Readings In Welsh – Llofruddiaeth Yn Y Manordy

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Dyma stori fer am y detecif byd enwog Herciwl Pwaro. Cafodd y stori hon ei hysgrifennu yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta’n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Llofruddiaeth Yn Y Manordy

Wrth lwc roedd Hercule Poirot, y ditectif Belgaid enwog, yn aros yng Ngogledd Cymru pan ddigwyddodd y trasiedi yno. Onibai am hyn, basai’r dirgelwch hwn yn dal heb ei esbonio hyd heddiw.

Ond gadewch if fynd yn ol i’r dechrau…

Bu rhaid i Monsieur Poirot adael ei fflat yng nghanol Llundain pan benderfynodd awdurdodau y ddinas ail-balmantu ei stryd. Roedd sŵn y peiriannau dan ei ffenestri yn ofnadwy, a’r llwch yn dod i mewn ac yn setlo ym mhobman. Dyn twt a thaclus ydy M. Poirot, fel mae pawb yn gwybod, ac yn casáu anrhefn a sw+n a llwch yn anad dim. Yn dilyn cyngor ei ffrind Colonel Hastings, felly, aeth M. Poirot i Gymru, i dreulio pythefnos yn yr awyr iach, ymhell o sŵn a mwg y ddinas fawr. Cyn hir roedd Poirot ymysg y mynyddoedd Cymreig, yn aros mewn Gwely a Brecwast mewn pentref gwledig yng nghysgod yr Wyddfa.

Er ei fod yn ddyn dinesig o’i gorun i’w sawdl, llwyddodd M. Poirot i fwynhau ei drigiad yn y pentref. Y diwrnod cyntaf, aeth i mewn i’r siopau, ymweld â’r hen gapel, ac edmygu’r maenordy gwych o’r ddeunawfed ganrif; yn fyr, gwelodd Poirot y golygefeydd i gyd. A’r dyddiau dilynol, beth a wnaeth? Mynd am dro yn y mynyddoedd, cerdded allan yn y cefn gwlad, edrych ar y ffermwyr yn hel eu defaid gyda chymorth eu cwn defaid du a gwyn. Byddai Poirot yn mynd allan bob dydd gyda’i het a’i ymbarel i grwydro rhyw lwybr mynyddig, gan gymryd gofal i ddod adre mewn pryd i gael te, a bob tro yn sychu ei esgidiau’n ofalus, rhag ofn iddo fe fod wedi sefyll yn rhywbeth cas roedd rhyw ddafad wedi’i osod ar y llwybr.

Un prynhawn tua diwedd ei drigiad yn y pentref, tra roedd M. Poirot yn cael te a bisgedi yn y Gwely a Brecwast, rhuthrodd y bwtler o’r maenordy i mewn. Roedd e wedi rhedeg o ben draw’r pentref i ofyn i M. Poirot ddod i’r maenordy ar unwaith: roedd rhywun wedi cael ei ladd!

Cydiodd M. Poirot yn ei het a’i ymbarel a brysio allan o’r tŷ, yn dilyn y bwtler trwy’r pentref i’r maenordy, lle trigodd yr Arglwyddes Prydderch-Jones are ei phen ei hen (gyda’i bwtler a’i chogyddes, hynny yw). Ar y ffordd, adroddodd y bwtler y hanes i M. Poirot: bachgen deg oed, mab y gogyddes, oedd wedi cael ei ladd. Roedd y gogyddes wedi dod o hyd i’w mab yn gorwedd ar lawr y gegin, yn farw. Nid oedd hithau na’r bwtler wedi gweld neu glywed dim byd o’i le ar y pryd.

Pan gyrhaeddodd M. Poirot, roedd yr heddlu wedi dod a mynd yn barod, ar ôl chwilio am gliwiau a gofyn cwestiynnau o bob math, ond yn ofer – ymadawodd y plismyn heb ddod o hyd i’r un prawf i ddangos pwy oedd wedi llofruddio’r bachgen.

Dechreuodd M. Poirot holi’r gogyddes; beichiodd hithau wylo a gallodd o’r braidd siarad. “Pardon, Madame,” meddai M. Poirot, “Rydw i’n deall bod hyn yn anodd iawn i chi, ond mae rhaid i fi ofyn ychydig o gwestiynau, ac mae’n angenrheidiol i chi ateb mor fanwl ‚ phosib. Yn gyntaf, Madame, ble roedd eich mab pan ddaethoch chi o hyd iddo fe?”

“Roedd e’n gorwedd ar y llawr, wrth y bwrdd, a chyllell yn ei gefn,” egurodd y gogyddes, gan sychu ei dagrau.

“Mae’n debyg na welodd e ddim o’r llofrudd, felly,” meddai M. Poirot. “Fasai fe wedi ei glywed, tybed?”

“O na fasai,” atebodd y gogyddes yn bendant. “Dwi’n siwr na chlywodd e ddim byd? Roedd e’n bwyta cawl ar y pryd, ac yn llyncu’n swnllyd, fel arfer. Byddai fy meistres, yr Arglwyddes Prydderch-Jones, yn dweud y drefn wrth y bachgen truan o hyd ac o hyd am iddo wneud cymaint o sw+n wrth fwyta.”

“Aha!” criodd Monsieur Poirot. “Rydw i wedi darganfod y llofrudd! Ffoniwch yr heddlu, a dywedwch iddyn nhw restio yr Arglwyddes Prydderch-Jones ar unwaith!”

Ar ôl i’r plismyn fynd â’r foneddiges ddiedifar i orsaf yr heddlu, cerddodd M. Poirot yn feddylgar yn ôl i’w Wely a Brecwast. “Gobeithio na chaiff yr Arglwyddes Prydderch-Jones ddyfarniad llym,” meddyliodd Poirot. “Nid arni hi oedd y bai, wedi’r cwbl. Mae’n hollol warthus i rywun lyncu ei gawl yn swnllyd fel ‘na o hyd ac o hyd. Dim rhyfedd i’r arglwyddes gracio dan y straen!”


Geirfa

  • llofruddiaeth (masc.) – murder (also, llofruddio – to murder, and llofrudd, m – murderer)
  • Maenordy (m) – manor house
  • ymddiheuriad (m) – apology
  • dirgelwch (m) – mystery
  • dal heb ei esbonio – to remain unexplained
  • awdurdod (m) – authority
  • dinas (fem.) city (also, dinesig – urban)
  • ail-balmantu – to re-pave
  • peiriannau – machines (singular: peiriant, m)
  • llwch (m) – dust
  • ym mhobman – everywhere
  • twt a thaclus – neat and tidy
  • casáu – to hate (also, cas – nasty, hateful)
  • anrhefn (f) – disorder (cf. trefn – order)
  • yn anad dim – above all
  • cyngor (m) – advice
  • ymysg – among
  • gwledig – rural (cf. gwlad – coutry; also cefn gwlad – countryside)
  • cysgod (m) – shadow
  • o’i gorun i’w sawdl – from head to foot
  • llwyddo i – to succeed in
  • mwynhau – to enjoy
  • trigiad (m) – a stay (also, trigo – to stay)
  • edmygu – to admire
  • gwych – splendid
  • deunawfed ganrif – 18th century
  • golygfeydd – sights (sing. golygfa, f)
  • hel – to herd
  • cymorth (m) – help
  • crwydro – to wander
  • llwybr (m) – path
  • mewn pryd – in time (also, ar y pryd – at the time)
  • sychu – to dry
  • rhag ofn – in case
  • gosod – to drop or set
  • rhuthro – to rush
  • pen draw – the far end
  • cael ei ladd – to be killed (cf. lladd – to kill)
  • cydio yn – to grab
  • yr Arglwyddes (f) – Lady
  • cogyddes – cook
  • adrodd – to recount
  • marw – dead
  • o’i le – wrong
  • yr heddlu (m) – police (also, gorsaf yr heddlu – police station)
  • pob math – every kind
  • yn ofer – in vain
  • ymadael – to leave
  • yr un prawf – (not) a single proof
  • holi – to interrogate
  • beichio wylo – to sob
  • o’r braidd – scarcely
  • angenrheidiol – necessary
  • mor fanwl â – as precisely as…
  • tebyg – likely
  • tybed – I wonder
  • pendant – emphatic
  • cawl (m) – soup
  • llyncu – to swallow
  • swnllyd – noisy (cf. sŵn, m – sound)
  • fel arfer – as usual
  • dweud y drefn – to scold
  • truan – poor
  • o hyd ac o hyd – again and again
  • bonheddiges (f) – lady, noblewoman
  • diedifar – unrepentant
  • na chaiff – she will not get (from cael)
  • dyfarniad (m) llym – harsh sentence
  • bai (m) – blame
  • wedi’r cwbl – after all
  • gwarthus – disgraceful
  • fel yna – like that
  • dim rhyfedd – no wonder

