Y Tri Ffrind

Dyma stori fer am dri ffrind yn edrych am Angau. Mae’r stori yn seiliedig ar hanes o’r bedwaredd ganrif ar ddegau. Cafodd y stori hon ei haddas yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta’n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.


Y Tri Ffrind

Un diwrnod ym Mis Mai, roedd tri dyn ifanc yn eistedd mewn tafarn, yn chwarae cardiau, yfed gwin, a chwerthin am ben Duw a’r Diawl. Roedd y bywyd gwyllt a dreuliodd y tri yn enwog trwy’r dref. Poenai mamau am eu merched, a dymunai pob tad ddiwedd cynnar i’r tri. Ond beth oedd ymateb y tri? Dim ond chwerthin mwy, a dal i yfed.

Y bore hwn, pan oedd y tri’n agor potel arall o win, clywon nhw swn cloch yn y stryd. Wrth edrych trwy’r ffenestr, gwelon dorf o bobl yn cerdded yn araf ar hyd y stryd dan wylio, a phawb mewn gwisg du. Esboniodd y tafarnwr fod Angau wedi cymryd dyn tlawd o’r ardal, yn gadael ei wraig a’i blant ef heb geiniog goch yn y byd. Aeth y tri ffrind yn ôl at eu gwin.

"Mewn gwirionedd," meddai’r cyntaf, "Angau ydy ein gelyn gwaethaf. Mae e’n aros am bawb, ac yn cymryd pob un. Does neb yn dianc."

"Rwyt ti’n iawn," meddai’r ail ffrind, "Fe hoffwn i yfed, dim ond yfed bore a nos, heb ofni i Angau ddod a rhoi diwedd ar fy hwyl. Ond sut gallaf i fod yn hapus, gan wybod bod Angau’n dal i fyw?"

"Myn Duw!" crïodd y trydydd, "Mae’n hollol wir – Angau ydy ein gelyn gwaethaf! Beth am i ni ladd Angau, a dod yn arwyr mawr? Dewch, frodyr, rhowch i mi eich dwylo amdani: awn i chwilio am Angau, ble bynnag y bo, a’i ddal, a’i ladd. Dewch, yfwn wydryn arall, frodyr, ond y tro yma, yfwn i angau Angau! Ac wedyn, awn allan i ddod o hyd iddo fe!"

Brysiodd y tri’n wyllt allan o’r dref i’r wlad. Ymhen awr cwrddon nhw â hen wr gyda barf wen, yn cerdded yn araf ar hyd y ffordd.

"Duw fyddo gyda chi," meddai’r hen wr yn gyfeillgar.

"Ha ha! Duw gyda ni?" chwarddodd un o’r ffrindiau. "Ond dywedwch, hen wr, pam rydych chi yma ar eich pen eich hun fel yna? Rydych chi mor hen – pam dydych chi ddim wedi marw? Rydw i’n meddwl mai chi ydy Angau, sy’n chwilio am bobl."

"O nage," meddai’r hen wr, "Rydw i mor hen achos dyna ewyllys Duw. Fe hoffwn i farw, ond bob tro i mi ofyn i Angau fy nghymryd, mae e’n dweud, ‘Nage, hen wr, dydy dy amser ddim wedi dod eto.’ Ond wnewch chi adael i mi fynd ymlaen, foneddigion?"

"Na wnawn, fy hen wr," meddai’r ail ffrind, "Allai neb fod mor hen â chi. Nid dyn ydych chi, ond gwas Angau."

"Ha!", crïodd y trydydd, "Ffwl ydych chi, os ydych chi’n feddwl ein bod ni’n eich credu chi. Helpwr Angau ydych chi. Ac fe fyddwn ni’n eich lladd chi, os dydych chi ddim yn dweud wrthon ni ble mae eich meister chi."

"Wel, os ydych chi am ddod o hyd i Angau," atebodd yr hen wr yn araf, "ewch ymlaen ar y ffordd yma, nes i chi weld derwen ar yr ochr dde. Dan y dderwen ‘ma Angau’n byw. Duw fyddo gyda chi."

Rhedodd y tri ffrind nerth eu traed nes cyrraedd y dderwen. Ac oedd, roedd rhywbeth yn gorwedd wrth fôn y goeden, ond nid Angau: saith sach fawr, ac ynddynt drysor werthfawr! Cododd calonnau’r tri ffrind wrth weld darnau arian yn disgleirio yn yr heulwen. Anghofion nhw’n llwyr am Angau, a dechrau rhifo’r darnau arian, gan freuddwydio am y bywyd moethus a di-ofal a’u disgwyliodd.

Trafodon nhw beth i wneud gyda’r drysor. Pe tasen nhw’n ei chario hi’n syth yn ôl i’r dref, byddai pobl yn meddwl eu bod nhw wedi dwyn yr arian, a byddai’r tri yn cael eu crogi fel lladron, yn ddiau. Penderfynon nhw fwrw coelbren: byddai rhaid i’r dyn a gollodd fynd yn ôl i’r dafarn a phrynu bwyd a gwin i ginio, a’r ddau arall yn aros a gwarchod y drysor. Wedyn, yn y nos, byddai’r tri ohonyn nhw’n cario’r drysor yn saff yn ôl i’r dref. Bwrwon goelbren ar unwaith. Collodd y ieuaf, a chychwynodd am y dref.

Prin oedd yr ieuaf wedi ymadael, pan ddechreuodd y ddau arall siarad am y drysor.

"Fe fyddwn ni’n cael mwy o arian os ydyn ni’n rhannu’r drysor yn ddwy ran yn lle tair," meddai’r cyntaf.

