Andrew Edwards

2026 Tutor for Cwrs Cymraeg Bryn Dderw

S’mae bawb, Andrew dwi, mi fydd rhai ohonoch chi’n fy nghofio i o’r cwrs y llynedd. Dwi wedi bod yn astudio’r Gymraeg mewn prifysgol yng Ngogledd Cymru a dysgu fel tiwtor Cymraeg am y 9 mlynedd diwetha’. Dwi wedi trochi yn yr iaith (y ffordd orau amdani!), dod yn rhan o’r gymuned Gymraeg, ac mae fy ffrindiau’n dweud fy mod i’n Gymro erbyn hyn (er dwi ddim mor haerllug i ddweud hynny fy hun). Michiganwr Cymraeg rhonc ydw i de! Dwi’n wreiddiol o Holland, MI (lle mae ‘na lot fawr o diwlips) ac wedi cael fy magu ar lannau Llyn Michigan. Methu disgwyl eich gweld chi eto ‘leni a rhai wynebau newydd hefyd. Mi fyddan ni’n cael gymaint o hwyl, dwi’n siŵr!

Hey everybody, my name’s Andrew. Some of you will remember me from the course last year. I’ve been studying Welsh in a university in North Wales and teaching as a Welsh tutor for the past 9 years. I’ve immersed myself in the language (the best way to do it!), feel connected to the Welsh speaking community, and all my friends say that I’m Welshman by now (though I’m not so cheeky to say that myself). I’m a true blue Welsh-speaking Michigander! I’m originally from Holland, MI (where there’s a whole lot of tulips) and grew up on the shores of Lake Michigan. Can’t wait to see you guys again this year and some new faces as well. We’ll have lots of fun, I’m sure!