Chair 2007 – Ymerodraeth Newydd

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg yr Ymerodraeth, Albany, NY, 2007 gan Athrawes Obeithiol (Mary Williams-Norton)


Ymerodraeth Newydd

Mae’r amser wedi dod i ddechrau ymerodraeth newydd i helpu dechrau byd newydd, byd caredig, byd heb ryfeloedd, a byd heb newyn! Mae llawer o bobl o gwmpas y byd yn medru bod yn arwyr yr ymerodraeth newydd ‘ma. Mae gennym ni’r wybodaeth a’r dechnoleg. Mae gennym ni lawer o bobl bendigedig a charedig yn ein byd ni yn barod. Rwan mae rhaid i ni ddefnyddio popeth a phawb sy’n dda yn ein byd ni i wella y byd.

Pwy fydd yr arwyr yn yr ymerodraeth newydd? Pa fath o fenywod a dynion fydd y bobl yn dewis fel ymerawdwyr? ‘Dw i’n cofio dysgu yn yr ysgol am Genghis Khan ac Adolf Hitler yn fy nosbarth hanes, am Julius Caesar yn fy nosbarth Lladin, ac am Napoleon Bonaparte yn fy nosbarth Ffrangeg. Sut bynnag mi ddysgais am Geroge Washington Carver, arwr i lawer o wyddonyddion, a fy mhen fy hun. Mae gennym ni angen arwyr diffuant yn ein byd newydd!

Mae’r amser wedi dod i ddathlu arwyr gwahanol: gwydonnyddion, periannyddion, ffermwyr, nyrsau, meddygon, ac, yn arbennig, athrawon, teuluoedd, a chyfeillion eraill o blant. Bydd ffermwyr yn bwyda’r bobl efo’r cymorth gwyddonyddion sy’n datblygu mathau gwell o gnydau. Bydd periannyddion a gwyddonyddion yn datblygu mathau mwy effeithiol o egni i achlesu’r byd. Bydd nyrsiau a meddygon yn arail y bobl a gweithio efo gwyddonyddion i ymchilio am feddyginiaethau newydd. Teuluoedd ac athrawon fydd yn arbennig o bwysig. Byddan nhw yn helpu pob plentyn i ddeall eu byd a’u dysgu defnyddio eu donau a’u deallgarwch. Pob plentyn fydd yn werthfawr yn yr ymerodraeth newydd, wrth gwrs. Plant fydd y ffermwyr, gwyddonyddion ac athrwon yn y dyfodol. Byddwn ni’n dathlu plant yn ymerodraeth newydd.

Bydd y ymerawdwyr yn wahanol hefyd. Mae rhaid iddyn nhw fod yn ddeallgar iawn, yn oddefgar, a’n arbennig o garedig wrth bawb. Mae rhaid iddyn nhw garu plant a deall gwyddoniaeth, celf, cerddoriaeth, ac diwylliannau o gwmpas y byd. Bydd ganddyn nhw gyflwyniad cwbl i hedd ac i lythrennedd. Byddan nhw yn siarad nifer o ieithoedd, wrth gwrs. Ysgolion cynradd a labordai fydd y cestyll yn ein hymerodraeth newydd!

Ydy yr ymerodraeth newydd ‘ma yn syniad diddichell? Wrth gwrs! Ydy’r syniad yn bosibl? ‘Dw i’n gobeithio! Cofiwch ein bod ni yn dathlu gwyddoniaeth a hedd efo’r Gwobrau Nobel yn barod. Mae gwyddonyddion o lawer o wledydd yn teithio yn aml i gyfarfodydd i rannu eu syniadau.

‘Dyn ni gyd yn adnabod llawer o athrawon bendigedig yn y byd yn barod hefyd. Er enghraifft, mae Liz yn Oakfield yn gwybod am bob aderyn, pysgod a nadroedd yn ei hardal hi. Mae hi’n eu rhannu efo’r plant ac mae’r plant yn dysgu caru anifeiliaid hefyd. Mae Menai yn Henllan yn teithio o gwmpas y byd i ddysgu am ieithoedd a diwylliannau i rannu efo ei disgyblion. Mae Don yn DePere ac Iwan yn Llandudno yn gweithio efo disgyblion efo llawer o anawsterau addysgol a chorfforol. Mae Iwan a Don yn garedig a’n amyneddgar iawn ac mae eu disgyblion yn mwynhau dysgu a pharatoi i fyw yn llwyddiannus yn y byd er gwaethaf eu hanawsterau. Anghofiwch am Napoleon a Genghis Khan! Fy arwyr ydy Liz, Menai, Don, ac Iwan. Pwy ydy’ch arwyr chi?

‘Dw i’n credu bod pawb yn medru helpu i fynd â’r ymerodraeth newydd i’r byd. ‘Dw i wedi dechrau bagad sy’n mynd ag hwyl i blant. Mae fy myfyrwyr a fi’n ymweld ag ysgolion cynradd a rhannu gweithgareddau gwyddonol a llyfrau diddorol. Er enghraifft, mae’r plant ac athrawon wrth eu bodd efo "wblech" a’r llyfr enwog amdano fo gan Dr. Seuss.

Hoffech chi fyw yn ymerodraeth newydd? Beth ‘dych chi’n ei wneud rŵan i newid y byd?

Athrawes Obeithiol


A New Empire

The time has come to begin a new empire to help begin a new world, a kind world, a world without wars, a world without starvation! Lots of people around the world can be heroes in this new empire. We have the knowledge and technology. We have lots of wonderful and caring people in our world already. Now we must use everything and everyone that is good in our world to improve the world.

Who will be the heroes in the new empire? What kind of women and men will the people choose as emperors? I remember learning in school about Genghis Khan and Adolf Hitler in my history class, about Julius Caesar in my Latin class, and about Napoleon Bonaparte in my French class. However I learned about George Washington Carver, hero to lots of scientists, on my own. We need genuine heroes in our new world!

The time has come to celebrate different heroes: scientists, engineers, farmers, nurses, physicians, and, especially, teachers, families, and other friends of children. Farmers will feed the people with the help of scientist who are developing better types of crops. Engineers and scientists are developing more efficient types of energy to protect the world. Nurses and physicians will care for people and work with scientists to search for new treatments. Families and teachers will be especially important. They will help all children understand the world and develop their talents and intelligence. Each child will be valuable in the new empire, of course. Children will be the farmers, scientists, and teachers of the future. We will celebrate children in a new empire.

The new emperors will be different also. They must be very intelligent, tolerant, and especially kind to everyone. They must love children and understand science, art, music, and cultures around the world. They will be absolutely devoted to peace and literacy. They will speak several languages, of course. Primary schools and laboratories will be the castles of our new empire!

Is this new empire a naïve idea? Of course! Is the idea possible? I hope so! Remember that we celebrate science and peace with the Nobel Prizes already. Scientists from many countries often travel to meetings to share their ideas. We all know lots of wonderful teachers in the world already. For example, Liz in Oakfield knows about all the birds, fish, and snakes in her area. She shares them with the children and the children learn to love animals also. Menai in Henllan travels around the world to learn about languages and cultures to share with her pupils. Don in De Pere and Iwan in Llandudno work with children with many learning and physical difficulties. Iwan and Don are very caring and patient and their students enjoy learning and preparing to live successfully in the world despite their difficulties. Forget Napoleon and Genghis Khan! My heroes are Liz, Menai, Don, and Iwan. Who are your heroes?

