Mutations And Their Side Effects

Diana Gehman has attended a countless number of Cymdeithas Madog Welsh courses over the years, and thus is very familiar with the dangers of mutations. Therefore, heed her warning!


Mutations And Their Side Effects

Mutations are one of the terrors of learning Welsh. Many of us have dealt with them for a number of years. Those of you who are beginning to study Welsh may have only touched lightly on the subject of mutations. What the teachers don’t want you to know is that you are opening Pandora’s box. So, just wait until next year when the box opens wider and the meanings of soft, nasal, and aspirate will no longer be associated with complications accompanying pneumonia and influenza. However, when one gets into the real meat of mutations, one may find a preference for pneumonia or influenza.

The good news is there are only nine letters ever involved in a mutation. These letters are: p, t, c, b, d, g, m, ll, rh. Another surprise! Some double consonants are considered one letter in Welsh. So, who said it’d be easy? Besides, think of the added challenge of filling in a Welsh crossword puzzle. Yes, it does bring a few cross words to mind. Well, back to those nine all-important letters. Here’s a mnemonic device to help you remember them (courtesy of Lucinda Myers). "Put That Cow Back Down, Goober. Memorize LLama RHapsodies." It is important to remember these famous nine in order. It’ll make things easier (yeah, right…) later on.

The first mutation is the soft mutation. Any word beginning with any of the nine aforementioned letters qualifies for the soft mutation. Of course, whether or not the soft mutation is used or not depends on certain rules, which will be discussed later. Applicationof the soft mutation will change the above-mentioned nine letters to: b, d, g, f, dd, – , f, l, r. Now, so far I have no mnemonic device for these letters in English, German, French, Spanish, or Russian as I can find no words beginning with dd or " – ". I’m sure one could be made in Welsh, but I’ve spent too much energy on mutations already. The thing I find beyond comprehension is, if a p mutates to a b, and a b mutates to an f, then why doesn’t a p just mutate straight through to an f? The same could be said for t to d to dd and c to g to " – ". And why do both b and m mutate to an f ? The only relation I can see between a b and an m is that in the upper case, a b looks like an m on its side. Life must have been very boring early on to have nothing better to do than sit around the fire and think up mutations.

The second mutation is the nasal mutation. It is aptly named, as will soon be seen. It involves only the first six letters of the nine. The changes are: mh, nh, ngh, m, n, ng. How in Heaven’s name does one pronounce these? Well, remember that last attack of hayfever — that sound that’s made when trying to stifle a sneeze or clear clogged nasal passages? That’s just about how these are pronounced. See what I mean? Aptly named.

The third, and thank goodness, final mutation is the aspirate mutation. It also earns its name. Only the first three letters of the nine are used. The changes are: ph, th, ch. The first two are pronounced the same as in English. It’s the last one that causes problems for some. Remember that last bout with the flu when the doctor gave that prescription for cough syrup with codeine to help clear the lungs? The sound that’s made trying to accomplish the task of clearing one’s lungs is the sound needed here.

The basic rule that I use is, "When in doubt, mutate!" There are set rules for mutations, but it’ll take a lifetime and a half to get them all down. Here are a few basics.


  1. All feminine singular nouns take a soft mutation after the definite article. Does this sound sexist to anyone else? Why does it have to be the feminine singular nouns that cause a problem? And where is the logic when feminine plural nouns don’t mutate under the same condition? And, wrth gwrs, why would there need to be a rule unless there was an exception? Ll and rh don’t mutate here. Perhaps they are lazy.

  2. Connecting yn causes a soft mutation in anything but a verb-noun (does verb-noun sound oxymoronic? Oh, and, wrth gwrs, ll and rh are excepted, again), but yn meaning in causes a nasal mutation. The nasal mutation itself can cause yn to alter its appearance as well. It can change to ym or yng depending on the mutation of what follows it. Perhaps that is called a kickback.

  3. Here is a really terrific rule about inflected verbs in the negative. To make matters worse, two types of mutations need to be considered here. If the inflected verb begins with the first three of the nine, then it takes an aspirate mutation. If it begins with the other six, then it takes a soft mutation.

So far, I haven’t found any rule that requires all three mutations, thank goodness. Their use might depend on such things as, "If it’s Tuesday and raining (quite likely in Wales), Wednesday and snowing, or Friday and sunny." These seem about as reasonable as not.

I have had the joy, too, of finding a place where Welsh strangles itself on its own mutations. The words ban, man, and fan. They are all feminine. Therefore, the first two will mutate after y. They will now become y fan, y fan, and y fan respectively. Did I hear someone whisper, "You can tell what they mean by the context of the sentence?" Sure.

Please be advised that Welsh IS the language of Heaven. I expect God threw mutations into it to weed out the undesirables. After all, who — without a strong faith that she or he could master such nonsense — would continue the venture into the study of Welsh and the mastery of mutations?

Battle Hymn Of Cwrs Cymraeg

Ellis Jones was in the beginner’s class at Cwrs Cymraeg Iowa, 1997, when he penned the following verses (set to the tune “The Battle Hymn of the Republic”) about the experience of learning Welsh. Give it a go.


Battle Hymn Of Cwrs Cymraeg

Verse 1:
Mine eyes have seen the words of Cymru printed on the board
They have been pronounced and spelled and sung with such accord
We’ve learned the way to greet each other with a helping list
of sentences and songs including one in which we kissed!

Refrain:
We have tried to learn Cymraeg here!
We have tried to spell Cymraeg here!
We have tried to do our best here!
But the language still lives on!

Verse 2:
Cefin and Hefina, Paul and Marta, Basil, too
All of these besides our teacher who was tiwtor Sue
Lots of words, mutations, place names, numbers, and the days
Vocabulary soon to help us all in many ways.

Refrain

Verse 3:
Yes, Bore da and Noswaith dda and da bo chi as well
Saying wedi blino and, yes Dw i’n dod o Hell (Michigan)
The messages have sometimes not said what we really meant
But maybe that’s the way they talk in little tiny Gwent

Refrain

Verse 4:
You’ve heard the valiant story of our efforts to excel
To master all the challenges our teachers do us tell.
But we really like their patience over all these many days
It’s Dioch yn fawr! and all the other words of gentle praise.

Refrain



Webmaster’s Note: The teaching staff of Cwrs Cymraeg Iowa 1997 (Cefin Campbell, Hefina Phillips, Paul Birt, Marta Weingartner Diaz, Basil Davies and Sue George) take pride of place in the second verse.

