Cymdeithas Madog has provided a unique opportunity to study the Welsh language in North America. Through the generosity of the Welsh National Gymanfa Ganu Association (WNGGA) and the National Welsh American Foundation (NWAF), Cymdeithas Madog has been able to offer each year a limited number of partial scholarships to help students attend the course. In addition to the partial scholarships, Cymdeithas Madog offers the Naomi Mergenthal Memorial Scholarship, a fully paid scholarship for one young person. In many cases, the award makes a crucial difference, but in other cases, it is not enough to enable a prospective student to attend.

In recent years, with the Cymdeithas Madog web site and increasing use of the Internet, more people, including university students, have expressed interest in attending the courses. While the organization is pleased about this trend, it highlights the existing need for more full scholarships. In response, Cymdeithas Madog, a non-profit organization (501c3) has established a Scholarship Endowment Fund and is now seeking donations. Contributions are U.S. tax deductible. The goal is to add to a $12,000 fund to build a $25,000 balance. The interest earned will be enough to provide the equivalent of two full scholarships each year, in addition to current scholarship programs.

You are invited to make a donation to Cymdeithas Madog for this purpose. There are numerous opportunities to do so. If you have ever received a scholarship, and now find yourself in a more stable financial situation, you are encouraged to donate the value of the scholarship you received. When making a memorial donation, consider the Scholarship Endowment Fund. Think of making a donation to honour a family member or friend for their birthday, anniversary, or other gift-giving occasion. Honour your Welsh ancestors with a donation in their name. You can make a deferred gift by including Cymdeithas Madog in your will. Each donor will receive a certificate of recognition.

Please send your contributions to:

{module Scholarship Endowment Fund Manager}

Please make cheques payable to The Cymdeithas Madog Scholarship Endowment Fund.

Alternatively, you can make your donation to the Cymdeithas Madog Scholarship Endowment Fund via our Friends of Madog donation page.

Potentially your gift can be doubled: contact your employer to determine if they match employee charitable contributions.

Services – Video Library

Video Lending Library

Cymdeithas Madog maintains a lending library of Welsh and Welsh language VHS videos.

Services – Tapes & CDs For Sale

Tapes & CDs

Cymdeithas Madog has a range of audio cassette tapes and CDs that will give you a solid foundation in the correct pronunciation of Cymraeg (“the Welsh language”).

Readings In Welsh – Cwrs Cymraeg Poultney, Vermont

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o’n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma adrodd Heini ar Gwrs Cymraeg Y Mynyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.


Cwrs Cymraeg Y Mynedd Glas – 1966

Mae’r ymfudo mawr i America’n un o benodau mwyaf cyffrous hanes Cymru. Erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf reodd 100,000 o bobl a anwyd yng Nghymru yn byw yn yr Unol Daleithiau, a’u plant a’u hwyrion hefyd. Roedd y cyfnod hwnnw’n un o antur mawr, wrth i weithwyr haearn, dur, copor a glo, chwarelwyr, ffermwyr a gweinidogion, fentro ar longau digon simsan ar draws y môr mawr.

Fe lwyddodd y rhan fwyaf i gael bywoliaeth dda, a phrofi fod y Cymry, ond iddyn nhw gael cyfle, yn gallu llwyddo ym mhob maes o fywyd. Ond eu disgynyddion nhw heddiw sy’n gorfod codi’r darnau a oedd wedi disgyn. Ymhlith y darnau a chwalwyd, gwaetha’r modd, mae’r Gymraeg. Mae’n ysbrydoliaeth fod cymaint o Gymry America heddiw’n ailafael yn yr iaith, ac roedd y Cwrs Cymraeg yn Poultney, Vermont, eleni, yn dyst i’r brwdfrydedd newydd.

Fel y disgwyl, erbyn hyn, cafwyd wythnos o weithgareddau di-baid, gwersi brwd, a nosweithiau hwyliog. Oherwydd bod cymaint wedi dod i’r cwrs – tua wyth deg, roedd rhaid cael pedwar athro o Gymru. Roedd saith dosbarth dysgu, a braf oedd gweld cynifer o ddysgwyr newydd wedi dod. Mae’r cwrs erbyn hyn yn llwyddo i ddenu bobl newydd i ddysgu’r iaith. Gwelwyd hyn yn Atlanta ac yn Poultney.