I believe that everyone can help bring a new empire to the world. I have begun a group that brings fun to children. My students and I visit primary schools to share interesting science activities and books. For example, the children and teachers are in their element with "oobleck" and the famous book about it by Dr. Seuss.

Would you like to live in a new empire? What are you doing now to change the world?

Mary Williams-Norton
Cyfieithiad gan / Translation by Mary Williams-Norton

Chair 2006 – Hunaniaeth Genedlaethol a’r Llwybr Canol

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg y Cwm Canol, Stockton, CA, 2006 gan Helygen Haearn (Janis Cortese)


Hunaniaeth Genedlaethol a’r Llwybr Canol

Dw i’n byw mewn gwlad chwildroadol, a mae hwn yn dylanwadu’n hunaniaeth ni mewn moddai amrywiol ac anrhagweladwy. Mae fy ngwlad yn ei disgrifio ei hunan yn ideolegol yn flaenaf. Mae ei henw hi, hyd yn oed, yn ein disgrifio fel llwyodraeth: Yr Unol Daleithiau. Mae’n llwyodraeth ni’n diffinio’n hunaniaeth. Yn ôl Americanwyr, mae’n byd ni – mae’n hanes ni – yn cychwyn ym 1776 yn ogystal â ni. Cyn y Rhyfel Chwildroadol, doedd dim "hunaniaeth Americanaidd." Roedd dim ond 13 gwlad wahanol, 13 cenedl, 13 hunaniaeth. Pan wnaeth ein llywodraeth ni gychwyn, wnaethon ni gychwyn. Y peth gorau am yr hunaniaeth Americanaidd ydy bod hi’n croesawu unrhywun. Er mwyn bod Americanwr, mae rhaid i chi gredu dim ond bod y llywodraeth Americanaidd yn gweithio. Dim mwy na ffydd cenedlaethol. Medrai unrhywun ymuno.

Mae’n gywir bod ein hunaniaeth lywodraethol ni’n croesawu, ond falle dydy hi ddim yn parhau. Does gan y llywodraethau democrataidd ddim llawer o hirhoedledd. Aeth dim ond tri chan mlynedd rhwng y weriniaeth Rhufeinig a genedigaeth yr Ymerodraeth sydd wedi ymgorffor’r wlad Frythoneg. Mae gan lywodraethau democrataidd fywydau byrion. A mae gwledydd eraill yn y byd yn gwybod hyn.

Mae’r "hen fyd" wedi gweld sawl llywodraeth yn dod a mynd. Brenhinoedd, tywysogion, gwrthryfelwyr a chwildrowyr, dros yr oesoedd, drwy hanes. Dim ond yn y byd newydd medrai pobol eu diffinio eu hunain drwy eu llywodraeth. Dim ond yn y byd newydd – byd ifanc – medrai pobol gredu bod llywodraethau’n parhau. A mae democratiaethau wedi bod yn hynod o ddiflanedig drwy hanes y byd. Yn yr hen fyd, mae pobol sy’n eu diffinio eu hunain yn sgîl eu llywodraeth yn bobol sy mewn peryg o ddiflannu pan mae eu gwlad nhw’n diflannu.

Achos bod llywodraethau’n dod a mynd, mae rhai gwledydd yn eu diffinio eu hunain drwy eu pobol, eu hil. Os ydych chi’n poeni am sefydlogrwydd, dewisiad rhesymol ydy o. Yn ôl y dewisiad yma, cenedl ydy teulu yn hanfodol – sefydlog a pharhaol. Ond mae problem gyda’r modd yma o greu hunaniaeth: mae’n anodd iawn anturio i mewn, os ydych chi’n dod o fan – o deulu – arall. Mae’r hunaniaeth hiliol yn sefydlog, ond dydy hi ddim yn croesawu pobol newydd yn hawdd. (Hefyd, os ydy’r cenedl yn diflannu, mae’r diflaniad mor barhaol ag oedd y genedl yn sefydlog yn wreiddiol.)

Wnes i feddwl am hyn i gyd pan wnes i weld rheolau’r cystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, pan wnes i ymweld â Chymru er mwyn mynd i’r Eisteddfod yn Eryri a’r Cyffiniau.

Yn y rheolau, wnes i ddarganfod diffiniaid amrywiol o Gymro: Cymro: Unrhyw berson a aned yng Nghymru neu y ganed yn o’i rieni yng Nghymru, neu unrhyw berson a fu’n byw yng Nghymru am dair blynedd yn union cyn yr ŵyl, neu unrhyw berson sy’n siarad neu’n ysgrifennu Cymraeg.

Nid llywodraeth na hil ydy cenedl. Iaith ydy cenedl.

Llywodraeth? Mae’r Cymry wedi gweld brenhinoedd, tywysogion, milwyr Rhufeinig, ac arglwyddi’r Mers. Mae arweinyddion yn dod a mynd fel y tywydd – heulog, neu gymylog, neu fwrw glaw neu eira. Yr unig peth ydych chi’n gwybod yn bendant ydy nad ydy’r arweinyddion yn aros am gyfnod hir. Mae’r Cymry gwybod yn well na defnyddio eu llywodraeth nhw ar gyfer creu hunaniaeth.

Yn lle hil na llywodraeth, maen nhw’n defnyddio’r iaith, iaith felys a chwerw, fel llond cog o ruddemau, llond ceg o win coch tywyll. Iaith y maen nhw eisiau dysgu i’r holl fyd. Mae’r hunaniaeth yma yn croesawu pobol eraill yn hawdd, gyda chân a llaw agored (a thipyn o gwrw!).

Dydy llywodraethau ddim yn parhau. Dydy hil ddim yn croesawu. Mae’r iaith yn gwneud y ddau.

Mae’r iaith yn parhau yn hirach o lawer na’r arlywyddion a’r brenhinoedd. Mae’r iaith yn croesawu unrhywun sy’n ceisio’n galed ei dysgu, unrhywun sy’n buddsoddi’r ymdrech.

Falle, iaith ydy sylfaen yr hunaniaeth orau. Mae hi’n cymysgu’r rhannu gorau o sefydlogrwydd a chroeso. Rhwng y ddau, mae hunaniaeth iaith – hunaniaeth Cymraeg – yn cerdded y llwybr canol.

Helygen Haearn


National Identity and The Middle Path

I live in a revolutionary country, and this influences our self-identity in both varied and unpredictable ways. My country describes itself primarily by ideology. Even our name describes our government: The United States. Our government defines our identity. According to Americans, our world — our history — begins in 1776 in addition to us. Before the Revolutionary war, there was no "American identity." There were only 13 separate countries, 13 nations, 13 identities. When our government began, we began. The best thing about the American self-identity is that it welcomes anyone. In order to be American, you need believe only that the American government works. It’s no more than national faith. Anyone can join.

It’s true that governmental identity welcomes, but perhaps it doesn’t endure. Democratic governments aren’t possessed of a great deal of longevity. Only 300 years passed between the Roman Republic and the birth of the Empire that swallowed the Brythonic nation. Democratic governments have short lives. And other nations know this.

The old world has seen many governments come and go. Kings, princes, rebels and revolutionaries, over the ages, throughout history. Only in the new world could people define themselves via their government. Only in the new world — a young world — could people believe that governments endure. And democracies have been particularly evanescent throughout world history. In the old world, a people who define themselves on the basis of their government are a people in danger of vanishing when their government vanishes.

Because governments come and go, some nations define themselves via their people, their race. If you’re concerned about stability, it’s a reasonable choice. According to this choice, a nation is essentially a family, established and enduring. However, there’s a problem with this method of creating self-identity: it’s very difficult to venture inside if you come from another place — another family. Racial identity is stable, but it doesn’t welcome new people easily. (And, if the nation disappears, the disappearance is as enduring as the nation originally was stable.)

