Readings In Welsh – Gwreiddiau

{loadposition CMPageHeaderWithLogo}

Dyma draethawd gan Glenson T. Jones, myfyriwr Cwrs Cymraeg Y Mileniwm yng Nghaerfyrddin. Ar y pryd, yn lefel 1 oedd o. Ond mae’n amlwg ei fod o wedi bod yn gweithio’n galed ar y Gymraeg. Dyma ei stori.


Gwreiddiau

Beth sydd yn ysgogi rhywun i chwilio am eu gwreiddiau? Rhyw deimlad bod rhywbeth wedi cael ei golli? Trio gweld os basa bywyd wedi bod yn wahanol petasai hyn a hyn wedi digwydd, neu ddim wedi digwydd? Neu efallai i’r rhai ohonon ni sydd ddim wedi cael ein magu yng Nghymru yr angen mwy o wybodaeth am ein cefndir. Hiraeth?

Mi ges i fy ngeni yn Abertawe ond des i i Ganada pan oeddwn i’n ddwy flwydd oed. A dyma fi yn Ottawa nawr gyda amser ar fy nwylo a’r teimlad yn gryf fy mod i eisiau gwybod mwy am ddreigiau fy nghyndeidiau. Sut fath o fywyd baswn i wedi cael mewn dinas yng Nghymru? Pa fath o fywyd oedd mewn entref yng Nghymru 100, 200 neu 300 mlynedd yn ôl?

Doeddwn i ddim, mewn gwirionedd, eisiau troi’r cloc yn ôl, dim ond eisiau archwilio fy ochr Gymreig. Yr ochr a oedd bron wedi cael ei anwybyddu am dros drigain mlynedd. Yr iaith, yr hanes, y diwylliant.

Ond sut i wneud hyn? Dwi wedi sylweddoli pellach bod dysgu allan o lyfr yn fy amser sbââr yn wastraff amser. Roeddwn i eisiau rhyw hwb go sydyn, rhywbeth i fy ngosod ar y cledrau cyflym ac i roi fflam i’r gwreichion.

Roeddwn i wedi clywed am gwrs Gymraeg yng Nghaerfyrddin, cwrs un wythnos, yn Awst 2000. Wrth gwrs mi ddysgais beth o Gymraeg ond yn fwy na hynny mi enillais lawer o hunan hyder a chododd fy niddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Cymreig. Ar y bedwaredd diwrnod aethon ni i’r farchnad yng Nghaerfyrddin i gyfarfod siopwyr. Dw i’n siwr roedden nhw’n cael eu diddanu gan ein hymdrechion ond roedden nhw’n falch ein bod ni wedi gwneud yr ymdrech. Roedd pawb yn nymunol iawn. Yr wythnos wedyn es i i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli gyda dau ddiwrnod yng Nghaerdydd. Ar y cyfan profiad gwefreiddiol, ond yn flinedig hefyd.

Wrth lwc mae prifysgol Ottawa yn cynnal cwrs Cymraeg sylfaenol a phellach dw i wedi cwblhau y tymor gyntaf ac yn edrych ymlaen at yr ail.

A sut ydw i wedi llwyddo i gyrraedd y safon hyn mor gyflym?

Yr ateb yw fy mod i wedi ymddeol ac wedi gosod ar wahân llawer o oriau i fy astudiaethau. Roedd cwrs y brifysgol yn cynnwys yr ugain gwers gyntaf o hen gyfres ‘Catchphrase’ y BBC ond hefyd mi roeddwn i wedi cael gafael ar gasetiau yn cynnwys dros gant o’r gwersi a phellach dw i wedi gwrando ar dros drigain ohonyn nhw tra mod i’n gyrru o amgylch Ottawa bob dydd. (Mae pobl sydd wedi ymddeol yn ffeindio rhywbeth i wneud a rhywle i fynd yn eu hamser hamdden.)

Mae gen i lawer iawn i ddysgu eto ond fel dw i’n dweud yn aml does na ddim pwrpas heneiddio os na allwch chi ei fwynhau. I ysgrifennu erthygl fel hyn mae’n rhaid i mi ddibynnu ar lawer geiriadur, llyfr gramadeg, llyfr am strwythurau’r ferf a hefyd llyfr ymadroddion Cymraeg i ddysgwyr. Ond pob tro dw i’n gwneud rhywbeth, dw i’n dysgu, ac mae’r tro nesaf yn haws.

Cyn diwedd y flwyddyn dw i’n gobeithio gallu darllen llyfrau i ddysgwyr


Geirfa

  • Ysgogi – to stir
  • Gwreiddiau – roots
  • Amser ar fy nwylo – time on my hands
  • Dreigiau fy nghyndeidiau – the dragons of my forefathers
  • Archwilio – to research
  • Anwybyddu – to ignore
  • Diwylliant – culture
  • Gwastraff amser – waste of time
  • Cledrau cyflym – fast track
  • Gwreichion – sparks
  • Ennill – to win
  • Hunan hyder – self confidence
  • Diddordeb – interest
  • Diddanu – to amuse
  • Ymdrechion – attempts
  • Dymunol – pleasant
  • Ar y cyfan – on the whole
  • Gwefreiddiol – thrilling
  • Blinedig – tiring
  • Sylfaenol – basic
  • Cwblhau – to complete
  • Edrych ymlaen – to look forward to
  • Gosod ar wahân – to set aside
  • Astudiaethau – studies
  • Cynnwys – contents
  • Cael gafael – to get hold of
  • O amgylch – around
  • Heneiddio – to get older
  • Strwythur – structure
  • Ymadroddion – sayings
  • Haws – easier