Beth oedd uchafbwyntiau’r cwrs eleni? Yn sicr, mae’r cwrs yn gyfle i hen gyfeillion gwrdd, ac mae’n rhoi chwistrelliad o Gymreictod i bawb sy’n dod. Mae’n dda cael nerth newydd i’r batri! Trwy’r gweithgareddau anffurfiol – y sgyrsio amser bwyd, y cwmnïa fin nos, mae rhwymyn o gyfeillgarwch yn gafael yn dyn.

Roedd hi’n braf hefyd cwrdd â wynebau newydd. Rhai wedi hedfan yn arbennig o Galiffornia, brenhines prydferthwch wedi dod o Puerto Rico, a nifer o Efrog Newydd. Gobeithio y bydd y rhain i gyd yn gallu dal eu gafael yn eu hiaith newydd.

Profiad gwerthfawr i bawb ar y cwrs oedd darganfod y gwreiddiau Cymraeg yn y rhan hon o’r byd. Roedd gweld y Ddraig Goch yn cyhwfan y tu allan i’r gwesty lleol, gweld enwau Cymraeg ar dai ac ar geir, a darganfod trigolion Cymraeg a disgynyddion y Cymry cynnar yn gyffrous.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru, fe welais ddisgrifiad o ardal chwareli Vermont, a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad yr ardal yn llyfr William D. Davies, America a Gweledigaethau Bywyd (Merthyr Tydfil, 1894). Meddai fe mai’r Cymro cyntaf i agor chwarel yn yr ardal oedd Owen Evans. Yna ceir sôn am Hugh W. Hughes, "brenin y chwarelau".

Diolch i Janice Edwards a’r pwyllgor trefnu, cafwyd cyfle i gael blas ar y gorffennol cyfoethog hwn. Roedd y daith o gwmpas y chwareli a’r capeli Cymraeg, a’r mynwentydd yn arbennig, ac roedd clywed y Gymraeg yn dal ar wefusau rhai o’r trigolion lleol yn wefreiddiol. Fe gofiwn hefyd y gymanfa ganu yn y capel lleol, a Jac yn arwain yn frwd hyd at chwysu.

Tipyn o gamp oedd yfed y dafarn leol yn sych, ond y pleser oedd treulio’r noson honno’n canu alawon Cymru: dyna hefyd y wefr a gafodd y tafarnwr ar y noson ganu swyddogol, pan gafodd ei gyffroi i’r fath raddau nes codi’r ffôn er mwyn i’w wraig gael clywed y canu. Ffilm Hedd Wyn wedyn – ffilm a barodd ias i rai nad oedd yn gyfarwydd â’r hanes. Gallwn ychwanegu hwyl y dawnsio gwerin a’r noson lawen..digon yw dweud i’r wythnos fod yn un fythgofiadwy.

Yn sail i’r cyfan, wrth gwrs, roedd yr awydd i feistroli’r Gymraeg, ac fe wnaed hynny’n effeithiol ac yn ddyfal yn y gwersi cyson bob dydd. Roedd yn bleser gweld sut roedd rhai o’r mynychwyr wedi datblygu ers y cwrs y llynedd, a’r Gymraeg bellach yn dod yn iaith gyfarwydd iddynt.

Ni fydd yr athrawon o Gymru’n anghofio’u hymwelaid. Fe gawson ni flas byr ar Efrog Newydd cyn dod, ond roedd hi’n falm i’r enaid cyrraedd gwlad braf Vermont, a oedd yn atgoffa dyn am Gymru, ac roedd pentref Poultney yn fan dymunol a chyfeillgar.

Yn ddigon diddorol, fe ddes ar draws cyfeiriad at Poultney mewn llyfr a ysgrifennwyd ar America yn 1883 (y llyfr taith cyntaf yn y Gymraeg, tybed? Dros Cyfanfor a Chyfandir, William Davies Evans, Aberystwyth). Meddai’r awdur am Poultney: ".. gwelais un o’r pentrefi glanaf ac iachusaf yr olwg arno. Oddiwrth led mawr ac uniawnder ei heolydd, gwychder ei adeiladau, a threfn tyfiant ei brenau cysgodawl, gallwn dybio ei fod yn lle paradwysaidd yn yr haf."