I thought about all this when I saw the rules for competitions in the Eisteddfod last year, when I visited Wales in order to go to the Eisteddfod in Eryri and its surroundings.

In the rules, I found various definitions of "Welsh": any person born in Wales or whose parents were born in Wales, any person who has lived in Wales for three years prior to the Eisteddfod, or any person who speaks or writes Welsh.

Nation equals neither government nor race. Nation equals language.

Government? The Welsh have seen kings, princes, Roman soldiers, and Marcher lords. Leaders come and go like the weather — sunny, cloudy, raining or snowing. The only thing you know clearly is that leaders aren’t around for the long term. The Welsh know better than to use their government to create self-identity.

In place of race or government, they use language, a sweet, bitter language, like a mouthful of rubies, a mouthful of dark, red wine. A language that they want to teach to the whole world. This self-identity welcomes other people easily, with a song and an open hand (and a little bit of beer!).

Governments don’t endure. Race does not welcome. Language does both.

Language lasts longer by far than presidents and kings. Language welcomes anyone who tries hard to study it, anyone who invests the effort.

Maybe, language is the best foundation for self-identity. It mixes the best parts of stability and welcome. Between the two, linguistic self-identity — Welsh identity — walks a middle path.

Janis Cortese
Cyfieithiad gan / Translation by Janis Cortese

Chair 2005 – Synfyrfyrdodau Nain

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg yr Afon Fawr, Rio Grande, 2005 gan Rebecca Redmile


Synfyrfyrdodau Nain

Wrth eistedd yn effro ar dy bwys di’n breuddwydio, ti, faban, gu-wyres anwylaf dy nain, na pheidiaf bendroni pa olwg y bydd ar y byd i’th genhedlaeth i gario ymlaen? Na welai’th ddychymyg ond gwlad ein gwasgariad, y tirlun di-staen fel addewid ein Duw, y gwenith i’w fedi a’r nefoedd dibendraw a geidw’n calonnau’n ddiolchgar am fyw. Trwy ffenestr y caban, ‘deiladwyd, fy maban, gan lafur a chwys ael ‘r ymfudwyr i gyd, gweledig mae glannau gwyrdd ‘r afon a’n cludai, a’n noddi, cymuned o ledled y byd. Mae’r lleuad yn t’wynnu a golau’n melynu symudliw ar ddyfroedd Ohio draw ‘cw, yn llif ddiarwybod drwy feysydd i’w tyddio a gwneuthur Sir Gallia’n doreithiog a gwiw. Fe red ei nant arian drwy’r t’wyllwch ac weithian, fe aeth heibio hen fferm John Tomos fan ‘na, Cyffesaf, fy Lisa, fy ngobaith ydyw i ti briodi yn d’amser, yn ffawd wrth ei fab. Yr eiddo i’n diwydiant ni ffynnant yr ardal, mae ynte’n gyfrifol am lwyddiant y lle, Mae’r ffermwyr a gweithiwyr o Gymru yn cael eu hadnabod yn weithwyr caletaf y dre’. Ond gwaed yr hen wlad sydd yn llenwi’n gwythiennau, a cherddi’r hen wlad a dyrr dant yn ein bron, i ti y cyfrifir a phlant dy genhedlaeth, i gadw’n ddilychwin ‘r etifeddiaeth hon. Buaswn i’n adrodd tra cysgi heb warth am gychwyn cuddiedig y Cymry di-dir, gan bwyll ymgartrefu, a mwythder gwydd dofi, y wlad hon odidog drwy dymhorau hir. Dw i’n cofio ers talwm pan laniodd ein cychod ar hyd yr Ohio mewn gwynt oer a glaw, Braf iawn oedd i’n gweled ni hebddynt hwy drannoeth, a chefngwlad go debyg i Bowys gerllaw. Fy mreuddwyd, ‘ngholomen, i ti yn arbennig, mai merched deallus gall lwyddo yn fawr, Ti’n ddel a reit glyfar i fynd yn go bell, wel, falle i’r coleg, mewn gwlad newydd nawr. Mi gei di dy fagu, delfrydau i’th ddysgu gwynfydau a erys i’r rhai galon bur, mae Nebo a Thyn Rhos yn sefyll fel lampau i dywys dy draed di rhag maglau o ddur. O, cadwed ti’n ddibaid ym mynwes cyd-frodyr, yn saff rhag peryglon rhyfelwyr rhyfedd, a llyfner dy ffordd drwy’r anialdir presennol, a’th lanio’n fuddugol yn harbwr ein hedd.

Chair 2004 – Chwedl Ddau Gymydog

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Ddeilen Goch, 2004 gan Delyth (Sarah Stevenson)


Chwedl Ddau Gymydog

Amser maith yn ôl, cyn clociau a chyn cenhedloedd, roedd y wlad yn lân, a’r nefoedd yn llawn heulwen drwy’r dydd a golau’r sêr gyda’r nos. Crwydrodd anifeiliaid heb ofn bodau dynol. Dyna adeg pan gafodd Morwyn-y-Llyn a Crwt-y-Coed eu geni.

Wrth i Grwt-y-Coed adeiladu tai tegan o ffyn a phren ar lannau’r llyn, roedd Morwyn-y-Llyn yn chwarae dan y dyfroedd dyfnion, yn adeiladu cestyll tywod oedd yn codi eu tyrau i’r heulwen uwchben.

Daeth tro ar fyd. Adeiladodd Crwt-y-Coed dy nad oedd yn degan, ty digon mawr i ddau. Ond dim ond fe oedd yn byw rhwng ei furiau, yn cael ei swper ar ei ben ei hunan bob nos, yn meddwl am ei goedwig annwyl a weithiau am y Forwyn dlos oedd yn byw dan y dŵr.

Nid fe oedd yr unig un i sylwi ar y Forwyn. Un dydd, dechreuodd ymwelwyr cyrraedd lan y llyn, dynion o bedwar ban byd. Ond doedd dim diddordeb gyda Morwyn-y-Llyn ynddyn nhw. Cyn bo hir fe adawon nhw’r tir fel yn y dyddiau cynnar—yn ddistaw ar wahân i’r anifeiliad a’r gwynt.

Bob bore, roedd Crwt-y-Coed yn arfer gweiddi ar Forwyn-y-Llyn gyfarchiad llawen, a bob bore, dywedodd Morwyn-y-Llyn "Bore braf ydy e, yntefe?" wrth iddi hi nofio mewn cylchau araf o gwmpas y llyn. Fe welodd y bachgen bob tro fod y ferch yn brydferth fel y blodau. Ond roedd y Crwt yn swil, a dim ond "bore da" a "noswaith da" ddywedodd e bob dydd.

Un bore daeth dyn tal i weld Morwyn-y-Llyn. Fe aeth e bob dydd i’r llyn a gofyn i’r ferch, "Wnei di fy mhriodi?" Bob tro dywedodd hi ddim byd wrtho. Ar ôl wythnos, gwylltiodd y dyn, a dechreuodd e weiddi a rhegi – nid dyn caredig iawn oedd e. Roedd ofn ar Forwyn-y-Llyn. Pan welodd Crwt-y-Coed hynny, gwylltiodd e hefyd ar ran y Forwyn, a rhedodd e fel cath ar dân i lannau’r llyn.

Gwelodd y dyn tal y bachgen crac ‘ma yn rhedeg tuag ato, gyda ffyn yn ei wallt a dail ar ei ddillad, yn edrych fel rhywun o tu hwnt i’r byd cyffredin, a rhedodd y dyn tal. Ond daeth e o hyd i goedwig yn llawn mieri a changhennau, ac wrth iddo fe ffoi roedd y Crwt a’r Forwyn yn gallu ei glywed yn rhegi eto ac yn melltithio’r coed.

Yn ffodus, doedd dim diddordeb gyda’r Crwt na’r Forwyn mewn melltithion di-rym dyn fel ‘na. Gwenodd y ddau ar ei gilydd, roedd y goedwig a’r llyn yn ddistaw ac yn heddychol unwaith eto. Doedd yr un ohonyn nhw wedi dweud dim byd eto. O’r diwedd, torrwyd y tawelwch gan Crwt-y-Coed.

