Pam Ydw I Yma?: Why Indeed?
gan Cefin Campbell
Mae Cefin wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog
dros y blynyddoedd. Mae o'n athro brofiadol yn Ne Cymru. ac, ar hyn o bryd, mae o'n gweithio i Fentr Iaith Gwmgwendraeth.
Nol I Dudalen Cartref Darlleniadau
Back To The Readings In Welsh Home Page
|
|
Y mae fy nghysylltiad cyntaf â Chymdeithas Madog yn mynd yn ôl
i 1986 pan ces i wahoddiad i ddysgu ar Gwrs Gymraeg Y Bedol Aur yn Nhoronto. Dyna'r tro cyntaf erioed i mi ymweld
â Gogledd America ac yr oedd yn brofiad bythgofiadwy.
Ers hynny yr wyf wedi bod yn ffodus o gael gwahoddiad i fynd yn ôl
nifer o weithiau fel athro ac arweinydd cwrs. Y cyrsiau eraill yr wyf wedi bod yn dysgu arnynt yw'r rhai a gafodd
eu cynnal yn Cincinnatti (1987), Boston (1988), Atlanta (1995), Indianola (1997) a Berkeley, San Francisco (1998).
Dros y blynyddoedd yr wyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nifer o
bobl ddiddorol iawn, llawer yr wyf yn parhau mewn cysylltiad â nhw heddiw. Drwy'r cyfeillgarwch hwn yr wyf
wedi dod i adnabod Cymry America yn well - eu hanes ac yn arbennig eu hymdrechion i gynnal eu hunaniaeth fel pobl
dros gyfnod o ganrifoedd.
Yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i mi yw'r rhesymau pam y mae
cannoedd o bobl o bob rhan o Ogledd America wedi mynychu cyrsiau Cymdeithas Madog yn rheolaidd dros y blynyddoedd
diwerthaf. Y mae rhai o'r rhesymau yn ddigon amlwg - cysylltiad teuluol â Chymru neu'r awydd i astudio'r
Gymraeg fel pwnc academaidd, ond mae rhesymau eraill eithaf 'bizarre' wedi codi o bryd i'w gilydd. Pwy fasai'n
meddwl bod cadw corgi Cymreig yn rheswm dros ddysgu Cymraeg neu bod yn ffan o'r Dywysoges Diana neu Tom Jones?
A beth am yr un ddaeth ar gwrs Cymraeg am eu bod yn gwerthu cwrw Felinfoel yn ei 'liquor store' lleol. Wel, ble
gwell i ddod na chwrs Cymraeg i ddysgu mwy am gwrw Cymru?!
Unig rheswm un wraig o Bennsylvania am ddod ar gwrs oedd gallu dweud 'Llanfairpwyllgwyngyll
etc' heb anadlu, ac un arall o Wisconsin eisiau dysgu Gweddi'r Arglwydd ar ei chof. Ac yna'r dyn yn Cincinatti
a ddaeth yn arbennig i ofyn os oedd un o'r athrawon o Gymru yn adnabod ei Wncwl Wil Thomas oedd yn byw rhywle yn
Ne Cymru!
Ond y stori orau oedd yr aelod o Greenpeace a oedd wedi gweld poster yn
dweud 'Save Whales' a dod ar gwrs i achub Cymru!
Ond heblaw am eithriadau fel hyn y mae'r ymroddiad sydd yn cael ei ddangos
gan bobl sydd yn dod ar gyrsiau Cymdeithas Madog wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros y blynyddoedd. Yr wyf yn aml
wrth siarad â chymdeithasau neu fudiadau yng Nghymru yn cyfeirio at frwdfrydedd pobl Gogledd America am yr
iaith, ei hanes a'i diwylliant, ac yn gobeithio rhyw ddydd y bydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn dangos yr un diddordeb
mewn iaith a diwylliant.
Gobeithio y caf gyfle i gadw fy nghysylltiad â Chymdeithas Madog mewn
rhyw ffordd neu'i gilydd dors y blynyddoedd nesa.
|