Helo ‘na, Catrin Evans-Thomas ydw i. Dw i’n dod o bentref bach Ffostrasol yng Ngheredigion, ac yn Gardi balch! Dechreuais fy ngyrfa fel athrawes y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd yng ngogledd Cymru, cyn mynd ymlaen i fyd Cymraeg i Oedolion fel cydlynydd cyrsiau rhanbarthol i Goleg Meirion-Dwyfor.
Erbyn hyn dw i’n ddarlithydd y Gymraeg ac yn Reolwr Prosiectau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac wrth fy modd.
Dw i’n dwlu ar rygbi – dw i’n hyfforddi tîm Dan 14 y Wiberod, ac yn cefnogi’r Sgarlets (West is Best!). Gan fy mod yn rhy hen bellach i chwarae gêm y bêl hirgron, dw i’n caw’n heini trwy redeg a gwneud dosbarthiadau ffitrwydd. Mae creadigrwydd yn rhan bwysig iawn o fy mywyd, a dw i’n ymlacio trwy ganu’r piano, canu, creu gemwaith neu drwy wneud tamaid bach o uwchgylchu.
Mae’n gyffrous iawn cael cyfle i fod yn diwtor ar gwrs Cymraeg Cymdeithas Madog, a dw i’n edrych ymlaen lot fawr at gwrdd â chi, a lledaenu iaith y nefoedd dros yr Iwerydd!
Hi there, I’m Catrin Evans-Thomas. I come a small (but significant!) village called Ffostrasol in Ceredigion, and am a very proud Cardi. I started my career as a Welsh teacher in the secondary school sector in north Wales, before moving on to being the regional Welsh for Adults co-ordinator for Coleg Meirion-Dwyfor. I am currently a Welsh lecturer and Project Manager at the University of Wales, Trinity Saint David, and I love my job.
Rugby is a passion of mine – I coach our local under 14s Wiberod team, and am an avid Scarlets fan (West is Best!). As my knees are too worn to play the game now, I keep fit by running and doing fitness classes. Creativity is an integral part of my life, and I love playing the piano, singing, making jewellery and doing a spot of upcycling when time allows.
I’m excited to have the opportunity to be a tutor on the Cymdeithas Madog Welsh course, and am looking forward to meeting you all, and teaching the language of heaven across the Atlantic Ocean.