"Bore da," dywedodd e wrth Forwyn-y-Llyn.

"Bore braf ydy e, yntefe?" atebodd hi. A chydiodd hi ym mraich Crwt-y-Coed am y tro cyntaf.

Y Diwedd … neu’r Dechrau

Delyth


The Story of Two Neighbours

A long time ago, before clocks and before countries, the land was pure, and the skies full of sunshine throughout the day and starlight at night. Animals wandered without fear of human beings. That was the time when the Lake Maiden and the Forest Boy were born.

While the Forest Boy built toy houses of sticks and wood on the shores of the lake, the Lake Maiden played beneath the deep waters, building sand castles that raised their towers to the sunlight overhead.

Things changed. The Forest Boy built a house that wasn’t a toy, a house big enough for two. But only he lived between its walls, having dinner on his own each night, thinking about his beloved forest and sometimes about the lovely Maiden who lived under the water.

He wasn’t the only one to notice the Maiden. One day, visitors began to arrive at the banks of the lake, men from the four corners of the world. But the Lake Maiden had no interest in them. Before long, they left the land as in those early days – silent, apart from the animals and the wind.

Every morning, the Forest Boy used to shout a cheerful greeting to the Lake Maiden, and every morning, the Lake Maiden said "It’s a fine morning, isn’t it?" as she swam in slow circles around the lake. The lad saw, each time, that the girl was as lovely as the flowers. But the Boy was shy, and he said only "good morning" and "good evening" each day.

One morning, a tall man came to see the Lake Maiden. He went to the lake every day and asked the girl, "Will you marry me?" Each time, she said nothing to him. After a week, the man was enraged, and he began to shout and swear – he was not a kind man. The Lake Maiden was frightened. When the Forest Boy saw this, he too was enraged, on behalf of the Maiden, and he ran like the wind (lit. "like a cat on fire") to the lakeshore.

The tall man saw that angry lad running towards him, with sticks in his hair and leaves in his clothing, looking like someone from out of this world, and the tall man ran. But he found the forest full of briars and branches, and as he fled, the Boy and the Maiden could hear him swearing still and cursing the trees.

Fortunately, neither the Boy nor the Maiden had any interest in the powerless curses of a man like that. The two smiled at each other, the forest and the lake quiet and peaceful once again. Neither one had said anything yet. Finally, the silence was broken by the Forest Boy.

"Good morning," he said to the Lake Maiden.

"It’s a fine morning, isn’t it?" she answered. And she took the arm of the Forest Boy for the first time.

The End … or The Beginning

Sarah Stevenson
Cyfieithiad gan / Translation by Sarah Stevenson

Chair 2002 – Y Paith

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog,
Cwrs Cymraeg Ar Y Paith, 2002 gan Canolbarthwr (Cheryl Mitchell)


Y Paith

Daeth Cymru a phobloedd eraill i’r paith yng Ngogledd a De America i sefydlu cymunedau i adeiladu ffermydd, ond mae’r gair paith yn dynodi dau beth gwahanol. Ond mae tebygrwydd hefyd.

Mae’r paith ym Mhatagonia yn sych ac yn wastad fel yr anialwch yng ngorllewin y Taleithiau. Does dim llawer o goed yn y Wladfa; dim ond ger Afon Camwy. Yng nghanolbarth Gogledd America, mae’r paith yn llai gwastad ac yn fwy cyfoethog. Mae mwy o laswellt, coed a bryniau oherwydd yr afonydd.

A dweud y gwir mae’r ddau fath o baith yn eithaf tebyg o ran tir, tywydd, pobl, a hanes. Yn y ddau fath o baith, gwelir awyr fawr, golygfeydd agored a digon o le, i symud trwyddo. Does dim llawer o bobl na thraffig ar y ffyrdd. Mae’r tir agored yn achosi, unigrwydd a chyfle i synfyfyrio.

Yn y ddau fath o baith mae gwyntoedd cryf sy’n chwythu’n feunyddiol. Weithiau mae stormydd enbyd. Yn yr haf mae hi’n boeth iawn ac yn y gaeaf mae hi’n oer iawn. Yn y gwanwyn a hydref mae’n eithaf braf.

Oherwydd y tir a’r tywydd mae rhaid i’r bobl weithio’n galed i dyfu cnydau a sefydlu ffermydd. Yn yr haf mae hi’n anodd cael digon o ddwr. Mae’n bosib i ffermwr fethu ac roedd rhaid i rai symud i ffwrdd. Ond mae anhawster yn magu cryfder a chymeriad personol ac yn dod â phobl at ei gilydd. Datblygodd cymunedau clos un y pentrefi. Mae pawb yn wynebu yr yn anawsterau. Mae’r bobl am gael cyfiawnder a chware teg hefyd.

Yn yr hanes fe ddatblygodd cymeriadau cryf fel Tomi Davies a John Daniel Evans yn y Wladfa a John Brown a John L. Lewis yng nghanolbarth y Taleithiau. Roedd rhaid i bobl ddod yn gryf, yn hyblyg a chreadigol i allu wneud yr anialwch yn ffrwythlon. I gloi, dyw’r bobl ddim yn gyfoethog o ran arian, ond maen nhw’n gyfoethog yn fewnol.

Canolbarthwr


The Prairies / The Pampas

The Welsh and other peoples came to the prairie in North and South America to establish communities to build farms, but the word "paith" denotes two different things. But there are also similarities.

The "paith" ("pampas") in Patagonia is dry and flat as a desert in the Western States. There isn’t a lot of wood in Yr Wladfa; only near the Camwy River. In mid North America, the "paith" ("prairie") is less flat and richer. There are more grass, trees and hills because of the rivers.

To tell the truth, the two types of "paith" are quite similar as to land, weather, people and history. In both types of "paith", great sky, open scenes are seen with plenty of room to move through. There isn’t a lot of people or traffic on the roads. The open land causes loneliness and an opportunity to muse.

In both types of "paith" there are strong winds that blow daily. Sometimes there are huge storms. In the summer, it’s very hot and in the winter, it’s very cold. In the spring and autumn, it’s quite nice.

Because of the land and the weather, people must work hard to grow crops and establish farms. In the summer, it’s difficult to get enough water. It’s possible for a farmer to fail and some had to move away. But the difficulty developed strength and personal character and brought people together. Close communities developed in the villages. Everyone faced the difficulties. The people wanted to have justice and fair play too.

In history there developed strong characters like Tomi Davies and John Daviel Evans in the Wladfa and John Brown and John L. Lewis in the Central States. People had to become strong, flexible and creative to be able to make the desert fruitful. To close, the people aren’t rich as to money, but they are rich inside.

Cheryl Mitchell
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley

Chair 1999 – Y Man Cyfarfod

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Man Cyfarfod, Toronto, 1999 gan Gwiwer (Paul C. Graves)


Y Man Cyfarfod

Oes lle ble mae rhannau ein bywydau ni’n cwrdd â’i gilydd? Yn y byd modern mae popeth yn ddarniog, ac weithiau mae’n anodd gweld y patrwm. Oes lle ble mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cwrdd, ble mae’r galon a’r ymennydd yn gweithio gyda’i gilydd, a ble mae’r ffydd a’r ffeithiau’n cysylltu? Oes, ond mae rhaid i ni gael map i ffeindio’r ffordd i’r lle. Ond, pa fath o fap sy’n ddefnyddiol i ni? Dilynwch y map sy’n byw mewn breuddwydion, y map sy’n cael ei wneud yn eich calon.

