Shwmae bawb, Kara ydw i ac rydw i’n byw erbyn hyn ar bwys Rhydaman yn Ne Cymru gyda fy ngŵr, tri o blant a Mylo’r ci. Ers 2015 rydw i’n darlithio yn PCYDDS, gyda ffocws ar y Gymraeg ac addysgeg dysgu iaith. Rydw i’n cydlynnu modiwlau Cymraeg Mewn Blwyddyn – cwrs sabothol i athrawon i ddysgu Cymraeg, ac yn Rheolwr Rhaglen y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith, yn ogystal â chydlynu prosiectau amrywiol gyda Rhagoriaith a Peniarth – llawer o amrywiaeth – ond un ffocws sef parhad a ffyniant yr Iaith Gymraeg a chyfle i BAWB ei mwynhau.
Yn wreiddiol, rydw i’n dod o fferm ger Llandrindod, yng nghanolbarth Cymru, – ardal brydferth iawn, ac astudiais Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan cyn symud i Ohio ar Ysgoloriaeth Evan ac Elizabeth Davis. Wedyn, bues i’n Gyfarwyddydd Canolfan Madog ym Mhrifysgol Rio Grande am 4 mlynedd. Ces i’r cyfle i ddysgu ledled Gogledd America a gweithio gyda Chymdeithas Madog! Felly mae’n bleser bod yn ôl gyda chi.
Mae fy niddordebau proffesiynol yn cynnwys methodolegau addysgu’r Gymraeg, technoleg a chaffael iaith, technoleg ymdrochi (fel VR), a chyfleuon a heriau deallusrwydd artiffisial yn a’r Gymraeg. Y tu allan i’r byd gwaith, rydw i’n mwynhau treulio amser ar y traeth gyda’r teulu (a Mylo), rhedeg a chanu mewn côr.
Shwmae bawb, Kara ydw i. I live near Ammanford in South Wales with my husband, three children and Mylo, my little dog. Since 2015 I’ve been lecturing at UWTSD, with a focus on Welsh language and the pedagogy of language learning. I co-ordinate the Cymraeg Mewn Blwyddyn modules – a sabbatical course for teachers to learn Welsh, and am Programme Manager for the Postgraduate Certificate in Language Policy and Planning, as well as managing various projects with Rhagoriaith and Peniarth – lots of variety – but one clear focus – the continuation and prosperity of the Welsh Language and an opportunity for EVERYONE to enjoy it.
I’m originally from a farm near Llandrindod, in beautiful mid Wales, I studied Welsh at the University of Wales, Lampeter before moving to Ohio on the Evan and Elizabeth Davis Scholarship. I then became Director of Canolfan Madog at the University of Rio Grande for 4 years. I had the opportunity to teach Welsh all over North America with Cymdeithas Madog! So it’s a pleasure to be back with you.
My professional interests include Welsh teaching methodologies, technology and language acquisition, immersive technology (such as VR), and the opportunities and challenges of artificial intelligence in Welsh. Outside of work, I enjoy spending time at the beach with family (and Mylo) running and singing in a choir.