Llofruddiaeth Yn Y Manordy

Dyma stori fer am y detecif byd enwog Herciwl Pwaro. Cafodd y stori hon ei hysgrifennu yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta’n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Llofruddiaeth Yn Y Manordy

Wrth lwc roedd Hercule Poirot, y ditectif Belgaid enwog, yn aros yng Ngogledd Cymru pan ddigwyddodd y trasiedi yno. Onibai am hyn, basai’r dirgelwch hwn yn dal heb ei esbonio hyd heddiw.

Ond gadewch if fynd yn ol i’r dechrau…

Bu rhaid i Monsieur Poirot adael ei fflat yng nghanol Llundain pan benderfynodd awdurdodau y ddinas ail-balmantu ei stryd. Roedd sŵn y peiriannau dan ei ffenestri yn ofnadwy, a’r llwch yn dod i mewn ac yn setlo ym mhobman. Dyn twt a thaclus ydy M. Poirot, fel mae pawb yn gwybod, ac yn casáu anrhefn a sw+n a llwch yn anad dim. Yn dilyn cyngor ei ffrind Colonel Hastings, felly, aeth M. Poirot i Gymru, i dreulio pythefnos yn yr awyr iach, ymhell o sŵn a mwg y ddinas fawr. Cyn hir roedd Poirot ymysg y mynyddoedd Cymreig, yn aros mewn Gwely a Brecwast mewn pentref gwledig yng nghysgod yr Wyddfa.

Er ei fod yn ddyn dinesig o’i gorun i’w sawdl, llwyddodd M. Poirot i fwynhau ei drigiad yn y pentref. Y diwrnod cyntaf, aeth i mewn i’r siopau, ymweld â’r hen gapel, ac edmygu’r maenordy gwych o’r ddeunawfed ganrif; yn fyr, gwelodd Poirot y golygefeydd i gyd. A’r dyddiau dilynol, beth a wnaeth? Mynd am dro yn y mynyddoedd, cerdded allan yn y cefn gwlad, edrych ar y ffermwyr yn hel eu defaid gyda chymorth eu cwn defaid du a gwyn. Byddai Poirot yn mynd allan bob dydd gyda’i het a’i ymbarel i grwydro rhyw lwybr mynyddig, gan gymryd gofal i ddod adre mewn pryd i gael te, a bob tro yn sychu ei esgidiau’n ofalus, rhag ofn iddo fe fod wedi sefyll yn rhywbeth cas roedd rhyw ddafad wedi’i osod ar y llwybr.

Un prynhawn tua diwedd ei drigiad yn y pentref, tra roedd M. Poirot yn cael te a bisgedi yn y Gwely a Brecwast, rhuthrodd y bwtler o’r maenordy i mewn. Roedd e wedi rhedeg o ben draw’r pentref i ofyn i M. Poirot ddod i’r maenordy ar unwaith: roedd rhywun wedi cael ei ladd!

Cydiodd M. Poirot yn ei het a’i ymbarel a brysio allan o’r tŷ, yn dilyn y bwtler trwy’r pentref i’r maenordy, lle trigodd yr Arglwyddes Prydderch-Jones are ei phen ei hen (gyda’i bwtler a’i chogyddes, hynny yw). Ar y ffordd, adroddodd y bwtler y hanes i M. Poirot: bachgen deg oed, mab y gogyddes, oedd wedi cael ei ladd. Roedd y gogyddes wedi dod o hyd i’w mab yn gorwedd ar lawr y gegin, yn farw. Nid oedd hithau na’r bwtler wedi gweld neu glywed dim byd o’i le ar y pryd.

Pan gyrhaeddodd M. Poirot, roedd yr heddlu wedi dod a mynd yn barod, ar ôl chwilio am gliwiau a gofyn cwestiynnau o bob math, ond yn ofer – ymadawodd y plismyn heb ddod o hyd i’r un prawf i ddangos pwy oedd wedi llofruddio’r bachgen.

Dechreuodd M. Poirot holi’r gogyddes; beichiodd hithau wylo a gallodd o’r braidd siarad. “Pardon, Madame,” meddai M. Poirot, “Rydw i’n deall bod hyn yn anodd iawn i chi, ond mae rhaid i fi ofyn ychydig o gwestiynau, ac mae’n angenrheidiol i chi ateb mor fanwl ‚ phosib. Yn gyntaf, Madame, ble roedd eich mab pan ddaethoch chi o hyd iddo fe?”

“Roedd e’n gorwedd ar y llawr, wrth y bwrdd, a chyllell yn ei gefn,” egurodd y gogyddes, gan sychu ei dagrau.

“Mae’n debyg na welodd e ddim o’r llofrudd, felly,” meddai M. Poirot. “Fasai fe wedi ei glywed, tybed?”

“O na fasai,” atebodd y gogyddes yn bendant. “Dwi’n siwr na chlywodd e ddim byd? Roedd e’n bwyta cawl ar y pryd, ac yn llyncu’n swnllyd, fel arfer. Byddai fy meistres, yr Arglwyddes Prydderch-Jones, yn dweud y drefn wrth y bachgen truan o hyd ac o hyd am iddo wneud cymaint o sw+n wrth fwyta.”

“Aha!” criodd Monsieur Poirot. “Rydw i wedi darganfod y llofrudd! Ffoniwch yr heddlu, a dywedwch iddyn nhw restio yr Arglwyddes Prydderch-Jones ar unwaith!”

Ar ôl i’r plismyn fynd â’r foneddiges ddiedifar i orsaf yr heddlu, cerddodd M. Poirot yn feddylgar yn ôl i’w Wely a Brecwast. “Gobeithio na chaiff yr Arglwyddes Prydderch-Jones ddyfarniad llym,” meddyliodd Poirot. “Nid arni hi oedd y bai, wedi’r cwbl. Mae’n hollol warthus i rywun lyncu ei gawl yn swnllyd fel ‘na o hyd ac o hyd. Dim rhyfedd i’r arglwyddes gracio dan y straen!”


