{loadposition CMPageHeaderWithLogo}
Dyma stori fer am y detecif byd enwog Herciwl Pwaro. Cafodd y stori hon ei hysgrifennu yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta’n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.
Llofruddiaeth Yn Y Manordy
Wrth lwc roedd Hercule Poirot, y ditectif Belgaid enwog, yn aros yng Ngogledd Cymru pan ddigwyddodd y trasiedi yno. Onibai am hyn, basai’r dirgelwch hwn yn dal heb ei esbonio hyd heddiw.
Ond gadewch if fynd yn ol i’r dechrau…
Bu rhaid i Monsieur Poirot adael ei fflat yng nghanol Llundain pan benderfynodd awdurdodau y ddinas ail-balmantu ei stryd. Roedd sŵn y peiriannau dan ei ffenestri yn ofnadwy, a’r llwch yn dod i mewn ac yn setlo ym mhobman. Dyn twt a thaclus ydy M. Poirot, fel mae pawb yn gwybod, ac yn casáu anrhefn a sw+n a llwch yn anad dim. Yn dilyn cyngor ei ffrind Colonel Hastings, felly, aeth M. Poirot i Gymru, i dreulio pythefnos yn yr awyr iach, ymhell o sŵn a mwg y ddinas fawr. Cyn hir roedd Poirot ymysg y mynyddoedd Cymreig, yn aros mewn Gwely a Brecwast mewn pentref gwledig yng nghysgod yr Wyddfa.
Er ei fod yn ddyn dinesig o’i gorun i’w sawdl, llwyddodd M. Poirot i fwynhau ei drigiad yn y pentref. Y diwrnod cyntaf, aeth i mewn i’r siopau, ymweld â’r hen gapel, ac edmygu’r maenordy gwych o’r ddeunawfed ganrif; yn fyr, gwelodd Poirot y golygefeydd i gyd. A’r dyddiau dilynol, beth a wnaeth? Mynd am dro yn y mynyddoedd, cerdded allan yn y cefn gwlad, edrych ar y ffermwyr yn hel eu defaid gyda chymorth eu cwn defaid du a gwyn. Byddai Poirot yn mynd allan bob dydd gyda’i het a’i ymbarel i grwydro rhyw lwybr mynyddig, gan gymryd gofal i ddod adre mewn pryd i gael te, a bob tro yn sychu ei esgidiau’n ofalus, rhag ofn iddo fe fod wedi sefyll yn rhywbeth cas roedd rhyw ddafad wedi’i osod ar y llwybr.
Un prynhawn tua diwedd ei drigiad yn y pentref, tra roedd M. Poirot yn cael te a bisgedi yn y Gwely a Brecwast, rhuthrodd y bwtler o’r maenordy i mewn. Roedd e wedi rhedeg o ben draw’r pentref i ofyn i M. Poirot ddod i’r maenordy ar unwaith: roedd rhywun wedi cael ei ladd!
Cydiodd M. Poirot yn ei het a’i ymbarel a brysio allan o’r tŷ, yn dilyn y bwtler trwy’r pentref i’r maenordy, lle trigodd yr Arglwyddes Prydderch-Jones are ei phen ei hen (gyda’i bwtler a’i chogyddes, hynny yw). Ar y ffordd, adroddodd y bwtler y hanes i M. Poirot: bachgen deg oed, mab y gogyddes, oedd wedi cael ei ladd. Roedd y gogyddes wedi dod o hyd i’w mab yn gorwedd ar lawr y gegin, yn farw. Nid oedd hithau na’r bwtler wedi gweld neu glywed dim byd o’i le ar y pryd.
Pan gyrhaeddodd M. Poirot, roedd yr heddlu wedi dod a mynd yn barod, ar ôl chwilio am gliwiau a gofyn cwestiynnau o bob math, ond yn ofer – ymadawodd y plismyn heb ddod o hyd i’r un prawf i ddangos pwy oedd wedi llofruddio’r bachgen.
Dechreuodd M. Poirot holi’r gogyddes; beichiodd hithau wylo a gallodd o’r braidd siarad. “Pardon, Madame,” meddai M. Poirot, “Rydw i’n deall bod hyn yn anodd iawn i chi, ond mae rhaid i fi ofyn ychydig o gwestiynau, ac mae’n angenrheidiol i chi ateb mor fanwl ‚ phosib. Yn gyntaf, Madame, ble roedd eich mab pan ddaethoch chi o hyd iddo fe?”
“Roedd e’n gorwedd ar y llawr, wrth y bwrdd, a chyllell yn ei gefn,” egurodd y gogyddes, gan sychu ei dagrau.
“Mae’n debyg na welodd e ddim o’r llofrudd, felly,” meddai M. Poirot. “Fasai fe wedi ei glywed, tybed?”
“O na fasai,” atebodd y gogyddes yn bendant. “Dwi’n siwr na chlywodd e ddim byd? Roedd e’n bwyta cawl ar y pryd, ac yn llyncu’n swnllyd, fel arfer. Byddai fy meistres, yr Arglwyddes Prydderch-Jones, yn dweud y drefn wrth y bachgen truan o hyd ac o hyd am iddo wneud cymaint o sw+n wrth fwyta.”
“Aha!” criodd Monsieur Poirot. “Rydw i wedi darganfod y llofrudd! Ffoniwch yr heddlu, a dywedwch iddyn nhw restio yr Arglwyddes Prydderch-Jones ar unwaith!”
Ar ôl i’r plismyn fynd â’r foneddiges ddiedifar i orsaf yr heddlu, cerddodd M. Poirot yn feddylgar yn ôl i’w Wely a Brecwast. “Gobeithio na chaiff yr Arglwyddes Prydderch-Jones ddyfarniad llym,” meddyliodd Poirot. “Nid arni hi oedd y bai, wedi’r cwbl. Mae’n hollol warthus i rywun lyncu ei gawl yn swnllyd fel ‘na o hyd ac o hyd. Dim rhyfedd i’r arglwyddes gracio dan y straen!”
Geirfa
- llofruddiaeth (masc.) – murder (also, llofruddio – to murder, and llofrudd, m – murderer)
- Maenordy (m) – manor house
- ymddiheuriad (m) – apology
- dirgelwch (m) – mystery
- dal heb ei esbonio – to remain unexplained
- awdurdod (m) – authority
- dinas (fem.) city (also, dinesig – urban)
- ail-balmantu – to re-pave
- peiriannau – machines (singular: peiriant, m)
- llwch (m) – dust
- ym mhobman – everywhere
- twt a thaclus – neat and tidy
- casáu – to hate (also, cas – nasty, hateful)
- anrhefn (f) – disorder (cf. trefn – order)
- yn anad dim – above all
- cyngor (m) – advice
- ymysg – among
- gwledig – rural (cf. gwlad – coutry; also cefn gwlad – countryside)
- cysgod (m) – shadow
- o’i gorun i’w sawdl – from head to foot
- llwyddo i – to succeed in
- mwynhau – to enjoy
- trigiad (m) – a stay (also, trigo – to stay)
- edmygu – to admire
- gwych – splendid
- deunawfed ganrif – 18th century
- golygfeydd – sights (sing. golygfa, f)
- hel – to herd
- cymorth (m) – help
- crwydro – to wander
- llwybr (m) – path
- mewn pryd – in time (also, ar y pryd – at the time)
- sychu – to dry
- rhag ofn – in case
- gosod – to drop or set
- rhuthro – to rush
- pen draw – the far end
- cael ei ladd – to be killed (cf. lladd – to kill)
- cydio yn – to grab
- yr Arglwyddes (f) – Lady
- cogyddes – cook
- adrodd – to recount
- marw – dead
- o’i le – wrong
- yr heddlu (m) – police (also, gorsaf yr heddlu – police station)
- pob math – every kind
- yn ofer – in vain
- ymadael – to leave
- yr un prawf – (not) a single proof
- holi – to interrogate
- beichio wylo – to sob
- o’r braidd – scarcely
- angenrheidiol – necessary
- mor fanwl â – as precisely as…
- tebyg – likely
- tybed – I wonder
- pendant – emphatic
- cawl (m) – soup
- llyncu – to swallow
- swnllyd – noisy (cf. sŵn, m – sound)
- fel arfer – as usual
- dweud y drefn – to scold
- truan – poor
- o hyd ac o hyd – again and again
- bonheddiges (f) – lady, noblewoman
- diedifar – unrepentant
- na chaiff – she will not get (from cael)
- dyfarniad (m) llym – harsh sentence
- bai (m) – blame
- wedi’r cwbl – after all
- gwarthus – disgraceful
- fel yna – like that
- dim rhyfedd – no wonder