Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o’n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Ysgrifennod Heini’r ddarn o farddoniaeth ar ôl Cwrs Cymraeg Atlanta, 1995.
Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America
Sut bydd y ffarwel ola?
A fydd munudyn seremoni?
Wedi oes o wres,
o fyw ar drydan nerfau,
a chyffro cyrff,
a geir un gusan laith
neu anwes glyd,
neu a gaf olwg ohonot o bellter clwyfus?
Ynteu a gerddi i’r lifft i’r seithfed llawr
heb wybod fod y foment fawr ar fod?
(Neu ai i’w osgoi,
i wylo dros ynfydrwydd byw;
neu ai’n ddifater ei?
Er poeni,
ni allaf boeni mwy).
Y pryd hwnnw,
os caf,
fe gaf i ganu’n iach i’r lleill,
rhai’n anwyliaid oes,
codi llaw ar hwn a’r llall,
ysgwyd llaw,
a choflaid.
Yna camaf tua’r limo gwyn,
a ddaeth i’m cludo o’r tir newydd hwn,
i’r hen, hen fyd,
i’r lle y tarddodd amser, celf a llen,
(a’r awch i ladd)
A’r pryd hwnnw,
fel diwedd breuddwyd braf,
fe ddoi i blith y lleill,
ac estyn llaw i mi i’w dal yn dyn
Un olwg olaf wedyn, codi llaw,
a dyna ni,
a minnau nawr,
yng nghlydwch soffa lledr du y limo hir,
yng nghwmni gyrrwr boldew mud,
a bar wrth law,
a teithwyr byd yn bwrw golwg syfdan,
yn cyrchu tua Hartsfield
i gael esgyn fry i’r nen.