Geirfa

  • llofruddiaeth (masc.) – murder (also, llofruddio – to murder, and llofrudd, m – murderer)
  • Maenordy (m) – manor house
  • ymddiheuriad (m) – apology
  • dirgelwch (m) – mystery
  • dal heb ei esbonio – to remain unexplained
  • awdurdod (m) – authority
  • dinas (fem.) city (also, dinesig – urban)
  • ail-balmantu – to re-pave
  • peiriannau – machines (singular: peiriant, m)
  • llwch (m) – dust
  • ym mhobman – everywhere
  • twt a thaclus – neat and tidy
  • casáu – to hate (also, cas – nasty, hateful)
  • anrhefn (f) – disorder (cf. trefn – order)
  • yn anad dim – above all
  • cyngor (m) – advice
  • ymysg – among
  • gwledig – rural (cf. gwlad – coutry; also cefn gwlad – countryside)
  • cysgod (m) – shadow
  • o’i gorun i’w sawdl – from head to foot
  • llwyddo i – to succeed in
  • mwynhau – to enjoy
  • trigiad (m) – a stay (also, trigo – to stay)
  • edmygu – to admire
  • gwych – splendid
  • deunawfed ganrif – 18th century
  • golygfeydd – sights (sing. golygfa, f)
  • hel – to herd
  • cymorth (m) – help
  • crwydro – to wander
  • llwybr (m) – path
  • mewn pryd – in time (also, ar y pryd – at the time)
  • sychu – to dry
  • rhag ofn – in case
  • gosod – to drop or set
  • rhuthro – to rush
  • pen draw – the far end
  • cael ei ladd – to be killed (cf. lladd – to kill)
  • cydio yn – to grab
  • yr Arglwyddes (f) – Lady
  • cogyddes – cook
  • adrodd – to recount
  • marw – dead
  • o’i le – wrong
  • yr heddlu (m) – police (also, gorsaf yr heddlu – police station)
  • pob math – every kind
  • yn ofer – in vain
  • ymadael – to leave
  • yr un prawf – (not) a single proof
  • holi – to interrogate
  • beichio wylo – to sob
  • o’r braidd – scarcely
  • angenrheidiol – necessary
  • mor fanwl â – as precisely as…
  • tebyg – likely
  • tybed – I wonder
  • pendant – emphatic
  • cawl (m) – soup
  • llyncu – to swallow
  • swnllyd – noisy (cf. sŵn, m – sound)
  • fel arfer – as usual
  • dweud y drefn – to scold
  • truan – poor
  • o hyd ac o hyd – again and again
  • bonheddiges (f) – lady, noblewoman
  • diedifar – unrepentant
  • na chaiff – she will not get (from cael)
  • dyfarniad (m) llym – harsh sentence
  • bai (m) – blame
  • wedi’r cwbl – after all
  • gwarthus – disgraceful
  • fel yna – like that
  • dim rhyfedd – no wonder

Y Dywysoges A’r Bysen

Dyma stori enwog Hans Christian Anderson am y tywysoges a’r bysen. Cafodd y stori hon ei chyfieithu gan Marta Weingartner Diaz.


Y Dywysoges A’r Bysen

Roedd unwaith, yn yr hen ddyddiau, dywysog hardd; roedd e eisiau priodi tywysoges, ond roedd rhaid iddi fod yn dywysoges go iawn. Teithiodd y tywysog felly trwy’r byd i gyd, yn chwilio am dywysoges wir, ond heb lwc. Roedd digon o dywysogesau i’w cael yn y byd, wrth gwrs, ond ai tywysogesau go iawn oedden nhw? Doedd y tywysog ddim yn siwr; bob amser roedd rhywbeth o’i le arnyn nhw. Dychwelodd gartref, felly, ac roedd yn drist iawn; roedd e wedi gobeithio’n arw cael tywysoges go iawn.

Un noson roedd y tywydd yn ofnadwy; taranodd a melltennodd, daeth y glaw i lawr mewn bwcedi – yn fyr, roedd yn hollol ddychrynllyd. Yn sydyn cnociodd rhywun ar ddrws y castell, ac aeth yr hen frenin i’w agor.

Tywysoges oedd yn sefyll yno. Ond diawl, y golwg a oedd arni, gyda’r glaw a’r tywydd stormus! Llifodd y dwr i lawr o’i gwallt a’i dillad a’i esgidiau, ond dywedodd hi ei bod yn dywysoges wir.

“Wel, fe gawn ni weld am hynny!” meddyliodd yr hen frenhines, ond ddywedodd hi ddim byd. Aeth i’r ystafell wely, cododd y dillad gwely, dododd bysen ar y fatras, rhoddodd ddau ddeg matras ar y bysen, ac wedyn dau ddeg cwilt ar y matresi.

A threuliodd y dywysoges y nos yno.

Yn y bore gofynodd pawb oedd hi wedi cysgu’n dda.

“O, yn ddiflas dros ben!” atebodd y dywysoges, “chysgais i ddim winc trwy’r nos! Duw a wyr beth oedd yn y gwely yno! Mi orweddais i ar rywbeth caled, ac mae fy nghorff i gyd yn ddu ac yn las! Roedd yn ofnadwy!”

Gallodd pawb weld ei bod yn dywysoges go iawn, oherwydd ei bod wedi teimlo’r bysen trwy’r ddau ddeg matras a’r ddau ddeg cwilt: neb ond tywysoges wir allai fod mor groendenau.

Priododd y tywysog y dywysoges ar unwaith, achos nawr roedd e wedi dod o hyd i dywysoges go iawn, ac aeth y bysen i’r amgueddfa genedlaethol, ble mae hi o hyd i’w gweld, os dydy neb wedi ei dwyn.

A dyna stori go iawn!


Geirfa

  • tywysoges – princess; tywysog – prince
  • pysen – pea
  • priodi – to marry
  • go iawn – proper
  • gwir – real
  • chwilio – to search
  • rhywbeth o’i le ar… – something wrong with…
  • dychwelyd – to return
  • yn arw – terribly (from garw)
  • taranu – to thunder
  • melltennu – to flash lightening
  • yn fyr – in short
  • yn hollol – entirely
  • dychrynllyd – frightful
  • golwg – sight
  • llifo – to flow
  • treulio – to spend
  • Duw a wyr – God knows
  • gorwedd – to lie
  • teimlo – to feel
  • croendenau – thin-skinned, sensitive
  • dod o hyd i – to find
  • yr amgueddfa genedlaethol – the national museum
  • dwyn – to take, steal

Pam Ydw I Yma: Why Indeed?

Mae Cefin Campbell, athro Cymraeg brofiadol o Dde Cymru, wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Pam Ydw I Yma: Why Indeed?

Y mae fy nghysylltiad cyntaf â Chymdeithas Madog yn mynd yn ôl i 1986 pan ces i wahoddiad i ddysgu ar Gwrs Gymraeg Y Bedol Aur yn Nhoronto. Dyna’r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Gogledd America ac yr oedd yn brofiad bythgofiadwy.

Ers hynny yr wyf wedi bod yn ffodus o gael gwahoddiad i fynd yn ôl nifer o weithiau fel athro ac arweinydd cwrs. Y cyrsiau eraill yr wyf wedi bod yn dysgu arnynt yw’r rhai a gafodd eu cynnal yn Cincinnatti (1987), Boston (1988), Atlanta (1995), Indianola (1997) a Berkeley, San Francisco (1998).

