Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Bro Boston, 1989 gan Gwr Y Gogledd (John Otley)
Breuddwydio / Dreaming
Rôn i’n syllu yn flinedig ar y cysgodion
oedd yn dawnsio fel “ballerinas” llwyd
ar lwyfan fy nenfwd brwnt.
Roedd glesni anial yn goleuo’r stafell o’r stryd islaw,
yn hollti’r tywyllwch poeth llaith
oedd yn gafael ynof yn ei grafangau llym.
Ar y briffordd bell, roedd cerddorfa
o gyrn ceir yn canu galargân.
A dyma fi’n gorwedd ar fy ngwely,
heb gysgu, heb ddihuno.
Yno, mi wywodd y cyngerdd aflafar.
Dim gair, dim sibrwd, dim swn.
Y nos heb lais.
Roedd niwl oer gwlyb yn cropian drwy’r ffenest fel cath,
yn llenwi’r stafell fel dwr mewn potel.
Ac yn y tawelwch poenus, mi weles i fyd llwyd,
haearn a rhwd, dur a lludw, maen a baw,
ac adeiladau anhygoel oedd yn herio’r nefoedd.
Mi weles i law brown budr yn syrthio o gymylau fel llech.
A lle roedd y dwr yn llifo,
mi fyddai’r concrit yn toddi fel menyn.
Roedd pobl llwyd yn gwibio heibio
fel gloynnau byw di-liw ar frys gwyllt,
yn cerdded mewn preiddiau o le i le
Roedd eu hwynebau fel maen, yn galed ac yn oer,
heb angerdd, heb bwrpas.
Roedd pawb yn dilyn.
Doedd neb yn arwain.
Mi gerddon nhw heibio i’r gwely
yn ceisio osgoi llygaid yr eneth fach
oedd yn gwerthu glas y gors ger y wardrÙb.
Stopion nhw ddim i edrych ar y rhyfeddod blodeuog,
estron lliwgar yn y byd llwyd.
A phan basion nhw, mi droion nhw ei stondin drosodd
heb feddwl, heb ofal.
Mi adawon nhw’r eneth yn sefyll ar ei phen ei hen
ynghanol adfeilion ei bywyd,
dagrau hallt yn disgleirio fel rhuddemau
yn ngolau gwan yr haul coch.
Yna, mi glywes i swn rhyfedd, cras.
Roedd rhywun yn chwerthin yn walltgo
fel rhyw fath of ffwl.
Ac mi sylweddolies yn sydyn mai fi oedd y ffwl ‘na.
Mi eisteddes i i fyny ar fy ngwely,
chwys oer yn llifo o’m hwyneb a’m cefn,
‘nghalon yn curo fel tabwrdd bas.
Ond roedd yr heulwen felen groesawgar
yn estyn ei bysedd cynnes drwy’r ffenest,
a roedd robin goch yn dathlu’r dydd newydd
o goeden afalau gyfeillgar.
Mi gysures i fy hun wrth feddwl
mai dim on hunllef oedd hi.
On’d oedd hi?
Gwr Y Gogledd
Dreaming
I was tiredly staring at the shadows
that were dancing like grey ballerinas
on my dirty ceiling stage.
A desolate blueness lit the room from the street below,
splitting the warm damp darkness
that gripped me in its sharp claws.
On the distant highway, an orchestra
of car horns was playing a dirge.
And there I lay on my bed,
not sleeping, not waking.
Then the cachophonic concert faded.
No word, no whisper, no sound.
The night without voice.
A cold wet fog was creeping through the window like a cat,
filling the room like water in a bottle.
And in the painful silence, I saw a grey world,
iron and rust, steel and ash, stone and dirt,
and incredible buildings that were challenging the heavens.
I saw a dirty brown rain falling from clouds like slate.
And where the water ran,
concrete would melt like butter.
Grey people flitted past
like colourless butterflies at a mad dash,
walking in flocks from place to place.
Their faces were like stone, hard and cold,
without passion, without purpose.
Everyone was following.
No-one was leading.
They walked by the bed,
trying to avoid the eyes of the little girl
who was selling forget-me-nots by the wardrobe.
They didn’t stop to look at the flowery wonder,
a colourful stranger in the grey world.
And when they passed, they turned her stand over
without thinking, without caring.
They left the girl standing by herself
in the ruins of her life,
salty tears glittering like rubies
in the weak light of the red sun.
Then I heard a strange harsh sound.
Someone was laughing madly
like some sort of fool.
And I suddenly realised that I was that fool.
I sat up in my bed,
cold sweat running from my face and back,
my heart beating like a bass drum.
But the yellow hospitable sunlight
was stretching its warm fingers through the window,
and a robin was celebrating the new day
from a friendly apple tree.
I consoled myself in the thought
that it was only a nightmare.
Wasn’t it?
John Otley
Cyfieithiad gan / Translation by Alun Hughes