Wel do, fe gawson ni wythnos baradwysaidd. Blas ar hanes, ar Gymru ac ar y Gymraeg. Diolch i bwyllgor gweithgar Cymdeithas Madog am eu trefniadau trylwyr arferol, a roddodd i’r athrawon ac i’r mynychwyr wythnos wrth fodd pawb.


Geirfa

  • ymfudo – to emigrate
  • cyffrous – exciting
  • cyfnod – period
  • sinsan – rickety
  • disgynnydd – descendant
  • ailafael – reacquire
  • brwdfrydedd – enthusiasm
  • denu – attract
  • chwistrelliad – injection
  • brenhines prydferthwch – beauty queen
  • darganfod – to discover
  • cyhwfan – to wave
  • trigolion – inhabitants
  • datblygiad – development
  • gweledigaeth – vision
  • pwyllgor – committee
  • gorffennol – past
  • mynwent – cemetary
  • chwysu – to sweat
  • camp – feat
  • cyffroi – to excite
  • ychwanegu – to increase
  • bythgofiadwy – unforgettable
  • sail – foundation, base
  • mynychwyr – attendee
  • dymunol – pleasant
  • cyfeillgar – friendly
  • diddorol – interesting
  • tybed – I wonder
  • lled – wide
  • uniawnder – straightness
  • tyfiant – growth
  • cysgodawl – shady
  • trylwyr – thorough
  • arferol – usual

Readings In Welsh – Gwibdaith i Harpers Ferry

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Mae Mark Stonelake wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas
Madog dros y blynyddoedd.  Ysgrifennodd yr erthygl hon ar ôl gwibdaith i
Harper’s Ferry yn ystod Cwrs Dyffryn Shenandoah, 2011.


Gwibdaith i Harpers Ferry

Ro’n i’n breuddwydio am seidr oer a hufen iâ pan stopiodd y bws
a dihunais i weld ein bod wedi cyrraedd y dre fach hanesyddol ar
*‘brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’. Yn wahanol i’r ‘Bardd Cwsg’,
doedd dim * ‘spienddrych’ gyda fi ‘i helpu fy ngolwg egwan, i weled pell yn agos,
a phetheu bychain yn fawr’. Diawch, roedd hi’n dwym! Dwedodd rhywun ei bod yn
94 gradd. Felly, ni *‘chymerais hynt i ben un o fynyddoedd’ yr ardal ac
arhosais yn y dref gyda fy sbectol haul. Cawson ni ein tywys o gwmpas y dref gan
ddau ddyn gwybodus, wedi’u gwisgo mewn dillad y 19eg ganrif gan gynnwys
drylliau’r cyfnod. Clywon ni am ba mor bwysig oedd safle strategol y dref yn ei
datblygiad, ar aber dwy afon – y Shenandoah a’r Potomac, rhwng tair talaith
– Virginia, West Virginia a Maryland ac ar gamlas Chesapeake ac Ohio heb sôn
am reilfordd Baltimore ac Ohio a Winchester a Potomac a’r arfdy a godwyd yn 1790.
Dim syndod bod John Brown wedi ceisio dechrau ei wrthryfel yn erbyn caethwasiaeth
yma drwy ymosod ar yr arfdy i ddwyn ei gynnwys yn 1859, a bod y lle wedi newid
dwylo wyth gwaith rhwng 1861 a 1865 yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae Llwybr
Appalachia yn mynd trwy’r dref a thwristiaeth, nid diwydiant sy’n cadw’r
blaidd o’r drws erbyn hyn.

Wedi dysgu llwyth o bethau am y lle a’i hanes, aethon ni am
dro o gwmpas y dref gan alw heibio i’r siop lyfrau. Diolch byth am yr aerdymheru,
meddwn i. Cyrhaeddodd pawb y bws mewn da bryd a dechreuon ni ein taith yn ôl i’r
brifysgol. Roedd pawb yn rhy flinedig i ganu, felly setlais yn ôl yn fy sedd…


*‘ac wedi â ‘m Meddwl daeth blinder, ac ynghyscod Blinder
daeth fy Meistr Cwsc yn lledradaidd i ‘m rhwymo; ac â ‘i goriadeu plwm fe
gloes ffenestri fy Llygaid a ‘m holl Synhwyreu eraill yn dynn ddiogel.’