Dros y blynyddoedd yr wyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nifer o bobl ddiddorol iawn, llawer yr wyf yn parhau mewn cysylltiad â nhw heddiw. Drwy’r cyfeillgarwch hwn yr wyf wedi dod i adnabod Cymry America yn well – eu hanes ac yn arbennig eu hymdrechion i gynnal eu hunaniaeth fel pobl dros gyfnod o ganrifoedd.

Yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i mi yw’r rhesymau pam y mae cannoedd o bobl o bob rhan o Ogledd America wedi mynychu cyrsiau Cymdeithas Madog yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwerthaf. Y mae rhai o’r rhesymau yn ddigon amlwg – cysylltiad teuluol â Chymru neu’r awydd i astudio’r Gymraeg fel pwnc academaidd, ond mae rhesymau eraill eithaf ‘bizarre’ wedi codi o bryd i’w gilydd. Pwy fasai’n meddwl bod cadw corgi Cymreig yn rheswm dros ddysgu Cymraeg neu bod yn ffan o’r Dywysoges Diana neu Tom Jones? A beth am yr un ddaeth ar gwrs Cymraeg am eu bod yn gwerthu cwrw Felinfoel yn ei ‘liquor store’ lleol. Wel, ble gwell i ddod na chwrs Cymraeg i ddysgu mwy am gwrw Cymru?!

Unig rheswm un wraig o Bennsylvania am ddod ar gwrs oedd gallu dweud ‘Llanfairpwyllgwyngyll etc’ heb anadlu, ac un arall o Wisconsin eisiau dysgu Gweddi’r Arglwydd ar ei chof. Ac yna’r dyn yn Cincinatti a ddaeth yn arbennig i ofyn os oedd un o’r athrawon o Gymru yn adnabod ei Wncwl Wil Thomas oedd yn byw rhywle yn Ne Cymru!

Ond y stori orau oedd yr aelod o Greenpeace a oedd wedi gweld poster yn dweud ‘Save Whales’ a dod ar gwrs i achub Cymru!

Ond heblaw am eithriadau fel hyn y mae’r ymroddiad sydd yn cael ei ddangos gan bobl sydd yn dod ar gyrsiau Cymdeithas Madog wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros y blynyddoedd. Yr wyf yn aml wrth siarad â chymdeithasau neu fudiadau yng Nghymru yn cyfeirio at frwdfrydedd pobl Gogledd America am yr iaith, ei hanes a’i diwylliant, ac yn gobeithio rhyw ddydd y bydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn dangos yr un diddordeb mewn iaith a diwylliant.

Gobeithio y caf gyfle i gadw fy nghysylltiad â Chymdeithas Madog mewn rhyw ffordd neu’i gilydd dros y blynyddoedd nesa.

Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America

Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o’n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Ysgrifennod Heini’r ddarn o farddoniaeth ar ôl Cwrs Cymraeg Atlanta, 1995.


Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America

Sut bydd y ffarwel ola?

A fydd munudyn seremoni?

Wedi oes o wres,

o fyw ar drydan nerfau,

a chyffro cyrff,

a geir un gusan laith

neu anwes glyd,

neu a gaf olwg ohonot o bellter clwyfus?

Ynteu a gerddi i’r lifft i’r seithfed llawr

heb wybod fod y foment fawr ar fod?

(Neu ai i’w osgoi,

i wylo dros ynfydrwydd byw;

neu ai’n ddifater ei?

Er poeni,

ni allaf boeni mwy).

Y pryd hwnnw,

os caf,

fe gaf i ganu’n iach i’r lleill,

rhai’n anwyliaid oes,

codi llaw ar hwn a’r llall,

ysgwyd llaw,

a choflaid.

Yna camaf tua’r limo gwyn,

a ddaeth i’m cludo o’r tir newydd hwn,

i’r hen, hen fyd,

i’r lle y tarddodd amser, celf a llen,

(a’r awch i ladd)

A’r pryd hwnnw,

fel diwedd breuddwyd braf,

fe ddoi i blith y lleill,

ac estyn llaw i mi i’w dal yn dyn

Un olwg olaf wedyn, codi llaw,

a dyna ni,

a minnau nawr,

yng nghlydwch soffa lledr du y limo hir,

yng nghwmni gyrrwr boldew mud,

a bar wrth law,

a teithwyr byd yn bwrw golwg syfdan,

yn cyrchu tua Hartsfield

i gael esgyn fry i’r nen.

Cwrs Cymraeg Poultney, Vermont

Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o’n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma adrodd Heini ar Gwrs Cymraeg Y Mynyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.


Cwrs Cymraeg Y Mynedd Glas – 1966

Mae’r ymfudo mawr i America’n un o benodau mwyaf cyffrous hanes Cymru. Erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf reodd 100,000 o bobl a anwyd yng Nghymru yn byw yn yr Unol Daleithiau, a’u plant a’u hwyrion hefyd. Roedd y cyfnod hwnnw’n un o antur mawr, wrth i weithwyr haearn, dur, copor a glo, chwarelwyr, ffermwyr a gweinidogion, fentro ar longau digon simsan ar draws y môr mawr.

Fe lwyddodd y rhan fwyaf i gael bywoliaeth dda, a phrofi fod y Cymry, ond iddyn nhw gael cyfle, yn gallu llwyddo ym mhob maes o fywyd. Ond eu disgynyddion nhw heddiw sy’n gorfod codi’r darnau a oedd wedi disgyn. Ymhlith y darnau a chwalwyd, gwaetha’r modd, mae’r Gymraeg. Mae’n ysbrydoliaeth fod cymaint o Gymry America heddiw’n ailafael yn yr iaith, ac roedd y Cwrs Cymraeg yn Poultney, Vermont, eleni, yn dyst i’r brwdfrydedd newydd.

Fel y disgwyl, erbyn hyn, cafwyd wythnos o weithgareddau di-baid, gwersi brwd, a nosweithiau hwyliog. Oherwydd bod cymaint wedi dod i’r cwrs – tua wyth deg, roedd rhaid cael pedwar athro o Gymru. Roedd saith dosbarth dysgu, a braf oedd gweld cynifer o ddysgwyr newydd wedi dod. Mae’r cwrs erbyn hyn yn llwyddo i ddenu bobl newydd i ddysgu’r iaith. Gwelwyd hyn yn Atlanta ac yn Poultney.