"Ond sut mae’n bosib? Mae tri ohonon ni," atebodd ei ffrind.

"Y ffwl dwl! Rydw i’n siarad am rannu’r drysor rhyngot ti a fi. Beth am ladd ein ffrind ni pan ddaw yn ôl? Fel yna, byddwn ni’n dau’n gallu byw mewn moethusrwydd."

Cytunodd y llall, ac arhosodd y ddau i’w ffrind ddod yn ôl.

Ar y ffordd i’r dref, roedd y ieuaf yn meddwl rhywbeth tebyg.

"Pam dylwn i rannu’r arian gyda’r ddau arall? Mae’n well ‘da fi gadw’r holl drysor fy hunan."

Yn y dref prynodd gig, bara a thair potel o win. Yna, aeth i siop apothecari, lle prynodd wenwyn "ar gyfer llygod mawr," fel esboniodd wrth yr apothecari. Ar y ffordd allan o’r dref, rhoddodd y gwenwyn i mewn i ddwy o’r poteli, gan guddio’r drydded botel yn ei boced i’w hunan.

Oes rhaid dweud mwy? Pan gyrhaeddodd yr ieuaf y dderwen, rhedodd un o’i ffrindiau i’w gofleidio wrth i’r llall ei frathu gyda chyllell. Wedyn eisteddodd y ddau ar y llawr i ddathlu’r weithred, a bwyta’r bwyd ac yfed a gwin oedd eu ffrind wedi’u cario o’r dref. Cymerodd pob un botel o’r gwin lle roedd Angau yn aros, i yfed i iechyd y llall ac i’r dyddiau hapus i ddod.

Fore trannoeth, disgleiriodd yr haul ar y dderwen, ar y blodau wrth fôn y goeden, ac ar wynebau llwyd y tri ffrind yn gorwedd yn dawel yn y glaswellt.

Mae Angau, pan rydych chi’n chwilio amdano fe, yn hawdd i’w ffeindio.


Geirfa

  • yn seiliedig ar – based on
  • y bedwaredd ganrif ar ddeg – the fourteenth century
  • diwrnod (masc.) – day
  • chwerthin am ben – to laugh at
  • Y Diawl – the Devil
  • gwyllt – wild
  • enwog – notorious
  • poeni – to worry [poenai – used to worry]
  • dymuno – to wish
  • diwedd (masc.) cynnar – an early end
  • ymateb (fem.) – response, reaction
  • dal i + verb – to continue (to do something)
  • torf (fem.) – crowd
  • wylo – to weap
  • yr Angau (masc.) – Death
  • esbonio – to explain
  • tlawd – poor
  • ardal (fem.) – area
  • ceiniog (fem.) – penny
  • gwirionedd (masc.) – truth [also: mae’n wir – it’s true]
  • gelyn (masc.) – enemy
  • gwaethaf – worst
  • dianc – to escape
  • ofni – to fear
  • hwyl (fem.) – fun
  • Myn Duw – by God
  • yn holloll – entirely [also: holl – entire, whole]
  • lladd – to kill
  • arwyr – heroes [singular: arwr (masc.) – hero]
  • brodyr – brothers
  • chwilio am – to look for
  • ble bynnag y bo – wherever he may be
  • dal – to catch
  • gwydryn (masc.) – glass
  • y tro yma – this time [also: bob tro – every time]
  • dod o hyd i – to find [also: am ddod o hyd i – to want to find]
  • ymhen awr – at the end of an hour
  • barf (fem.) – beard
  • Duw fyddo gyda chi – God be with you
  • cyfeillgar – friendly
  • chwarddodd – laughed [from chwerthin – to laugh]
  • fel yna – that way, like that
  • mai – that
  • ewyllys (fem.) – will
  • boneddigion – gentlemen [singular: bonheddwr (masc.) – gentleman]
  • gwas (masc.) – servant
  • derwen (fem.) – oak tree
  • nerth eu traed – as fast as their feet could carry them
  • gorwedd – to lie down
  • bôn (masc.) – trunk
  • trysor (fem.) – treasure
  • gwerthfawr – valuable
  • wrth weld – upon seeing
  • darn (fem.) – piece
  • disgleirio – to shine
  • heulwen (fem.) – sunshine
  • yn llwyr – completely
  • rhifo – to count
  • breuddwydio – to dream
  • moethus – luxurious [also: moethusrwydd (masc.) – luxury]
  • di-ofal – carefree
  • disgwyl – to await
  • trafod – to discuss
  • pe tasen nhw – if they were to
  • dwyn – to steal
  • crogi – to hang
  • lladron – thieves [singular lleidr (masc.) – thief]
  • diau – doubtless
  • bwrw coelbren – to cast lots
  • gwarchod – to guard
  • cychwyn – to set out
  • prin – scarely
  • ymadael – to leave
  • ieuaf – youngest
  • rhannu – to divide [also: rhan (fem.) – part]
  • pan ddaw – when he comes
  • cytuno – to agree
  • y llall – the other
  • tebyg – similar
  • dylwn i? – should I?
  • mae’n well ‘da fi – I’d rather
  • lle – where
  • gwenwyn (masc.) – poison
  • ar gyfer – for
  • llygod mawr – rats [singular llygoden fawr (fem.) – rat]
  • cuddio – to hide
  • cofleidio – to embrace
  • brathu – to stab
  • dathlu – to celebrate
  • gweithred (fem.) – deed
  • tawel- silent
  • glaswellt – grass
  • hawdd – easy