Mewn geiriau eraill, ro’n i wedi blino’n lân ac es i i gysgu.
Rwy’n gwybod nad yw hwnnw mor bert a geiriau Ellis Wynne, ond beth dych chi’n ei
ddisgwyl, nid y ‘Bardd Cwsg’ mohonof.


*Gweledigaethau’r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne


Geirfa

  • hanesyddol – historical
  • talaith – state
  • spienddrych – spyglass
  • camlas – canal
  • tywys – to lead/guide
  • gwrthryfel – revolt
  • gwybodus – knowledgeable
  • caethwasiaeth – slavery
  • dryll – gun
  • rhyfel cartref – civil war
  • safle – site
  • aerdymheru – air conditioning

Readings In Welsh – Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o’n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Ysgrifennod Heini’r ddarn o farddoniaeth ar ôl Cwrs Cymraeg Atlanta, 1995.


Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America

Sut bydd y ffarwel ola?

A fydd munudyn seremoni?

Wedi oes o wres,

o fyw ar drydan nerfau,

a chyffro cyrff,

a geir un gusan laith

neu anwes glyd,

neu a gaf olwg ohonot o bellter clwyfus?

Ynteu a gerddi i’r lifft i’r seithfed llawr

heb wybod fod y foment fawr ar fod?

(Neu ai i’w osgoi,

i wylo dros ynfydrwydd byw;

neu ai’n ddifater ei?

Er poeni,

ni allaf boeni mwy).

Y pryd hwnnw,

os caf,

fe gaf i ganu’n iach i’r lleill,

rhai’n anwyliaid oes,

codi llaw ar hwn a’r llall,

ysgwyd llaw,

a choflaid.

Yna camaf tua’r limo gwyn,

a ddaeth i’m cludo o’r tir newydd hwn,

i’r hen, hen fyd,

i’r lle y tarddodd amser, celf a llen,

(a’r awch i ladd)

A’r pryd hwnnw,

fel diwedd breuddwyd braf,

fe ddoi i blith y lleill,

ac estyn llaw i mi i’w dal yn dyn

Un olwg olaf wedyn, codi llaw,

a dyna ni,

a minnau nawr,

yng nghlydwch soffa lledr du y limo hir,

yng nghwmni gyrrwr boldew mud,

a bar wrth law,

a teithwyr byd yn bwrw golwg syfdan,

yn cyrchu tua Hartsfield

i gael esgyn fry i’r nen.

Readings In Welsh – Pam Ydw I Yma: Why Indeed?

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Mae Cefin Campbell, athro Cymraeg brofiadol o Dde Cymru, wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Pam Ydw I Yma: Why Indeed?

Y mae fy nghysylltiad cyntaf â Chymdeithas Madog yn mynd yn ôl i 1986 pan ces i wahoddiad i ddysgu ar Gwrs Gymraeg Y Bedol Aur yn Nhoronto. Dyna’r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Gogledd America ac yr oedd yn brofiad bythgofiadwy.

Ers hynny yr wyf wedi bod yn ffodus o gael gwahoddiad i fynd yn ôl nifer o weithiau fel athro ac arweinydd cwrs. Y cyrsiau eraill yr wyf wedi bod yn dysgu arnynt yw’r rhai a gafodd eu cynnal yn Cincinnatti (1987), Boston (1988), Atlanta (1995), Indianola (1997) a Berkeley, San Francisco (1998).

Dros y blynyddoedd yr wyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nifer o bobl ddiddorol iawn, llawer yr wyf yn parhau mewn cysylltiad â nhw heddiw. Drwy’r cyfeillgarwch hwn yr wyf wedi dod i adnabod Cymry America yn well – eu hanes ac yn arbennig eu hymdrechion i gynnal eu hunaniaeth fel pobl dros gyfnod o ganrifoedd.

Yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i mi yw’r rhesymau pam y mae cannoedd o bobl o bob rhan o Ogledd America wedi mynychu cyrsiau Cymdeithas Madog yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwerthaf. Y mae rhai o’r rhesymau yn ddigon amlwg – cysylltiad teuluol â Chymru neu’r awydd i astudio’r Gymraeg fel pwnc academaidd, ond mae rhesymau eraill eithaf ‘bizarre’ wedi codi o bryd i’w gilydd. Pwy fasai’n meddwl bod cadw corgi Cymreig yn rheswm dros ddysgu Cymraeg neu bod yn ffan o’r Dywysoges Diana neu Tom Jones? A beth am yr un ddaeth ar gwrs Cymraeg am eu bod yn gwerthu cwrw Felinfoel yn ei ‘liquor store’ lleol. Wel, ble gwell i ddod na chwrs Cymraeg i ddysgu mwy am gwrw Cymru?!

Unig rheswm un wraig o Bennsylvania am ddod ar gwrs oedd gallu dweud ‘Llanfairpwyllgwyngyll etc’ heb anadlu, ac un arall o Wisconsin eisiau dysgu Gweddi’r Arglwydd ar ei chof. Ac yna’r dyn yn Cincinatti a ddaeth yn arbennig i ofyn os oedd un o’r athrawon o Gymru yn adnabod ei Wncwl Wil Thomas oedd yn byw rhywle yn Ne Cymru!

Ond y stori orau oedd yr aelod o Greenpeace a oedd wedi gweld poster yn dweud ‘Save Whales’ a dod ar gwrs i achub Cymru!

Ond heblaw am eithriadau fel hyn y mae’r ymroddiad sydd yn cael ei ddangos gan bobl sydd yn dod ar gyrsiau Cymdeithas Madog wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros y blynyddoedd. Yr wyf yn aml wrth siarad â chymdeithasau neu fudiadau yng Nghymru yn cyfeirio at frwdfrydedd pobl Gogledd America am yr iaith, ei hanes a’i diwylliant, ac yn gobeithio rhyw ddydd y bydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn dangos yr un diddordeb mewn iaith a diwylliant.

Gobeithio y caf gyfle i gadw fy nghysylltiad â Chymdeithas Madog mewn rhyw ffordd neu’i gilydd dros y blynyddoedd nesa.

Readings In Welsh – Y Dywysoges A’r Bysen

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Dyma stori enwog Hans Christian Anderson am y tywysoges a’r bysen. Cafodd y stori hon ei chyfieithu gan Marta Weingartner Diaz.


Y Dywysoges A’r Bysen

Roedd unwaith, yn yr hen ddyddiau, dywysog hardd; roedd e eisiau priodi tywysoges, ond roedd rhaid iddi fod yn dywysoges go iawn. Teithiodd y tywysog felly trwy’r byd i gyd, yn chwilio am dywysoges wir, ond heb lwc. Roedd digon o dywysogesau i’w cael yn y byd, wrth gwrs, ond ai tywysogesau go iawn oedden nhw? Doedd y tywysog ddim yn siwr; bob amser roedd rhywbeth o’i le arnyn nhw. Dychwelodd gartref, felly, ac roedd yn drist iawn; roedd e wedi gobeithio’n arw cael tywysoges go iawn.

Un noson roedd y tywydd yn ofnadwy; taranodd a melltennodd, daeth y glaw i lawr mewn bwcedi – yn fyr, roedd yn hollol ddychrynllyd. Yn sydyn cnociodd rhywun ar ddrws y castell, ac aeth yr hen frenin i’w agor.

Tywysoges oedd yn sefyll yno. Ond diawl, y golwg a oedd arni, gyda’r glaw a’r tywydd stormus! Llifodd y dwr i lawr o’i gwallt a’i dillad a’i esgidiau, ond dywedodd hi ei bod yn dywysoges wir.

“Wel, fe gawn ni weld am hynny!” meddyliodd yr hen frenhines, ond ddywedodd hi ddim byd. Aeth i’r ystafell wely, cododd y dillad gwely, dododd bysen ar y fatras, rhoddodd ddau ddeg matras ar y bysen, ac wedyn dau ddeg cwilt ar y matresi.

A threuliodd y dywysoges y nos yno.

Yn y bore gofynodd pawb oedd hi wedi cysgu’n dda.