Beth oedd uchafbwyntiau’r cwrs eleni? Yn sicr, mae’r cwrs yn gyfle i hen gyfeillion gwrdd, ac mae’n rhoi chwistrelliad o Gymreictod i bawb sy’n dod. Mae’n dda cael nerth newydd i’r batri! Trwy’r gweithgareddau anffurfiol – y sgyrsio amser bwyd, y cwmnïa fin nos, mae rhwymyn o gyfeillgarwch yn gafael yn dyn.

Roedd hi’n braf hefyd cwrdd â wynebau newydd. Rhai wedi hedfan yn arbennig o Galiffornia, brenhines prydferthwch wedi dod o Puerto Rico, a nifer o Efrog Newydd. Gobeithio y bydd y rhain i gyd yn gallu dal eu gafael yn eu hiaith newydd.

Profiad gwerthfawr i bawb ar y cwrs oedd darganfod y gwreiddiau Cymraeg yn y rhan hon o’r byd. Roedd gweld y Ddraig Goch yn cyhwfan y tu allan i’r gwesty lleol, gweld enwau Cymraeg ar dai ac ar geir, a darganfod trigolion Cymraeg a disgynyddion y Cymry cynnar yn gyffrous.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru, fe welais ddisgrifiad o ardal chwareli Vermont, a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad yr ardal yn llyfr William D. Davies, America a Gweledigaethau Bywyd (Merthyr Tydfil, 1894). Meddai fe mai’r Cymro cyntaf i agor chwarel yn yr ardal oedd Owen Evans. Yna ceir sôn am Hugh W. Hughes, "brenin y chwarelau".

Diolch i Janice Edwards a’r pwyllgor trefnu, cafwyd cyfle i gael blas ar y gorffennol cyfoethog hwn. Roedd y daith o gwmpas y chwareli a’r capeli Cymraeg, a’r mynwentydd yn arbennig, ac roedd clywed y Gymraeg yn dal ar wefusau rhai o’r trigolion lleol yn wefreiddiol. Fe gofiwn hefyd y gymanfa ganu yn y capel lleol, a Jac yn arwain yn frwd hyd at chwysu.

Tipyn o gamp oedd yfed y dafarn leol yn sych, ond y pleser oedd treulio’r noson honno’n canu alawon Cymru: dyna hefyd y wefr a gafodd y tafarnwr ar y noson ganu swyddogol, pan gafodd ei gyffroi i’r fath raddau nes codi’r ffôn er mwyn i’w wraig gael clywed y canu. Ffilm Hedd Wyn wedyn – ffilm a barodd ias i rai nad oedd yn gyfarwydd â’r hanes. Gallwn ychwanegu hwyl y dawnsio gwerin a’r noson lawen..digon yw dweud i’r wythnos fod yn un fythgofiadwy.

Yn sail i’r cyfan, wrth gwrs, roedd yr awydd i feistroli’r Gymraeg, ac fe wnaed hynny’n effeithiol ac yn ddyfal yn y gwersi cyson bob dydd. Roedd yn bleser gweld sut roedd rhai o’r mynychwyr wedi datblygu ers y cwrs y llynedd, a’r Gymraeg bellach yn dod yn iaith gyfarwydd iddynt.

Ni fydd yr athrawon o Gymru’n anghofio’u hymwelaid. Fe gawson ni flas byr ar Efrog Newydd cyn dod, ond roedd hi’n falm i’r enaid cyrraedd gwlad braf Vermont, a oedd yn atgoffa dyn am Gymru, ac roedd pentref Poultney yn fan dymunol a chyfeillgar.

Yn ddigon diddorol, fe ddes ar draws cyfeiriad at Poultney mewn llyfr a ysgrifennwyd ar America yn 1883 (y llyfr taith cyntaf yn y Gymraeg, tybed? Dros Cyfanfor a Chyfandir, William Davies Evans, Aberystwyth). Meddai’r awdur am Poultney: ".. gwelais un o’r pentrefi glanaf ac iachusaf yr olwg arno. Oddiwrth led mawr ac uniawnder ei heolydd, gwychder ei adeiladau, a threfn tyfiant ei brenau cysgodawl, gallwn dybio ei fod yn lle paradwysaidd yn yr haf."

Wel do, fe gawson ni wythnos baradwysaidd. Blas ar hanes, ar Gymru ac ar y Gymraeg. Diolch i bwyllgor gweithgar Cymdeithas Madog am eu trefniadau trylwyr arferol, a roddodd i’r athrawon ac i’r mynychwyr wythnos wrth fodd pawb.


Geirfa

  • ymfudo – to emigrate
  • cyffrous – exciting
  • cyfnod – period
  • sinsan – rickety
  • disgynnydd – descendant
  • ailafael – reacquire
  • brwdfrydedd – enthusiasm
  • denu – attract
  • chwistrelliad – injection
  • brenhines prydferthwch – beauty queen
  • darganfod – to discover
  • cyhwfan – to wave
  • trigolion – inhabitants
  • datblygiad – development
  • gweledigaeth – vision
  • pwyllgor – committee
  • gorffennol – past
  • mynwent – cemetary
  • chwysu – to sweat
  • camp – feat
  • cyffroi – to excite
  • ychwanegu – to increase
  • bythgofiadwy – unforgettable
  • sail – foundation, base
  • mynychwyr – attendee
  • dymunol – pleasant
  • cyfeillgar – friendly
  • diddorol – interesting
  • tybed – I wonder
  • lled – wide
  • uniawnder – straightness
  • tyfiant – growth
  • cysgodawl – shady
  • trylwyr – thorough
  • arferol – usual

Llythyr O Gymru

Mae Steve Morris wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru, mae o’n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma argraffiadau Steve ar Gwrs Cymraeg Y Mynnyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.


Llythyr O Gymru

Dyma’r tro cyntaf i fi fod yn yr Unol Daleithiau yn fy mywyd! A dyna sioc oedd cyrraedd Efrog Newydd yng ngwres mawr mis Gorffennaf ar ôl hedfan yn syth o Gaerdydd. Sut byddai’r pythefnos nesaf yn America? Pa fath o bobl fyddai ar y cwrs? Oeddwn i wedi paratoi digon o waith iddyn nhw? Wrth lwc, roedd dau o’r tiwtoriaid eraill wedi dysgu ar y Cwrs Cymraeg o’r blaen (Heini ac Emyr yn Atlanta) ac roedd digon o gyngor a help i gael gyda nhw. Truelion ni rai diwrnodau yn yr Afal Mawr cyn teithio ar Amtrak i dalaith hyfryd Vermont a chael ein croesawu gan Mary Ellen Palmer, Meredith Roberts ac eraill yn Green Mountain College, Poultney.