Deg mlynedd yn ôl, es i i Gymru am y tro cyntaf, i ddringo Bannau Brycheiniog gyda ffrindiau o Gaerdydd. Pan cyrhaeddon ni ben bryn, roedd yn bosib gweld calon Cymru o gwmpas. Roedd map gyda fi, a fe ddarllenais i’r map i weld enwau’r afonydd, y trefi, a’r bryniau. I fi, roedd y profiad yn od iawn – roedd enwau annealladwy ar y rhan fwya ohonyn nhw, enwau estron – enwau Cymraeg. "Beth ydy hyn," fe ofynnais i, "a be’ ydy ystyr yr enwau?" Doedd dim ateb gan fy ffrindiau – doedd neb yno yn siarad Cymraeg. Ond, ar ôl munud, roedd yr ateb yn glir. Yr enwau oedd hanes y wlad, a fe ddwedon nhw stori am y wlad a’i phobl buodd yno yn y gorffennol. Fe sylweddolais i byddai’n amhosib i ddeall y wlad a’i hanes heb ddeall ystyr yr enwau, a bydd hynny yn amhosib i wneud heb yr iaith Gymraeg. Fe ddechreuais i ar siwnai newydd ar ben y bryn yn y Bannau Brycheiniog, siwrnai heb ddiwedd. Fe ddarganfyddais i fap i’r siwrnai yn yr iaith Gymraeg.

Mae nifer o ffyrdd i’r lle ble mae popeth yn cwrdd, ac mae ffordd gwahanol i bob un ohonon ni. Fe ffeindiais i ffordd yn yr iaith, ac trwy’r iaith, dw i’n cwrdd âphobl newydd o bedwar ban byd; dw i’n darllen llenyddiaeth unigryw yn ei thafod wreiddiol; dw i’n gwrando ar stori sy’n tyfu a byw o flwyddyn i flwyddyn.

Fe ddarganfyddais i le ble mae’r rhannau fy mywyd yn cwrdd, a mae’r allwedd yn yr iaith Gymraeg. Dyna’r man cyfarfod, ar ben y bryn, y lle fe welais i fyd newydd. Y Man Cyfarfod yw’r man yn y galon ble mae’r ysbryd yn byw.

Gwiwer


The Meeting Place

Is there a place where the parts of our lives meet together? In the modern world everything is fragmentary, and sometimes it’s difficult to see the pattern. Is there a place where the past and the future meet, where the heart and the brain work together, and where faith and facts connect? Yes, but we must have a map to find the way to the place. But what kind of map is useful for us? Follow the map that lives in dreams, the map that is made in your heart.

Ten years ago, I went to Wales for the first time, to climb the Brecon Beacons with friends from Cardiff. When we reached the top of a hill, it was possible to see the heart of Wales around us. I had a map, and I read the map to see the names of rivers, towns and hills. To me, the experience was very odd – there were incomprehensible names on the majority of them, foreign names – Welsh names. "What’s this," I asked, "and what is the meaning of the names?" My friends had no answer – no one spoke Welsh. But, after a minute, the answer was clear. The names were the story of the land, and they told a tale about the country and it’s people who had been there in the past. I realised that it would be impossible to understand the country and it’s history without understanding the meaning of the names, and that will be impossible to do without the Welsh language. I started on a new journey on top of the hill in the Brecon Beacons, a journey without end. I discovered a map to the journey in the Welsh language.

There are a number of ways to the place where everything meets, and there is a different way for each one of us. I found a way in the language, and through the language, I meet new people from the four corners of the world; I read unique literature in its original language; I listen to a story that grows and lives from year to year.

I discovered a place where the parts of my life meet, and the key is in the Welsh language. That’s the meeting place, on top of the hill, the place where I saw a new world. The Meeting Place is the place in the heart where the spirit lives.

Paul C. Graves
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley

Chair 1998 – Y Bont

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Bont Aur, 1998 gan Y Saer Maestrolgar (Kevin Rottet)


Y Bont

Ffrindiau mawr oedd John Iwan a fi. Mae llu o atgofion gyda fi o’r oriaua dreulion ni gyda’n gilydd: prynhawnau wedi eu treulio yn Coney Island; ein taith wersyllu yng Ngogledd Maine; y nosweithiau ger lle-tân yn nhy fy mam, yn gwrando ar storïau John am ei ieuenctid yng Nghymru. Ond yr atgof yr wyf yn hoffach o’i ystyried yw dyddiau’r haf pan aem ni i bysgota mewn nant fechan, dawel yn agos i fy mhentref i.

Ein hoff hamdden oedd pysgota. Yr oedden ni’n mynd â’n gwiail a bwcedo bryfed genwair ac eistedd ar bont droed wedi ei gwneud o bren. Yr oedden ni’n eistedd yno am oriau, ein traed yn hongian tair troedfedd uwchben y dwr, ein llinynnau yn plymio dyfnderoedd y nant i ddenu rhyw bysgodyn at ein bachau. Nid oedd llawer o sgwrs rhyngom ni pan oedden ni’n eistedd ar ben y bont, rhag ofn dychryn y psygod, ond rhwng John a fi nid oedd rhaid siarad bob amser. Ond y funud y teimlai un ohonom ni ei linyn yn cael ei siglo gan rhyw bysgoden oedd wedi cael ei ddal, byddai’r awyrgylch yn newid yn gyflym gyda’r cyffro. Rhyw fath o gystadleuaeth oedd rhyngom ni i weld pa un ohonom ni a allai gael y pysgodyn mwyaf.

Bu farw John tair blynedd yn ôl. Yr oedden ni yng Ngogledd talaith New York er mwyn cael gwneud tipyn o daith mewn rhafft ar afon gref sy’n boblogaidd gyda phobl ddewr yn chwilio am anturiaeth. Mae’n galed i mi feddwl yn awr am y daith honno a’m ffolineb ieuanc. Ar ddechrau’r daith yr oedd yr afon yn eithaf tawel, ond wrth i ni hwylio, daeth gwynt a glaw i siglo’n cwch. John oedd y callaf o’r ddau ohonom ni, ond er iddo brotestio, anogais i ni barhau tipyn yn bellach ar yr afon er gwaethaf y storm. Cryfheuodd y tonnau a dymchwelodd y gwyntoedd ein rhafft. Y peth nesaf yr wyf yn ei gofio yw deffro yn saff ar y lan, a John wedi boddi.

Nid oes rhaid canolbwyntio ar fy myrbwylltra yn awr, oddieithr i ddweud bod teimlad fy mod yn euog o ladd fy nghyfaill wedi aros yn gryf ar fy meddwl. A allai’r rhai marw faddau i’r rhai byw eu hurthrwydd?

Gwneuthum sawl peth i geisio anghofio yr a oedd wedi digwydd. Teithiais dros y wlad a threulio wythnosau yng Nghaliffornia ymlith ifainc y traethau. Ymgofrestrais mewn cyrsiau, a graddio gydag anrhydeddau. Cwrddais â merch o’r enw Sally, a sythriais mewn cariad â hi. Prynon ni dy hardd yn New York. Ond nid oedd dim yn llwyddo i wneud i mi ddianc rhag y syniad mai fi oedd yn gyfrifol am farwolaeth ffind fy machgendod.

Un dydd daeth syniad newydd i’m meddwl. Penderfynais fynd i Gymru i ymweld â theulu John a oedd wedi fy ngwahodd sawl gwaith i ddod dros y môr i gael gweld lle cafodd John ei fagu. Gyda thipyn o ansicrwydd y disgynnais o’r awyren, â’m calon yn curo yn galed. Pa fath o dderbyniad a gawn gan y teulu hwn? Yr oeddwn i heb gwrdd â nhw, ond ar ôl holl storïau John yr oedd gen i syniadau eithaf clir a chryf o beth i’w ddisgwyl oddi wrthynt.

Yr oedden nhw yr un mor garedig ag yr oeddwn i’n meddwl. Aethon ni yn ôl i’w ty a oedd yn blas mawr yng Nghogledd Cymru. Ar ôl cinio a sgwrs es i’r gwely mewn ystafell fawr a thwt.

Y prynhawn ar ôl i mi gyrraedd, penderfynais fynd am dro ar diroedd y teulu Iwan er mwyn gweld lle yr oedd fy ffrind wedi treulio ei ieuenctid cynnar. Rhodiais heibio i lawer o goed, i fyny ac i lawer sawl bryn yn meddwl am blentyn bach yn chwarae ar y llethrau hynny.