“O, yn ddiflas dros ben!” atebodd y dywysoges, “chysgais i ddim winc trwy’r nos! Duw a wyr beth oedd yn y gwely yno! Mi orweddais i ar rywbeth caled, ac mae fy nghorff i gyd yn ddu ac yn las! Roedd yn ofnadwy!”

Gallodd pawb weld ei bod yn dywysoges go iawn, oherwydd ei bod wedi teimlo’r bysen trwy’r ddau ddeg matras a’r ddau ddeg cwilt: neb ond tywysoges wir allai fod mor groendenau.

Priododd y tywysog y dywysoges ar unwaith, achos nawr roedd e wedi dod o hyd i dywysoges go iawn, ac aeth y bysen i’r amgueddfa genedlaethol, ble mae hi o hyd i’w gweld, os dydy neb wedi ei dwyn.

A dyna stori go iawn!


Geirfa

  • tywysoges – princess; tywysog – prince
  • pysen – pea
  • priodi – to marry
  • go iawn – proper
  • gwir – real
  • chwilio – to search
  • rhywbeth o’i le ar… – something wrong with…
  • dychwelyd – to return
  • yn arw – terribly (from garw)
  • taranu – to thunder
  • melltennu – to flash lightening
  • yn fyr – in short
  • yn hollol – entirely
  • dychrynllyd – frightful
  • golwg – sight
  • llifo – to flow
  • treulio – to spend
  • Duw a wyr – God knows
  • gorwedd – to lie
  • teimlo – to feel
  • croendenau – thin-skinned, sensitive
  • dod o hyd i – to find
  • yr amgueddfa genedlaethol – the national museum
  • dwyn – to take, steal

Chair 2010 – Argaffiadau Mewn Tafarn

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg 2010: Cwrs Cymru Deg, Caerdydd, Cymru gan Draenog (Rob Davis)


Argraffiadau Mewn Tafarn

Gwelir llawer o bethau yn y dafarn. Mae pobl yn boddi eu galar. Mae dysgwyr yn gwneud eu gwaith cartre. Mae dynion a menywod yn chwilio am ei gilydd. Mae rhai bobl eraill yn chwilio am eu dewrder nhw ar waelod y botel. Eu nerth, eu hamcan. Eu hedd. Mae pawb wedi cael eu gweld. Ond, bydd pobl yn chwarae gêmau weithiau, hefyd–neu’n edrych ar y gêmau ar y teledu. Maen nhw’n dathlu eu buddugoliaeth. Maen nhw’n gwenu; maen nhw’n neidio o gwmpas. Mae rhai bobl yn y dafarn yn hapus. Mae’r dafarn yn cynnwys llawer o fydoedd.

Sosban fach yn berwi ar y tân,
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,

A’r gath wedi sgrapo Sioni bach.

Clywir llawer o bethau yn y dafarn, hefyd. Mae’r llwncdestunau’n cael eu cynnig. Mae’r caneuon yn cael eu canu. Mae tafarnau’n siarad mewn llawer o ieithoedd. Mae’r peintiau yn llifo, yn llifo – un, ac un arall, ac un arall. Efallai fod y tafarnau mewn gwlad yn celwydda – ond, ymddangosir y rhan fawr ohonyn nhw’n celwydda’n wael. Y gwir sydd yn eu caneuon nhw. Mae pawb yn gallu ei glywed. Mae tafarn yn canu gan lawer o leisiau ond, mae hi’n caru gan ddim ond un galon.

O rwy’n ei charu hi, o rwy’n ei charu hi

Yr eneth ar lan y môr.

O rwy’n ei charu hi, o rwy’n ei charu hi

Yr eneth ar lan y môr.

Gadawodd fy hynafiaid o Gymru i ffeindio gwaith – i ffeindi eu dechreuad newydd nhw. Ond, collon nhw lawer o bethau eraill. Dw i’n dysgu iaith y nefoedd nawr, yn gobeithio i adfer y pethau ar goll. Mae Cymru’n gobeithio am adferiad, hefyd – yn gobeithio, ac yn gweithio. Gobaith a gwaith gyda’i gilydd: Gan enw arall, ffydd.

Calon lân yn llawn daioni

Tecach yw na’r lili dlos.