Roedd Vermont mor wahanol i Efrog Newydd ond roedd yn glir i fi yn syth pam oedd cymaint o Gymry wedi synud i’r ardal yn y ganrif ddiwethaf: y llechi, wrth gwrs, ond y wlad brydferth hefyd – y mynyddoedd, y llynnoedd a phopeth sy’n atgoffa rhywun o harddwch Gogledd Cymru. Roeddwn yn teimlo’n gartrefol iawn ymysg y capeli, y baneri a’r enwau Cymraeg yno. Cafwyd croeso twymgalon gan aelodau Cymdeithas Madog ar ôl cyrraedd ond yr un mor wresog oedd croeso trigolion Poultney a’r cylch a’u balchder yn eu gwreiddiau Cymreig.

Bues i’n ffodus iawn – fel tiwtor – gyda’r dosbarth hefyd. 16 o ddysgwyr brwd iawn heb fawr o Gymraeg o gwbl oedd yn gweithio’n galed iawn, iawn trwy’r wythnos. Roedd cysylltiadau Cymreig gyda llawer o’r dosbarth ac eraill yn dysgu oherwydd diddordeb mewn ieithoedd. Mae’n galonogol iawn fod llawer ohonyn nhw yn dal i gysylltu try’r e-bost ac yn dal i ddysgu Cymraeg (gan gwnnwys grwp yn nhalaith Vermont a dyn arall sydd yma yn dysgu yng Nghymru ar hyn o bryd). Gobeithio’n wir y byddan nhw’n dod nôl i gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog yn y dyfodol. Rhaid peidio ag anghofio chwaith y criw bach ffyddlon o ddawnswyr oedd yn dod i’r sesiynau dawnsio gwerin bob prynhawn: roedden nhw’n sêr go iawn!

Erbyn 1997, beth sy’n aros yn y cof? Well pobl yn bennaf – y dysgwyr oedd wedi gweithio mor galed (yn ystod y dydd – a’r nos!!) ac yn rhoi 100% i bopeth. Roedd eu diddordeb di-derfyn a’r awydd i ddysgu cymaint ag oedd yn bosibl am Gymru a’r Gymraeg mewn wythnos yn ysbrydoliaeth. Mae’n wir dweud fod llawer ohonyn nhw yn dal i ysgrifennu a chysylltu ar ôl y cwrs ac wedi dod yn ffrindiau mawr: gobeithio gweld rhai ohonynt yn ystod 1997. Roedd y grefnwyr hefyd – yn enwedig Loretta a Mel – yn hynod o garedig a chymwynasgar: diolch eto iddyn nhw a phawb arall yng Nghymdeithas Madog am y croeso a chymorth parod a gafwyd. Yn olaf, bydd Vermont ei hunan a’i chysylltiadau â Chymru yn aros yn y cof – roedd dod i wybod am y Cymry aeth i’r rhan honno o’r Unol Daleithiau yn ddiddorol dros ben yn enwedig ar ôl cwrdd â William Williams yn Granville oedd yn dal i siarad Cymraeg (ac wedi’i enwi yn yr Unol Daleithiau!). Mae’r rhan hon o America yn rhan o Loegr Newydd fydd yn Gymru am byth.

Y Tri Ffrind

Dyma stori fer am dri ffrind yn edrych am Angau. Mae’r stori yn seiliedig ar hanes o’r bedwaredd ganrif ar ddegau. Cafodd y stori hon ei haddas yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta’n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Y Tri Ffrind

Un diwrnod ym Mis Mai, roedd tri dyn ifanc yn eistedd mewn tafarn, yn chwarae cardiau, yfed gwin, a chwerthin am ben Duw a’r Diawl. Roedd y bywyd gwyllt a dreuliodd y tri yn enwog trwy’r dref. Poenai mamau am eu merched, a dymunai pob tad ddiwedd cynnar i’r tri. Ond beth oedd ymateb y tri? Dim ond chwerthin mwy, a dal i yfed.

Y bore hwn, pan oedd y tri’n agor potel arall o win, clywon nhw swn cloch yn y stryd. Wrth edrych trwy’r ffenestr, gwelon dorf o bobl yn cerdded yn araf ar hyd y stryd dan wylio, a phawb mewn gwisg du. Esboniodd y tafarnwr fod Angau wedi cymryd dyn tlawd o’r ardal, yn gadael ei wraig a’i blant ef heb geiniog goch yn y byd. Aeth y tri ffrind yn ôl at eu gwin.

"Mewn gwirionedd," meddai’r cyntaf, "Angau ydy ein gelyn gwaethaf. Mae e’n aros am bawb, ac yn cymryd pob un. Does neb yn dianc."

"Rwyt ti’n iawn," meddai’r ail ffrind, "Fe hoffwn i yfed, dim ond yfed bore a nos, heb ofni i Angau ddod a rhoi diwedd ar fy hwyl. Ond sut gallaf i fod yn hapus, gan wybod bod Angau’n dal i fyw?"

"Myn Duw!" crïodd y trydydd, "Mae’n hollol wir – Angau ydy ein gelyn gwaethaf! Beth am i ni ladd Angau, a dod yn arwyr mawr? Dewch, frodyr, rhowch i mi eich dwylo amdani: awn i chwilio am Angau, ble bynnag y bo, a’i ddal, a’i ladd. Dewch, yfwn wydryn arall, frodyr, ond y tro yma, yfwn i angau Angau! Ac wedyn, awn allan i ddod o hyd iddo fe!"

Brysiodd y tri’n wyllt allan o’r dref i’r wlad. Ymhen awr cwrddon nhw â hen wr gyda barf wen, yn cerdded yn araf ar hyd y ffordd.

"Duw fyddo gyda chi," meddai’r hen wr yn gyfeillgar.

"Ha ha! Duw gyda ni?" chwarddodd un o’r ffrindiau. "Ond dywedwch, hen wr, pam rydych chi yma ar eich pen eich hun fel yna? Rydych chi mor hen – pam dydych chi ddim wedi marw? Rydw i’n meddwl mai chi ydy Angau, sy’n chwilio am bobl."

"O nage," meddai’r hen wr, "Rydw i mor hen achos dyna ewyllys Duw. Fe hoffwn i farw, ond bob tro i mi ofyn i Angau fy nghymryd, mae e’n dweud, ‘Nage, hen wr, dydy dy amser ddim wedi dod eto.’ Ond wnewch chi adael i mi fynd ymlaen, foneddigion?"

"Na wnawn, fy hen wr," meddai’r ail ffrind, "Allai neb fod mor hen â chi. Nid dyn ydych chi, ond gwas Angau."