Cyrhaeddais afonig fechan â phont gerrig drosti. Yr oedd hen onnen enfawr yn sefyll ar y lan ar bwys y bont. Cerddais ar y llwybr caregog, ac aros yng nghanol y bont. Eisteddais arni â’m coesau yn hongian uwchben y dwr yn union fel pan oeddwn i’n fachgen yn pysgota gyda John. Edrychais ar y dwr oer yn rhuthro heibio o dan fy nhraed, yn fas ond yn swnllyd, â physgod bach yn nofio, yr haul yn taro’u cefnau ariannaidd. Ddygodd fy nghof fi yn ôl i’m bachgendod, a gadewais i’m cofion ailadrodd swn ein lleisiau ifainc yn chwerthin ar ôl i un ohonom ni ddal pysgodyn. A dechreuais fod yn sicr, wrth gofio pethau fy ieuenctid, fod John wedi maddau i mi.

Cerddais yn ôl i ffermdy, wedi fy modloni ac yn ysgafnach gan bod y baich yr oedd arnaf wedi diflannu.

"Beth dych chi’n feddwl am ein fferm ni?" gofynnod Mrs. Iwan i mi pan es i mewn i’r ty.

"O, mae’r goedwig yn ddel iawn," atebais, "a’r afon yn hyfryd gyda’i phont fach. Eisteddes yno am awr jest yn meddwl."

"Pont? Pa bont?" ebe hithau. "S’dim pont ar ein tir ni."

"Beth ydych chi’n olygu? Mi nes i eistedd ar ryw bont fechan ddel wedi’i gwneud allan o gerrig, sy’n mynd dros yr afonig."

"Wel, dw i erioed wedi gweld pont ar ein tir ni. Rhaid eich bod chi ‘di mynd yn bellach nag o’ch chi’n meddwl."

"Rhaid i mi ddeud, dw i’n siwr adawais i mo’ch tir chi."

Ar ôl y sgwrs hwn, yr oeddwn i’n barod i fynd â Mrs. Iwan am dro i ddangos iddi’r bont lle yr oeddwn i wedi treulio awr mor hyfyryd. Wrth i ni gerdded, disgrifiais i’r onnen fawr oedd yn sefyll ar bwys y bont. Pan gyrhaeddon ni’r lle, welon ni’r onnen fawr yr oeddwn i wedi edrych arni yn fanwl. Ond nid oedd pont yn ei hymyl. Dim ond glaswellt oedd yn tyfu lle gwelais y bont yn gynharach.

Ai ryw fath o freuddwyd, ai arwydd o fyd yr ysbrydion oedd yr hyn a ddigwyddodd y prynhawn hwnnw, ni allaf ddweud. Ond dychwelais i’r Taleithiau yn sicrach nag erioed yr oedd popeth yn iawn rhwng fy hen ffrind â fi.

Y Saer Maestrolgar


The Bridge

John Iwan and I were great friends. I have many memories of the time we spent together: afternoons spent at Coney Island; our camping trip in nothern Maine; the evenings by the fireplace in my mother’s house, listening to John’s stories about his youth in Wales. But the memory that I’m most fond of considering is the summer days when we would fish in a quiet, little stream near my village.

Our favourite leisure activity was fishing. We would take our rods and a bucket of worms and sit on a footbridge made of wood. We would sit there for hours, our feet dangling three feet above the water, our lines plumbing the depths of the stream to attract some fish at our hooks. There wasn’t a lot of talk between us when we were sitting on the bridge, for fear of scaring the fish., but between John and I there was no need to talk all the time. But the minute one of us would feel his line being shaken by some fish that had been caught, the atmosphere would quickly change with the excitement. There was a kind of competition between us to see which one of use could catch the biggest fish.

John died three years ago. We were in northern New York State in order to have a bit of trip on a raft on a strong river that’s popular with brave people looking for adventure. It’s hard for me to think now about that trip and my youthful folly. At the start of the trip, the river was rather quite, but as we sailed, wind and rain came to shake our boat. John was the wiser of the two of us, and although he protested, I urged us to continue a bit further on the river despite the storm. The waves became stronger and the wind destroyed our raft. The next think I remember is waking safe on the bank, and John had drowned.

There’s no need to focus on my rashness now, except to say that there is a feeling that I’m guilty of killing my has stayed strongly on my mind. Can the dead forgive the living their stupidity?

I did several things to try to forget what had happened. I travelled across the country and spent weeks in California among the young beach people. I registered for courses, and graduated with honours. I met a girl by the name of Sally, and fell in love with her. We bought a beautiful house in New York. But nothing succeeded in making me escape the idea that I was responsibile for the death of my boyhood friend.

One day, a new idea came to my mind. I decided to go to Wales to visit John’s family who had invited me several times to come over the sea to see where John was raised. I descended from the airplane with a bit of uncertainty, my heart beating hard. What kind of receiption would I have from this family? I hadn’t met them, but from John’s stories, I had quite clear and strong ideas what to expect from them.

They were as kind as I thought. We went back to their house, a large mansion in North Wales. After dinner and a chat, I went to bed in a large, tidy room.

The afternoon after arriving, I decided to go for a walk on the Iwan family lands in order to see where my friend had spent his early youth. I walked past many trees, up and down several hills, thinking about the little child playing on those slopes.

I reached a little stream with a stone bridge across it. There was large, old ash tree standing on the bank near the bridge. I walked on the stone path, and waited in the middle of the bridge. I sat on it with my legs dangling above the water just like when I was a boy fishing with John. I looked at the cold water rushing past below my feet, shallow but noisy, with little fish swimming, the sun striking their silvery backs. My memory took me back to my boyhood days, and I let my memories repeat the sound of our young voices laughing after one of us caught a fish. And I started to be sure, remembering things of my youth, that John had forgiven me.

I walked back to the farmhouse, contented and lighter because the burden that I had felt had disappearred.

"What do you think about our farm?", asked Mrs. Iwan to me when I went into the house.

"Oh, the forest is very pretty," I answered, "and the river’s lovely with it’s little bridge. I sat on it for an hour just thinking."

"Bridge? What bridge?", she said. "There’s no bridge on our land."

"What do you mean? I sat on some pretty little bridge made of stone that goes over the stream."

"Well, I’ve never seen a bridge on our land. You must have gone further than you thought."

"I have to say, I’m sure that I didn’t leave your land."

After this conversation, I was ready to take Mrs. Iwan for a walk to show her the bridge where I’d spend such a lovely hour. As we walked, I described the large ash tree that was standing near the bridge. When we reached the place, I saw the large ash tree that I had looked at closely. Ond there was no bridge near it. Only grass that was growing where I saw the bridge earlier.

Was it some kind of dream, a sign from the world of spirits that happened that afternoon? I can’t say. But I returned to the States more sure than ever that everything was fine between my old friend and me.

Kevin Rottet
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley

Chair 1997 – O Bell

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Iowa, 1997 gan Culhwch (Wayne Harbert)


O Bell

Rwy’n gweld o bell – ond yn glirach serch y pellter –

â llygad craff y cof, yr hen fro bêr,

lle chwaraewn yn llon ymhlith y mochod coed,

hogyn dan binwydd, yn ddeuddeng mlwydd oed,

a lle, gyda’r nos, eisteddwn efo Nain

a syllwn ar ei hwyneb crychog, gwenog, cain

– ei rychau fel map, a mwy na henaint yddyn -,

yn ei chegin glyd hi, wrth fwyta bara ‘menyn.

Ymwelwn â’r lle yn bur anaml wedyn,

a bob tro byddwn innau, ond nid hithau, yn hyn,

a byddai’r dref yn fyw, a byddai’r coed yn llai,

ond digyfnewid oedd y gegin lle eisteddai.

Mil naw wyth wyth bu farw Nain, heb hir ddioddef,

wedi i’r coed gilio o flaen blerdwf y dref.

A’r hogyn? Bellach gallaf ei weld yn well

na chynt, ond O! mae o mor bell!