Dim ond calon lân all ganu

Canu’r dydd a chanu’r nos.

Es i ar daith i’r Senedd. Teimles i’n gryf iawn yr arddangosodd yr adeilad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru’r ffydd hardda. Mewn gwirionedd, efallai fod llywodraeth yn ein siomi ni. Efallai ei bod hi’n ein bradychu ni. Er hynny, bydd ein ffydd ni’n parhau. Ffydd y dynion da sy’n gwneud cyfiawnder. Dynion cyffredin. Y dynion sy’n canu yn y dafarn.

Arglwydd dyma fi, ar dy alwad di;

Canna’m henaid yn y gwaed

A gaed ar Galfari.

Cymru: Dw i’n ei charu hi ond, nid fy nghartref yw hi. Er hynny, Cymru yw cartref fy hynafiaid, ac felly mae’r cartref yn rhan ohonaf. Fy mod
yng Nghymru unwaith eto-yn gwrando ar gerddoriaeth-yn yfed y peintiau-yn canu, yn chwerthin, yn gwenu-Sut ffeindiaf i’r geiriau i wagio fy nghalon?

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi.

Draenog


Impressions In A Tavern

One sees lots of things in the tavern. People drowning their sorrows. Students doing their homework. Men and women searching for each other. Some people are searching for their courage at the bottom of a bottle. Their strength, their purpose. Their peace. Everyone has seen them. But, people will be playing games sometimes, too – or watching games on television. They celebrate their victory. They’re smiling; they’re jumping around. Some people in the tavern are happy. The tavern contains many worlds.

Sosban fach yn berwi ar y tân,

Sosban fawr yn berwi ar y llawr,

A’r gath wedi sgrapo Sioni bach.

One hears lots of things in the tavern, too. Toasts being offered. Songs being sung. Taverns speak in many languages. The pints are flowing, flowing – one, and another, and another. It may be that the taverns in a country tell lies – but it seems most of them lie badly. The truth is in their songs. Everyone can hear it. A tavern sings with many voices, but it loves with only one heart.

O rwy’n ei charu hi, o rwy’n ei charu hi

Yr eneth ar lan y môr.

O rwy’n ei charu hi, o rwy’n ei charu hi

Yr eneth ar lan y môr.

My ancestors left Wales to find work – to find their new beginning. But, they lost many other things. I’m learning the language of heaven now, hoping to restore the lost things. Wales is hoping for restoration, too – hoping, and working. Hope and work together: By another name, faith.

Calon lân yn llawn daioni

Tecach yw na’r lili dlos.

Dim ond calon lân all ganu

Canu’r dydd a chanu’r nos.

I went on a trip to the Senedd. I felt very strongly that the building of the Welsh National Assembly displayed the most beautiful faith. In reality, it may be that government disappoints us. It may be that it betrays us. Even so, our faith will endure. The faith of good men who do justice. Common men. The men who sing in the tavern.

Arglwydd dyma fi, ar dy alwad di;

Canna’m henaid yn y gwaed

A gaed ar Galfari.

Walles: I love her, but she is not my home. Nevertheless, Wales is the home of my ancestors, and so the home is part of me. My being in Wales again – listening to the music – drinking the pints – singing, laughing, smiling – How will I find the words to empty my heart?

The old land of my fathers is dear to me.

Rob Davis
Cyfieithiad gan / Translation by Rob Davis

Chair 2011 – Gwreiddyn A Chraig

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg 2011: Cwrs Cymraeg Dyffryn Shenandoah gan Mochyn Daear (Robert Davis)


Gwreiddyn A Chraig

“Myfi yw’r winwydden,” a
“Chwithau yw’r canghennau” oedd
y geiriau oddi wrth Grist.
Ond gyda’r winwydden ‘na,
ddim gair o wreiddyn nid oedd.
Ydy gwinwydden yn drist
heb wreiddyn yn angorfa?

Cymharodd Crist ei deyrnas
â had mwstard, sy’n prifio
nes i’r adar bach gyrraedd
a nythu yn ei gadlas.
Ni allaf mo’i ddisgrifio–
Allai coeden heb ‘r un gwreiddyn
fyw a ffynnu yn wyrddlas?

Mi welais goeden fel tŵr,
llwyd ei rhisgl a gwyrdd ei dail,
a brifiodd ar ben clogwyn.
Erydwyd y pridd gan ddŵr,
a chraig oedd ei hunig sail.
Mi welais ei gwreiddiau gwyn
fel bysedd esgyrnog gŵr.

Ymysg crwca ganghennau,
dan gysgod y dail gwanllyd,
mi drigodd yr adar llon
sy’n canu i’r cymylau
yn eu lleisiau tlws ynghyd,
hiraethus eu halawon.
Gwrandawais ar eu chwedlau.

Mi glywais chwedl oesol
o hudoles a’i chariad
at hen swynwr o Gymru.
Trawsffurfiwyd ef yn dreisiol
i goeden ddigymeriad,
am ofnodd hi ei golli.
Ar wreidd’n cysgodd hi’n nosol.

O! Mi wnaeth hi resynu
na allon nhw gyd-orwedd,
a gwingodd hi fel mwydyn.
Roedd dagrau yn defnynnu
i lawr y rhisgl, rhwng bysedd
lle llochodd hi ei choeden,
am byth oddi ar hynny.

Mi gafodd hi ei chladdu
o dan goeden ei chariad
ymhlith y gwreiddiau dyrys,
yn ôl ei dymuniad cu.
“Hawdd cymod lle bo cariad”–
Er gwaetha’ bod yn amwys,
dyma ei beddargraff hi.

Ar ymyl serth, parhaodd
ei choeden am flynedd maith.
Mi ddaeth stormydd, broch fel draig,
a therrwyn wynt, a chrynodd
y goeden tal yn waethwaeth.
Ond, serch hynny, wrth y graig,
y gwreiddiau a ymlynodd.

Pa beth mwy cryf na’r gwreiddyn hwn
mor gryf â gwreiddiau o faen,
fel gwreiddiau y mynyddoedd?
Pa beth mwy diball na’r crwn
graig, sy’n dioddef heb straen
yng nghraff y gwreidd’n am hydoedd,
sad yn wastad, byth yn dwn?

Mae’r ystyr yn anhydraeth–
Beth alwn gyfryw ‘mrwymiad–
gyda’i gilydd, craig a gwreiddyn?
Beth yw’r enw i’w weddu?
Mi alwn gyfryw gariad
gan yr enw hwn: Hiraeth.

Robert Davis


Root and Rock

“I am the vine,” and
“You are the branches” were
the words from Christ.
But with that vine,
there was no word of a root.
Is it sorrow to a vine,
lacking a root to anchor it?

Christ compared his kingdom
to a mustard seed, which grows
until the little birds arrive
and nest within it.
I can’t describe it–
Could a tree without a single root
live and thrive verdantly?

I saw a tree like a tower,
with gray bark and green leaves,
growing at the top of a cliff.
The earth had been eroded by water,
and a rock was its only foundation.
I saw its white roots
Like a man’s bony fingers.

Amidst crooked branches,
under the shade of the delicate leaves,
dwelt the merry birds
who sing to the clouds
together in their pretty voices,
their melodies full of longing.
I listened to their tales.

I heard an ancient tale
of an enchantress and her love
for an old magician of Wales.
He was transformed violently
into an unremarkable tree,
for she feared to lose him.
She slept nightly on a root.

O! how she did regret
that they could not lie together,
and she winced like a worm.
Tears were dribbling
down the bark, between fingers
where she caressed her tree,
and ever after.

She was buried
under the tree of her love
amongst the gnarled roots,
according to her dear desire.
“Reconciliation is easy where there is love”–
Despite being so ambiguous,
This is her epitaph.

On a steep edge,
her tree endured for long years.
Storms came, angry like a dragon,
and a fierce wind, and
the tall tree shook worse than ever.
But, even so,
the roots clung to the rock.

What is stronger than this root,
as strong as roots of stone,
like the roots of the mountains?
What is more unfailing than the round
rock, which suffers without strain
for ages in the grasp of the root,
always solid, never broken?

The meaning is difficult to express—
The foolishness of coveting?
What do we call such commitment—
together, rock and root?
What is the name to suit it?
We call such love
By this name: Hiraeth.

Rob Davis
Cyfieithiad gan / Translation by Rob Davis