"Ha!", crïodd y trydydd, "Ffwl ydych chi, os ydych chi’n feddwl ein bod ni’n eich credu chi. Helpwr Angau ydych chi. Ac fe fyddwn ni’n eich lladd chi, os dydych chi ddim yn dweud wrthon ni ble mae eich meister chi."

"Wel, os ydych chi am ddod o hyd i Angau," atebodd yr hen wr yn araf, "ewch ymlaen ar y ffordd yma, nes i chi weld derwen ar yr ochr dde. Dan y dderwen ‘ma Angau’n byw. Duw fyddo gyda chi."

Rhedodd y tri ffrind nerth eu traed nes cyrraedd y dderwen. Ac oedd, roedd rhywbeth yn gorwedd wrth fôn y goeden, ond nid Angau: saith sach fawr, ac ynddynt drysor werthfawr! Cododd calonnau’r tri ffrind wrth weld darnau arian yn disgleirio yn yr heulwen. Anghofion nhw’n llwyr am Angau, a dechrau rhifo’r darnau arian, gan freuddwydio am y bywyd moethus a di-ofal a’u disgwyliodd.

Trafodon nhw beth i wneud gyda’r drysor. Pe tasen nhw’n ei chario hi’n syth yn ôl i’r dref, byddai pobl yn meddwl eu bod nhw wedi dwyn yr arian, a byddai’r tri yn cael eu crogi fel lladron, yn ddiau. Penderfynon nhw fwrw coelbren: byddai rhaid i’r dyn a gollodd fynd yn ôl i’r dafarn a phrynu bwyd a gwin i ginio, a’r ddau arall yn aros a gwarchod y drysor. Wedyn, yn y nos, byddai’r tri ohonyn nhw’n cario’r drysor yn saff yn ôl i’r dref. Bwrwon goelbren ar unwaith. Collodd y ieuaf, a chychwynodd am y dref.

Prin oedd yr ieuaf wedi ymadael, pan ddechreuodd y ddau arall siarad am y drysor.

"Fe fyddwn ni’n cael mwy o arian os ydyn ni’n rhannu’r drysor yn ddwy ran yn lle tair," meddai’r cyntaf.

"Ond sut mae’n bosib? Mae tri ohonon ni," atebodd ei ffrind.

"Y ffwl dwl! Rydw i’n siarad am rannu’r drysor rhyngot ti a fi. Beth am ladd ein ffrind ni pan ddaw yn ôl? Fel yna, byddwn ni’n dau’n gallu byw mewn moethusrwydd."

Cytunodd y llall, ac arhosodd y ddau i’w ffrind ddod yn ôl.

Ar y ffordd i’r dref, roedd y ieuaf yn meddwl rhywbeth tebyg.

"Pam dylwn i rannu’r arian gyda’r ddau arall? Mae’n well ‘da fi gadw’r holl drysor fy hunan."

Yn y dref prynodd gig, bara a thair potel o win. Yna, aeth i siop apothecari, lle prynodd wenwyn "ar gyfer llygod mawr," fel esboniodd wrth yr apothecari. Ar y ffordd allan o’r dref, rhoddodd y gwenwyn i mewn i ddwy o’r poteli, gan guddio’r drydded botel yn ei boced i’w hunan.

Oes rhaid dweud mwy? Pan gyrhaeddodd yr ieuaf y dderwen, rhedodd un o’i ffrindiau i’w gofleidio wrth i’r llall ei frathu gyda chyllell. Wedyn eisteddodd y ddau ar y llawr i ddathlu’r weithred, a bwyta’r bwyd ac yfed a gwin oedd eu ffrind wedi’u cario o’r dref. Cymerodd pob un botel o’r gwin lle roedd Angau yn aros, i yfed i iechyd y llall ac i’r dyddiau hapus i ddod.

Fore trannoeth, disgleiriodd yr haul ar y dderwen, ar y blodau wrth fôn y goeden, ac ar wynebau llwyd y tri ffrind yn gorwedd yn dawel yn y glaswellt.

Mae Angau, pan rydych chi’n chwilio amdano fe, yn hawdd i’w ffeindio.


Geirfa

  • yn seiliedig ar – based on
  • y bedwaredd ganrif ar ddeg – the fourteenth century
  • diwrnod (masc.) – day
  • chwerthin am ben – to laugh at
  • Y Diawl – the Devil
  • gwyllt – wild
  • enwog – notorious
  • poeni – to worry [poenai – used to worry]
  • dymuno – to wish
  • diwedd (masc.) cynnar – an early end
  • ymateb (fem.) – response, reaction
  • dal i + verb – to continue (to do something)
  • torf (fem.) – crowd
  • wylo – to weap
  • yr Angau (masc.) – Death
  • esbonio – to explain
  • tlawd – poor
  • ardal (fem.) – area
  • ceiniog (fem.) – penny
  • gwirionedd (masc.) – truth [also: mae’n wir – it’s true]
  • gelyn (masc.) – enemy
  • gwaethaf – worst
  • dianc – to escape
  • ofni – to fear
  • hwyl (fem.) – fun
  • Myn Duw – by God
  • yn holloll – entirely [also: holl – entire, whole]
  • lladd – to kill
  • arwyr – heroes [singular: arwr (masc.) – hero]
  • brodyr – brothers
  • chwilio am – to look for
  • ble bynnag y bo – wherever he may be
  • dal – to catch
  • gwydryn (masc.) – glass
  • y tro yma – this time [also: bob tro – every time]
  • dod o hyd i – to find [also: am ddod o hyd i – to want to find]
  • ymhen awr – at the end of an hour
  • barf (fem.) – beard
  • Duw fyddo gyda chi – God be with you
  • cyfeillgar – friendly
  • chwarddodd – laughed [from chwerthin – to laugh]
  • fel yna – that way, like that
  • mai – that
  • ewyllys (fem.) – will
  • boneddigion – gentlemen [singular: bonheddwr (masc.) – gentleman]
  • gwas (masc.) – servant
  • derwen (fem.) – oak tree
  • nerth eu traed – as fast as their feet could carry them
  • gorwedd – to lie down
  • bôn (masc.) – trunk
  • trysor (fem.) – treasure
  • gwerthfawr – valuable
  • wrth weld – upon seeing
  • darn (fem.) – piece
  • disgleirio – to shine
  • heulwen (fem.) – sunshine
  • yn llwyr – completely
  • rhifo – to count
  • breuddwydio – to dream
  • moethus – luxurious [also: moethusrwydd (masc.) – luxury]
  • di-ofal – carefree
  • disgwyl – to await
  • trafod – to discuss
  • pe tasen nhw – if they were to
  • dwyn – to steal
  • crogi – to hang
  • lladron – thieves [singular lleidr (masc.) – thief]
  • diau – doubtless
  • bwrw coelbren – to cast lots
  • gwarchod – to guard
  • cychwyn – to set out
  • prin – scarely
  • ymadael – to leave
  • ieuaf – youngest
  • rhannu – to divide [also: rhan (fem.) – part]
  • pan ddaw – when he comes
  • cytuno – to agree
  • y llall – the other
  • tebyg – similar
  • dylwn i? – should I?
  • mae’n well ‘da fi – I’d rather
  • lle – where
  • gwenwyn (masc.) – poison
  • ar gyfer – for
  • llygod mawr – rats [singular llygoden fawr (fem.) – rat]
  • cuddio – to hide
  • cofleidio – to embrace
  • brathu – to stab
  • dathlu – to celebrate
  • gweithred (fem.) – deed
  • tawel- silent
  • glaswellt – grass
  • hawdd – easy

Gwreiddiau

Dyma draethawd gan Glenson T. Jones, myfyriwr Cwrs Cymraeg Y Mileniwm yng Nghaerfyrddin. Ar y pryd, yn lefel 1 oedd o. Ond mae’n amlwg ei fod o wedi bod yn gweithio’n galed ar y Gymraeg. Dyma ei stori.


Gwreiddiau

Beth sydd yn ysgogi rhywun i chwilio am eu gwreiddiau? Rhyw deimlad bod rhywbeth wedi cael ei golli? Trio gweld os basa bywyd wedi bod yn wahanol petasai hyn a hyn wedi digwydd, neu ddim wedi digwydd? Neu efallai i’r rhai ohonon ni sydd ddim wedi cael ein magu yng Nghymru yr angen mwy o wybodaeth am ein cefndir. Hiraeth?

Mi ges i fy ngeni yn Abertawe ond des i i Ganada pan oeddwn i’n ddwy flwydd oed. A dyma fi yn Ottawa nawr gyda amser ar fy nwylo a’r teimlad yn gryf fy mod i eisiau gwybod mwy am ddreigiau fy nghyndeidiau. Sut fath o fywyd baswn i wedi cael mewn dinas yng Nghymru? Pa fath o fywyd oedd mewn entref yng Nghymru 100, 200 neu 300 mlynedd yn ôl?

Doeddwn i ddim, mewn gwirionedd, eisiau troi’r cloc yn ôl, dim ond eisiau archwilio fy ochr Gymreig. Yr ochr a oedd bron wedi cael ei anwybyddu am dros drigain mlynedd. Yr iaith, yr hanes, y diwylliant.

Ond sut i wneud hyn? Dwi wedi sylweddoli pellach bod dysgu allan o lyfr yn fy amser sbââr yn wastraff amser. Roeddwn i eisiau rhyw hwb go sydyn, rhywbeth i fy ngosod ar y cledrau cyflym ac i roi fflam i’r gwreichion.

Roeddwn i wedi clywed am gwrs Gymraeg yng Nghaerfyrddin, cwrs un wythnos, yn Awst 2000. Wrth gwrs mi ddysgais beth o Gymraeg ond yn fwy na hynny mi enillais lawer o hunan hyder a chododd fy niddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymreig. Ar y bedwaredd diwrnod aethon ni i’r farchnad yng Nghaerfyrddin i gyfarfod siopwyr. Dw i’n siwr roedden nhw’n cael eu diddanu gan ein hymdrechion ond roedden nhw’n falch ein bod ni wedi gwneud yr ymdrech. Roedd pawb yn nymunol iawn. Yr wythnos wedyn es i i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli gyda dau ddiwrnod yng Nghaerdydd. Ar y cyfan profiad gwefreiddiol, ond yn flinedig hefyd.

Wrth lwc mae prifysgol Ottawa yn cynnal cwrs Cymraeg sylfaenol a phellach dw i wedi cwblhau y tymor gyntaf ac yn edrych ymlaen at yr ail.

A sut ydw i wedi llwyddo i gyrraedd y safon hyn mor gyflym?

Yr ateb yw fy mod i wedi ymddeol ac wedi gosod ar wahân llawer o oriau i fy astudiaethau. Roedd cwrs y brifysgol yn cynnwys yr ugain gwers gyntaf o hen gyfres ‘Catchphrase’ y BBC ond hefyd mi roeddwn i wedi cael gafael ar gasetiau yn cynnwys dros gant o’r gwersi a phellach dw i wedi gwrando ar dros drigain ohonyn nhw tra mod i’n gyrru o amgylch Ottawa bob dydd. (Mae pobl sydd wedi ymddeol yn ffeindio rhywbeth i wneud a rhywle i fynd yn eu hamser hamdden.)

Mae gen i lawer iawn i ddysgu eto ond fel dw i’n dweud yn aml does na ddim pwrpas heneiddio os na allwch chi ei fwynhau. I ysgrifennu erthygl fel hyn mae’n rhaid i mi ddibynnu ar lawer geiriadur, llyfr gramadeg, llyfr am strwythurau’r ferf a hefyd llyfr ymadroddion Cymraeg i ddysgwyr. Ond pob tro dw i’n gwneud rhywbeth, dw i’n dysgu, ac mae’r tro nesaf yn haws.

Cyn diwedd y flwyddyn dw i’n gobeithio gallu darllen llyfrau i ddysgwyr


Geirfa

  • Ysgogi – to stir
  • Gwreiddiau – roots
  • Amser ar fy nwylo – time on my hands
  • Dreigiau fy nghyndeidiau – the dragons of my forefathers
  • Archwilio – to research
  • Anwybyddu – to ignore
  • Diwylliant – culture
  • Gwastraff amser – waste of time
  • Cledrau cyflym – fast track
  • Gwreichion – sparks
  • Ennill – to win
  • Hunan hyder – self confidence
  • Diddordeb – interest
  • Diddanu – to amuse
  • Ymdrechion – attempts
  • Dymunol – pleasant
  • Ar y cyfan – on the whole
  • Gwefreiddiol – thrilling
  • Blinedig – tiring
  • Sylfaenol – basic
  • Cwblhau – to complete
  • Edrych ymlaen – to look forward to
  • Gosod ar wahân – to set aside
  • Astudiaethau – studies
  • Cynnwys – contents
  • Cael gafael – to get hold of
  • O amgylch – around
  • Heneiddio – to get older
  • Strwythur – structure
  • Ymadroddion – sayings
  • Haws – easier