Culhwch


From Afar

I see from afar – but clearer despite the distance -,

with the observant eyes of memory, the sweet, old valley,

where I’d happily play among the pine cones,

a boy under pines, 12 years old.

And where, at night, I’d sit with Grandma,

and gaze at her elegant, smiling, wrinkled face,

its furrows like a map, more than old age in them,

in her cosy kitchen, while eating bread and butter.

I’d visit the place fairly infrequently after that,

and each time I would be, but not her, older,

and the town would be bigger, and the woods smaller,

but the kitchen where she’d sit would be unchangeable.

1988, Grandma died, without suffering long,

after the woods retreated before the urban sprawl of the town.

And the boy? Now I can see him better

Than before, but oh, he is so far!

Wayne Harbert
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley

Chair 1996 – Dyddiadur Chwarelwr

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Mynydd Glas, 1996 gan Y Derwydd Medrus (Kevin Rottet)


Dyddiadur Chwarelwr

Darganfuwyd, dydd Iau diwethaf, mewn nenlloft ym Mhoultney, Vermont, ychydig o dudalennau a oedd yn rhan o ddyddiadur chwarelwr Cymraeg o’r ganrif ddiwethaf. Dydy perchennog y ty lle yr oedd y tudalennau ddim wedi gallu dod o hyd i weddill y llyfr. Dyma’r rhan sydd yn ddarllenadwy:

Mis Awst y chweched, 1872: Glaniodd fy llong yn y Byd Newydd y bore ‘ma ar ôl taith galed ar y môr stormus a pheryglus. Nid oeddwn i’n gallu rhwystro fy hunan rhag meddwl mai arwydd o’r nefoedd oedd y cymylau duon hynny, a’r tonnau ewynnog a oedd yn siglo ein llong. Er hynny, o’r diwedd, rhoddon ni ein traed ar y tir, a gweld America am y tro cyntaf.

Yr wythnos ddiwethaf cafodd fy enw ei ddileu o restr y cleifion, er bod tipyn o beswch arnaf o hyd. Ysgrifennaf fwy pan byddaf yn teimlo’n well.

Awst yr wythfed: Ar ôl y daith hir mewn cerbyd, cyrhaeddais i neithiwr bentref bach o’r enw Poultney, lle mae fy mrawd Siôn yn byw ers dau fis a hanner. Basai’n anodd iawn disgrifio’r llawenydd a brofon ni wrth ni wrth ail-weld ein gilydd. Des i o hyd iddo ar ôl iddo orffen diwrnod hir o waith yn y chwarel. Nid anghofiaf byth yr ennyd y gwelodd ef fi yn dod tuagato, â’r mynegiant ar ei wyneb budr a blinedig yn troi yn llawen.

Byddaf i’n cysgu heno, fel neithiwr, mewn ystafell gyda deg chwarelwr arall; ond cysgaf i’n dda oherwydd bydd y llawr yn llonydd, heb ymchwydd y môr.

Awst y degfed: Yr wyf wedi clywed bod amryw o leoedd yma yn America lle mae pobl yn mwyngloddio’r llechen, ond yr wyf yn credu bod Poultney yn un o’r harddaf. Wrth edrych ar y mynyddoedd sydd yn sefyll yn fawreddog o gwmpas y pentref, mae fy meddyliau’n troi at Ogledd Cymru sydd mor bell i ffwrdd, ac at wyrddni cymoedd fy ieuenctid.

Dechreuais i weithio yn y chwarel bore ddoe, gwaith yr wyf yn ei nabod eisoes yn iawn. Nad yw llawer yn wahanol i fy nghwaith yng Nghymru. Er hynny, mae un peth sydd yn bwysig iawn, sef y byddwn ni’n cael ein talu yn deg yma. O leiaf, dyma’r hyn y maent yn ddweud wrthon ni. Arhosaf i ychydig o wythnosau cyn anfon am fy ngwraig a fy mhlant, er mwyn bod yn sicr y bydd y bywyd yma fel maent yn ddweud.

Awst yr unfed ar ddeg: Mae’r gweithwyr i gyd yn Gymry yn y chwarel yma. Cefais fy synnu wrth gerdded i lawr y stryd y dydd o’r blaen. Chywais i ddim ond y Gymraeg. Mae ychydig o’r dynion wedi anfon neges at eu gwragedd yn dweud iddynt ddod i America, felly mae cymuned Cymraeg ei hiaith yn tyfu ac yn ffynnu, ac mae swn melys yr heniaith yn disgyn ar fy nghlust o bron pob ty yn y pentref.

Mae’r cyflenwad o lechen yn ymddangos yn ddiddiwedd yn yr ardal. Welais i erioed gymaint yng Nghymru, ac mae’r pant yn mynd yn dyfnach ac yn dyfnach bob dydd. Mae hefyd amryw o liwiau gwahanol, ar hyn o bryd llechen goch, sydd yn brydferth iawn ar doeon y tai yn y cymoedd.

Awst y trydydd ar ddeg: Gwisgais fy nillad gwychaf y bore ‘ma a mynd i’r capel gyda fy mrawd. Mae gynnon ni bregethwr Cymraeg yn awr a gyrhaeddodd America ar y llong cyn fy un fi. Dyn dymunol iawn ydyw efe, tanllyd ei ysbryd a bywiog ei lygaid. Siaradodd heddiw am ei weledigaeth o dynged y Cymry yn y cymoedd hyn, ac yr oeddwn i’n meddwl, wrth wrando ar ei eiriau brwdfrydig ac angerddol, mor hyfryd a mor heddychol y fasai fy mywyd yma petai fy nheulu gynnyf.

Y Derwydd Medrus


A Quarryman’s Diary

Discovered, last Thursday night, in an attic in Poultney, Vermont, a few pages that were part of a Welsh quarryman’s diary from the last century. The owner of the house where the pages were hasn’t been able to find the rest of the book. Here is the section that is readable:

August the sixth, 1872: My ship landed in the New World this morning after a hard journey on the stormy, dangerous sea. I wasn’t able to restrain myself from thinking that those black clouds and the foamy waves that shook our ship were a sign from heaven. Despite this, at last, we put our feet on the ground, and saw America for the first time.

Last week my name was removed from the sick list, although I still have a bit of a cough. I’ll write more when I feel better.

August the eight: After a long journey in a carriage, I arrived at a little village called Poultney last night, where my brother Siôn has lived for two and a half months. It would be very difficult to describe the joy we felt when we saw each other again. I found him after he finished a long day of work in the quarry. I’ll never forget the moment that he saw me coming towards him, the expression on his dirty, tired face turning to joy.

I’ll be sleeping tonight, as last night, in a room with ten other quarrymen; but I’ll sleep well because the floor is still, without the sea’s swells.

August the tenth: I have heard that there are a variety of places here in America where people mine slate, but I believe that Poultney is one of the most beautiful. Looking at the mountains that stand majestically about the town, my thoughts turn to North Wales so far away, and to the green valleys of my youth.

I started working in the quarry this morning, work that I already know well. It isn’t a lot different from my work in Wales. Despite this, one thing is very important, we would be paid fairly here. At least, that’s what they tell me. I’ll wait a few weeks before sending for my wife and children, in order to make sure that life here will be as they say.

August the eleventh: All the workers in this pit are Welsh. I was suprised walking down the street the other day. I heard only Welsh. A few of the men have sent messages to their wives telling them to come to America, so a Welsh language community is growing and flourishing, and the sweet sound of the old language falls on my ears from almost every house in the village.

The supply of slate in the area appears endless. I never saw so much in Wales, and the cut is getting deeper and deeper each day. Also, there is a variety of different colours, at the moment red slate, that is very beautiful on the house roofs in the valley.

August the sixteenth: I put on my best clothes this morning and went to chapel with my brother. We have a Welsh preacher now who arrived on the ship before mine. He’s a very pleasant man, fiery spirited and lively eyed. He spoke today of his vision of the fate of the Welsh in these valleys, and I thought, while listening to his enthusiastic, passionate words, how lovely and how peaceful my world would be if I had my family.

Kevin Rottet
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley